Pump i’r Penwythnos – 24 Gorffennaf 2020

Gig: Lewys, Elis Derby – Sianel AM Recordiau Côsh – Gwener, 17/07/20

Ambell gig ar-lein wedi bod dros yr wythnos diwethaf sy’n werth bwrw golwg nôl arnyn nhw.

Os ydach chi eisiau rhywbeth swmpus ond amrywiol, wel beth am ‘Sesiwn ar y Sgrin’ sef fersiwn digidol cloi mawr Sesiwn Fawr Dolgellau – 50 munud o gerddoriaeth gan lwyth o artistiaid ardderchog.

Un o’r artistiaid oedd yn perfformio yn yr ŵyl oedd Bwncath, ac maen nhw wedi cyhoeddi eu fersiwn o ‘Allwedd’ ar gyfer yr ŵyl ar eu safle YouTube:

Mae Bwca wedi bod yn brysur yn ystod cyfnod y cloi, yn rhyddhau senglau ar y naill law ac yn perfformio setiau ar-lein ar y llall. Roedd Steff o’r grŵp yn gwneud set yn Nhafarn y Clo nos Fercher eto, a gallwch chi wylio nôl ar y dudalen Facebook.

 

Cân:  ‘Y Fflam’ – Tapestri

Tapestri ydy enw prosiect newydd y cerddorion cyfarwydd, Lowri Evans a Sera Zyborska, ac mae eu sengl gyntaf allan heddiw.

Prosiect Americana ydy Tapestri, ac enw eu sengl gyntaf sy’n cael ei ryddhau ar label Shimi ydy ‘Y Fflam’.

Daeth y bartneriaeth i fodolaeth ar ôl i’r ddwy gyfarfod wrth berfformio yng Ngŵyl Lorient yn Llydaw llynedd a dechrau trafod y syniad o ffurfio band gyda merched ar y blaen, a chreu eu brand eu hunain o gerddoriaeth Americana.

Dywed y ddwy eu bod wedi eu hysbrydoli’n arbennig gan The Highwomen, sef sipwyr-grŵp o’r Unol Daleithiau sy’n cynnwys Brandi Carlile ac Amanda Shires, a ffurfiodd fel ymateb i ddiffyg cynrychiolaeth artistiaid benywaidd ar radio a gwyliau canu gwlad.

Mi wnaethon ni roi sylw i gynlluniau lansio’r y prosiect yn gynharach yn y flwyddyn, ond yn anffodus, diolch i gyfuniad o argyfyngau naturiol (Storm Ciara) a rhai iechyd cyhoeddus amlwg…fe chwalwyd y cynlluniau hynny.

Ond, mae’n braf gweld fod y ddwy wedi llwyddo i barhau i weithio ar eu recordiadau ac mae ‘Y Fflam’ yn fersiwn Gymraeg o’u trac ‘Open Flame’ a fydd ar eu EP yn y dyfodol agos.

 

Record: Telyn Rawn – Rhodri Davies

Rhywbeth bach gwahanol iawn ydy ein dewis o record yr wythnos hon, sef albwm y telynor ardderchog, Rhodri Davies, sydd allan ers dydd Gwener diwethaf.

Mae’r albwm yn sicr yn unigryw gan fod y cerddor wedi defnyddio offeryn sydd heb gael ei ddefnyddio yng Nghymru ers tua 200 mlynedd – y delyn rawn.

Telyn ydy hon sydd â thannau wedi eu creu o wallt, neu fwng, ceffyl ac mae’r cyfeiriadau cynharaf tuag ati yng Nghyfreithiau Hywel Dda ar ddechrau’r drydedd ganrif ar ddeg. Y gred ydy fod y delyn ddiwethaf o’r fath wedi ei chreu tua 200 mlynedd yn ôl…nes i Rhodri fynd ati i gomisiynu un o’r newydd.

“Mae’r gerddoriaeth ar yr albwm i gyd yn fyrfyfyr” meddai Rhodri Davies.

“Dwi wedi cynllunio ac adeiladu offeryn sydd wedi ei anghofio ers amser maith, arbrofi gyda thannau o wallt ceffyl wedi eu plethu, mynd i’r afael â thestun a barddoniaeth, dysgu technegau a cherddoriaeth o lawysgrif Robert ap Huw ac ymchwilio i bwysigrwydd y ceffyl a chwltiau ceffyl yn niwylliant Cymru.”

Mae Rhodri’n gerddor adnabyddus ac uchel ei barch. Mae wedi rhyddhau pump albwm unigol dros y blynyddoedd, yn aelod o HEN OGLEDD, Common Objects a’r ddeuawd gyda John Butcher. Mae hefyd wedi cyd-weithio â llu o artistiaid adnabyddus eraill.

Mae modd clywed Telyn Rawn ar safle Bandcamp Rhodri, ynghyd â phrynu fersiwn digidol neu CD. Gwerth gwrando os ydach chi ffansi rhywbeth bach gwahanol penwythnos yma’n sicr.

Artist: Tai Haf Heb Drigolion

Mae cerddor ifanc o’r canolbarth wedi dechrau prosiect newydd, gan ryddhau ei sengl gyntaf wythnos diwethaf.

Tai Haf Heb Drigolion ydy enw prosiect cerddorol Izak Zjalic, ac enw’r sengl newydd ydy ‘Saes (Mewn Fana…)’.

Daw Izak o Fachynlleth, ac os ydach chi’n meddwl fod ei enw’n canu cloch, wel gall hynny fod diolch i’w waith ar fidfeos cynnar y grŵp Lewys.

Mae prif ganwr a gitarydd Lewys, sef Lewys Meredydd, wedi bod y ganolog i ddatblygiad  prosiect newydd Izak hefyd.

Syniad Tai Haf Heb Drigolion ydy creu cerddoriaeth a darnau perfformiadol sy’n cyfuno elfennau o gerddoriaeth diwydianol, sŵn, synth-pop a hip-hop, sy’n cael eu cymysgu’n botes arbrofol.

“Crëwyd enw y prosiect trwy drafodaeth gyda Lewys Meredydd, ac mae’n sefyll fel symbol o ddirfodaeth yn yr amserau difyr yma, yn enwedig y sefyllfa ‘lockdown’” meddai Izak.

“Rwyf hefyd wedi datblygu ystyr yr enw i fy nghanfyddiad personol o fyd sy’n gwthio ideoleg o hunaniaeth perffaith lawr wddf y cenhedlaeth i ddod.”

Mae’r sengl gyntaf,  ‘Saes (Mewn Fana…)’, yn addasiad Cymraeg o’r gân ‘Pigs (In There…)’ gan Robert Wyatt, ond gyda gwahaniaeth, fel yr eglura Izak.

“Yn wahanol i’r gân wreiddiol, mae ‘Saes (Mewn Fana…)’ yn arbrofi gyda sound collage a’r defnydd o samplo hen fideo o Gymru a chaneuon prin.

“Yn chwarae mwy fel profiad sonig na chân strwythuredig, mae’r cynhyrchiad dychryllyd a’r geiriau, sydd wedi addasu i’r Gymraeg ac i’r cyd destun, yn creu atmosffer apocalyptig wrth ddisgrifio cerdded gyda’r teulu yn ystod dyddiau COVID-19, a gweld teulu Saesneg yn manteisio ar y sefyllfa yn eu tai haf.”

Yn ôl Izak gallwn ddisgwyl rhagor o draciau gan y prosiect yn fuan, gyda chymysgedd o genres gwahanol – rhai yn fwy hygyrch, ac eraill yn fwy arbrofol.

 

 

Un peth arall: Podlediad Y Sôn

Mae podlediad diweddaraf criw Sôn am Sîn wedi’i gyhoeddi dros yr wythnos ddiwethaf, ac yn ôl yr arfer mae’n werth gwrando.

Mae’r pod diweddaraf yn un ychydig bach yn wahanol i’r arfer o ran naws gan bod aelodau Papur Wal yn ymuno â Geth a Chris am sgwrs. Mae’r sgwrs yn un digon dadlennol lle mae’r hogia’n mynd ar drywydd y gerddoriaeth mae Guto, Ianto a Gwion o’r grŵp yn gwrando arno, a sut mae hynny wedi dylanwadu ar eu cerddoriaeth hwythau.