Set rhithiol: Roughion – Facebook – 23/10/20
Mae’r gigs rhithiol yn sicr wedi lleihau tipyn yn ddiweddar, ond mae ambell un yn dal i ddigwydd.
Yr un sydd wedi dal ein sylw yr wythnos hon ydy gig Facebook Live Roughion sy’n digwydd am 17:00 heddiw (dydd Gwener).
Tiwniwch mewn bryd hynny am set o diwns electronig gwych a gwallgof Gwion a Steffan!
Cân: ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’ – HMS Morris
Newyddion da iawn o gyfeiriad y grŵp gwych HMS Morris, sef nid yn unig bod sengl newydd ar y ffordd ganddyn nhw’n fuan, ond hefyd y gallwn ni ddisgwyl EP cyn diwedd y flwyddyn.
Cyhoeddwyd wythnos diwethaf y byddan nhw’n rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Partypooper’, ar 6 Tachwedd.
Yna, dros y dyddiau diwethaf maen nhw hefyd wedi datgelu bod EP i’w ryddhau ym mis Rhagfyr ar label Bubblewrap!
Pastille ydy enw’r record fer fydd yn llawn o’r caneuon maen nhw wedi eu recordio a rhyddhau yn ystod 2020…a’r newyddion mwy cyffrous byth ydy ein bod ni’n mynd i allu prynu copïau feinyl o’r record!
Dim ond 100 o gopïau i’r record feinyl lliw fydd ar gael cofiwch, felly bydd rhaid bod yn gyflym. Bydd modd rhag-archebu rhain ar safle Bandcamp HMS Morris a gwefan Bubblewrap ar ddyddiad rhyddhau ‘Partypooper’, sef 6 Tachwedd.
Esgus perffaith i ddewis eu sengl ddiweddaraf, yr ardderchog ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’, fel ein cân yr wythnos hon.
Record: Dwi’n Caru Ciwdod – Senglau 2004-2010
Cyfle i gamu nôl i’r gorffennol a dewis albwm bach o’r archif yr wythnos hon.
Rydan ni’n troi’r cloc yn ôl ddeng mlynedd i 2010, ac at albwm aml-gyfrannog prosiect Ciwdod – cynllun oedd yn helpu hybu cerddoriaeth Gymreig, a lansio gyrfaoedd artistiaid newydd.
Un rhan ardderchog o’r cynllun oedd y gyfres o senglau cyntaf y bu iddyn nhw ryddhau gan artistiaid amrywiol rhwng 2004 a 2010 (mae’r cliw yn enw’r albwm tydi!)
Os edrychwch chi ar restr traciau’r albwm yma fe welwch chi lwyth o enwau cyfarwydd – rhai ohonyn nhw’n dal i fynd heddiw fel Plyci ac Yr Ods, ac eraill a ddisgleiriodd yn llachar am gyfnod nes diflannu mewn rhai achosion, neu arwain at brosiectau eraill cyfarwydd mewn eraill. Ymysg rhain mae Derwyddon Dr Gonzo, Radio Luxembourg, Dybl-L, Creision Hud, Cofi Bach a Tew Shady a’r Poppies.
Er mai senglau cyntaf oedd rhai Ciwdod fel rheol, cyn i’r artistiaid ffeindio label, mae ‘na ambell glasur gwirioneddol yn eu mysg gan gynnwys ‘Nerth Dy Draed’ gan Plant Duw, ‘Madrach’ gan Plant Duw a ‘Lisa, Magic a Porva’ gan Radio Lux.
Artist: Mêl
Newyddion cyffrous yr wythnos yma ydy bod y y grŵp o Ddyffryn Conwy, Mêl, yn paratoi i ryddhau eu sengl newydd ar 30 Hydref.
‘Cusco’ ydy enw trac ddiweddaraf y grŵp, a dyma eu trydydd sengl gan ddilyn ‘Mêl i Gyd’ ym mis Tachwedd 2019 ac yna ‘Plisgyn’ a ryddhawyd ym mis Ebrill eleni.
Prosiect newydd Eryl Prys Jones, gynt o’r grŵp poblogaidd o ardal Llanrwst, Jen Jeniro, ydy Mêl ond mae bellach wedi adeiladu band o’i gwmpas, a dyma’r sengl gyntaf iddynt recordio fel grŵp llawn. Gwnaed hynny yn stiwdio un arall o aelodau Jen Jeniro, Llŷr Pari, sef stiwdio Glan Llyn ym Melin y Coed ar ddiwedd mis Awst eleni.
Mae aelodaeth llawn y grŵp bellach yn cynnwys Rhodri Owen, Morgan Jones a George Amor, yn ogystal ag Eryl ei hun wrth gwrs.
Mae sŵn yn grŵp yn adleiso’r sŵn seicadelig Dyffryn Conwy nodweddiadol yna a sefydlwyd gan Jen Jeniro a Sen Segur, a sy’n cael ei gynnal gan grwpiau’r ardal ers hynny.
Ar y sengl newydd mae cyfraniad y cynhyrchydd, Llŷr Pari, a Geraldine Mac Burney i’w glywed hefyd.
Yn ôl y band mae’r dylanwadau ar y gân yn cynnwys profiad diddorol ger dinas Cusco, neu Cuzco, yn Peru; englyn y ci defaid; MGM, sef albwm Congratulations; cactus San Pedro; Fabien Bistoubrette; Velvet Underground; Soft Machine (y llyfr a’r band); a dyddiadur y daith o 2016.
Union be fyddech chi’n disgwyl gan Eryl rili!
Efallai bod sengl ddiwethaf y grŵp, ‘Plisgyn’, wedi llithro dan y radar rhyw ychydig gan iddi ymddangos yng nghanol pinacl y cloi mawr, ac mae hynny’n drueni gan ei bod hi’n dipyn o diwn:
Un Peth Arall: Fideo Mari Mathias
Mae cyfres gerddoriaeth S4C, Lŵp, wedi cyhoeddi sesiwn fideo o Mari Mathias yn perfformio ei chân werin wreiddiol, ‘Y Cwilt’.
Yn y sesiwn mae Mari’n perfformio’r trac mewn gardd hydrefol yng Nghaerdydd, ac mae’n swnio’n grêt.
Er ei bod yn perfformio ar lwyfannau ers sawl blwyddyn, teg dweud fod Mari’n fwyaf adnabyddus bellach fel enillydd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau BBC Radio Cymru a Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019.
Ers hynny, bu Mari’n brysur yn gigio, gan hefyd ryddhau ei EP cyntaf gyda’r band, Ysbryd y Tŷ, ar label JigCal.
Dyma’r fideo sesiwn: