Gig: Setiau Dienw ar Sianel Gorwelion – 23 Ebrill 2020
Ar ôl dechrau cystal, mae’r setiau byw digidol yn dechrau arafu rhywfaint ar y penwythnosau’n ddiweddar…unai hynny neu dydan ni jyst ddim yn clywed amdanyn nhw (crëwch ddigwyddiadau Facebook os ydach chi’n perfformio bobl!)
Un peth sy’n amlwg hefyd ydy nad oes rhaid cynnal gigs digidol ar y penwythnos – maen nhw’n gweithio llawn cystal ganol yr wythnos!
Felly, ella bydd rhaid newid cyfeiriad bach efo eitem gyntaf Pump i’r Penwythnos, a rhoi sylw i gigs rhithiol y gallech chi fod wedi eu colli.
Yr esiampl cyntaf ydy set gwych Dienw ar Facebook Live Gorwelion neithiwr, 23 Ebrill. Byddwch chi’n cofio Twm yn gwneud set ardderchog fel rhan o Ŵyl Ynysu Y Selar, wel, y tro yma roedd set unigol gan y ddau aelod – un acwstig gan Twm, ac un elecronig gan Osian.
Dyma nhw:
Posted by Horizons / Gorwelion on Thursday, 23 April 2020
Posted by Horizons / Gorwelion on Thursday, 23 April 2020
Mae set byw arall ar Facebook Live Gorwelion heno am 18:00 gyda’r grŵp Mantaraybryn o Gernyw.
Mae Recordiau Libertino wedi bod yn brysur iawn dros y cyfnod ynysu gyda’u sesiynau Lightbulb hefyd – dyma’r diweddaraf gyda Ben Ellis (Sen Segur) yn perfformio cyfyr o ‘Oh Am Gariad’ gan Cate Le Bon:
? Dyma fideo Ben Ellis (Phalcons / Sen Segur) o ‘Oh Am Gariad’ gan Cate Le Bon ar gyfer ‘Lightbulb Sessions’ ??? This is Ben Ellis (Phalcons / Sen Segur) with ‘Oh Am Gariad’ by Cate Le Bon for the ‘Lightbulb Sessions’??I weld y fideo yn llawn ewch i app AMAM neu'r wefan / sianel Libertino To see the video in full go to the AMAM app or the website / Libertino channel? app – app.amam.cymru ? https://www.amam.cymru/? Libertino channel – Watch in full: ? http://app.amam.cymru/libertinorecords/1082
Posted by Libertino on Thursday, 23 April 2020
Cân: ‘Adenydd’ – Teleri
Mae’r gantores electroneg newydd Teleri, wedi rhyddhau sengl newydd ar-lein wythnos diwethaf.
Mae Teleri yn artist cerddorol a gweledol sy’n disgrifio ei cherddoriaeth fel caneuon sy’n archwilio ei phrofiad personol o’r byd natur, gan gyfleu tirwedd newidiol ei hiechyd meddwl.
Ymddangosodd y gantores gyntaf ar ddechrau’r flwyddyn eleni gan ryddhau’r trac ‘Euraidd’ a gafodd ymateb arbennig o dda.
Nawr mae wedi dilyn y trac hwnnw gyda sengl newydd o’r enw ‘Adenydd’ sydd ar gael i’w chlywed a lawr lwytho ar ei safle Bandcamp.
I gyd-fynd â’r sengl newydd, mae ‘na fideo newydd:
Record: Myfyrdodau Pen Wy – Twmffat
Rydan ni wedi gweld sawl albwm o’r gorffennol yn cael eu hail-ryddhau’n ddigidol yn ddiweddar, ac efallai hyd yn oed yn fwy felly ers y cyfnod diweddar yma o ynysu.
Wedi dweud hynny, mae rhai o’r labeli hŷn fel Sain a Fflach wedi bod yn dechrau ail-gyflwyno recordiau o’u hôl gatalog yn ddigidol ers peth amser. Roedd Fflach wrthi eto wythnos diwethaf eto yn rhyddhau dau EP gan Vanta yn ddigidol am y tro cyntaf.
Record arall a gafodd ei rhyddhau’n ddigidol am y tro cyntaf wythnos diwethaf oedd albwm cyntaf y grŵp roc / reggae o ardal Blaenau Ffestiniog, Twmffat.
Rhyddhawyd Myfyrdodau Pen Wy yn wreiddiol ar CD ddeng mlynedd yn ôl ar label Recordiau Bos, ond bellach mae ar gael ar y prif lwyfannau digidol hefyd.
Ceri Cunnington, ffryntman Anweledig, oedd wyneb amlycaf Twmffat ond roedd y grŵp hefyd yn cynnwys nifer o gerddorion amlwg ardal Ffestiniog gan gynnwys Philip Lee Jones o Estella a Gwibdaith Hen Frân yn rhannu’r prif gyfrifoldebau ysgrifennu gyda Ceri.
Rhyddhawyd ail albwm y grŵp, Dydy Fama Ddim yn Madda i Neb, yn 2012 ac mae’n amlwg fod y chwyldro digidol wedi cydio erbyn hynny gan fod y record eisoes ar Itunes ac ati.
Dyma ‘Dim ond Geiriau’ o’r albwm:
Artist: Hap a Damwain
Mae’r grŵp newydd sy’n cynnwys wynebau cyfarwydd i’r sin gerddoriaeth yng Nghymru wedi llwyddo i recordiau a chyhoeddi cwpl o draciau newydd yn ystod y cyfnod yma o ynysu.
Hap a Damwain ydy enw prosiect newydd dau o aelodau’r grŵp Boff Frank Bough, oedd yn grŵp o Ddyffryn Conwy a Dyffryn Clwyd yn ystod y 1980au. Ail-ffurfiodd y grŵp i berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst llynedd ac ers hynny mae dau o’r aelodau wedi mynd ati i ddechrau’r prosiect newydd.
Aelodau Hap a Damwain ydy’r canwr Aled Roberts, sydd hefyd yn chwarae’r organ, a Simon Beech ar y gitâr a phopeth arall. Mae Aled Roberts hefyd yn aelod o’r grŵp Dau Cefn.
Rhyddhawyd EP o’r enw ‘Bws 10’ gan y grŵp yn ddigidol ar ddechrau mis Chwefror. Mae’r EP hwnnw ar gael ar safle Bandcamp y grŵp a’r llwyfannau digidol arferol.
Yn hytrach na segura yn ystod y cyfnod diweddar o ynysu, mae’r aelodau wedi penderfynu mynd ati i fod yn gynhyrchiol. Ddiwedd mis Mawrth fe wnaethon nhw ryddhau fideo ar gyfer y trac newydd ‘Methodist’ – fideo a ffilmiwyd gan ddefnyddio offer e-gyfarfod Zoom.
Yna wythnos diwethaf mae ail drac newydd, a fideo, wedi ymddangos ganddynt ar eu sianel YouTube, sef ‘Tŷ Baw’. Yn ôl y grŵp dim ond y dechrau ydy hyn, a gallwn ddisgwyl mwy o draciau newydd dros yr wythnosau nesaf.
Dyma fideo ‘Methodist’:
Un peth arall: Papur Wal yn cyfro Gorky’s
Mae Papur Wal wedi bod yn gwrando lot ar Gorky’s Zygotic Mynci yn ystod y cyfnod ynysu diweddar, gymaint felly nes cael eu hysbrydoli i fynd ati i recordio eu fersiwn eu hunain o un o ganeuon y grŵp gwych o’r Gorllewin.
‘Spanish Dance Troupe’ ydy’r trac sydd wedi cael triniaeth arbennig gan Papur Wal. Ymddangosodd y gân yn wreiddiol ar yr albwm o’r un enw a ryddhawyd gan y Gorky’s ym 1999 – chweched albwm y grŵp hynod gynhyrchiol o Sir Gâr.
“Ar ôl treulio pythefnos o’r lockdown yn gwrando ar Gorky’s, penderfynom ni i neud cover o’r gân hon oddi ar yr album o’r un enw” meddai’r band.
“Hoffwn ymestyn ein diolchiadau i holl aelodau Gorky’s am fod yn fand mor anhygoel o ysbrydoledig a dylanwadol.”
Cynhyrchwyd a Recordiwyd gan Papur Wal yn ‘The Laurels’, Caerdydd.
Mae’r trac ‘iwedi fastro gan y cynhyrchydd Kris Jenkins, ac mae yntau hefyd wedi cyfrannu I’r recordiad ar y dryms ac offerynnau taro.
Mwynhewch: