Gig: Lleuwen – Galeri, Caernarfon – 25/01/20
Penwythnos prysur arall wythnos yma gyda thipyn o gigs bach difyr ar y gweill – nifer o artistiaid Cymraeg yn perfformio y tu hwnt i Glawdd Offa hefyd fel mae’n digwydd.
Nos Wener mae’r delynores Catrin Finch yn perfformio yn Lerpwl gyda Cimarrón. Llongyfarchiadau i Catrin ar ei phriodas ddiweddar hefyd.
Lerpwl ydy’r lle i fod penwythnos yma mae’n ymddangos, gan fod dau fand Cymraeg arall yn perfformio yno nos Sadwrn – Alffa a Dienw i’w gweld yn Sound Basement.
Rydan ni eisoes wedi rhoi tipyn o sylw i Eve Goodman yn 2020, gan gynnwys ei thaith sy’n dechrau ym Mryste a Swindon penwythnos yma. Gigs mewn tai ydy y rhain, gydag Anna Ling yn cefnogi.
Mae Brigyn yn chwarae eu gig cyntaf o’r flwyddyn nos Sadwrn, gydag Y Dail yn gefnogaeth yn Neuadd Efail Isaf.
Cwpl o gigs eraill yn y gogs nos Sadwrn i gloi – yn gyntaf Lleuwen, Rhys Meirion a’r pianydd Llŷr Williams yn y Galeri, Caernarfon ac yna Bryn Fôn a’r Band yn Neuadd y Dref, Dinbych.
Cân: ‘Siarad’ – Parisa Fouladi
Roedden ni’n gyffrous iawn i weld cynnyrch yn ymddangos gan brosiect newydd cerddor sy’n ddigon adnabyddus i ni’r wythnos hon.
Enw llawn Parisa Fouladi ydy Elin Parisa Fouladi, ond efallai y bydd yn fwy cyfarwydd i lawer o ddarllenwyr fel El Parisa. Yn y gorffennol mae wedi bod yn fwy amlwg am ei gwaith pop electroneg, gan gyd-weithio â’r grŵp Clinigol ymysg eraill.
Grêt i weld Elin yn ôl, ac yn arbrofi gyda sŵn sydd ychydig yn wahanol iddi hefyd.
“O’n i isio arbrofi efo miwsig mwy soulful ac offerynnau byw yn lle jyst stwff electro fel dwi di neud yn y gorffennol” meddai Elin wrth Y Selar.
‘Siarad’ ydy ei thrac cyntaf fel rhan o’r prosiect newydd yma ac mae’n sicr wedi troi at gymorth o le da gan weithio gyda’r ardderchog Krissie Jenkins fel cynhyrchydd.
Yn ôl Elin, y bwriad nawr ydy gweithio ar EP gyda Krissie.
Mae Elin hefyd yn gweithio ar brosiect synth pop o’r enw Toombs ar hyn o bryd ac mae modd i chi ffeindio eu cerddoriaeth nhw ar Spotify.
“Dwi’n licio arbrofi efo lot o wahanol fiwsig ar y foment ac yn licio trio pethe allan yn y tŷ a recordio demos fy hun” meddai’r gantores.
Edrych mlaen i glywed mwyn yn fuan ganddi felly, ond am y tro mwynhewch ‘Siarad’:
Record: Cadno – Cadno
Wythnos yma fe wnaethon ni gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer categori’r Record Fer Orau yng Ngwobrau’r Selar, felly roedden ni’n meddwl y byddai’n gyfle i fwrw golwg nôl ar un o gyn enillwyr y wobr yma.
Y tri EP ddaeth i frig y bleidlais gyhoeddus eleni oedd Diwedd y Byd gan I Fight Lions, Lle yn y Byd Mae Hyn? gan Papur Wal; a Tafla’r Dis gan Mei Gwynedd.=
Mae’r ffaith fod record ddiweddaraf Mei Gwynedd ar y rhestr wedi’n hatgoffa o record a gynhyrchwyd ganddo a gipiodd y wobr ddwy flynedd yn ôl, sef EP y grŵp o Gaerdydd, Cadno.
Grŵp gwych oedd Cadno hefyd – pumpawd o Gaerdydd oedd yn creu tiwns pop melodig wedi’i gyfuno gyda synau mwy seicadelig a riffs cofiadwy. Trueni nad ydyn nhw’n gwneud rhyw lawer yn ddiweddar achos ar ddechrau 2018 roedd gennym obeithion mawr i’w gweld yn hedleinio rhai o gigs mwyaf Cymru a thu hwnt.
Er hynny, gallwn ni dal fwrw golwg nôl ar eu EP cyntaf ardderchog sy’n cynnwys pump trac – ‘Helo, Helo’, ‘Mel’, ‘Haf’, ‘83’ a’r hit fawr, ‘Bang Bang’.
Ac os nad ydach chi’n cofio’r fideo gwych ar gyfer ‘Bang Bang’ a gyfarwyddwyd gan Hannah Jarman, wel gadewch i ni eich hatgoffa:
Artist: Geth Vaughan
Enw cyfarwydd, ond un sydd wedi bod yn gymharol dawel ers ambell flwyddyn rŵan.
Da felly gweld y cerddor o Ddyffryn Conwy, sydd bellach wedi ymsefydlu ym Manceinion yn ôl gyda cherddoriaeth newydd. Rhyddhawyd ei sengl ddiweddaraf, ‘Patrymau Angel’, ar label I KA CHING ddydd Gwener diwethaf.
Pwy ydy Geth Vaughan felly? Wel, mae’n debyg y bydd peth o’i gerddoriaeth yn gyfarwydd iawn, yn enwedig felly’r trac ‘Cath’ sydd wedi bod yn hynod o boblogaidd ar Radio Cymru ers sawl blwyddyn.
Yn ogystal â bod yn gerddor dawnus, mae Geth hefyd yn ddylunydd ac animeiddiwr o fri sy’n gweithio o’i stiwdio ym Manceinion dan yr enw ‘Young’.
Mae’r sengl newydd yn un arbennig o bwysig a phersonol i Geth gan iddo ysgrifennu’r gân ar ôl colli ei daid dair blynedd yn ôl.
“Ar y pryd doedd gen i ond geiriau i’r pennill cyntaf, ac mae’r rhan am ‘batrymau angel ar wely gwyn’ yn cyfeirio at fynd nôl i’r ystafell yr oedd Taid ynddi, ar ôl iddyn nhw symud ei gorff, ar dillad gwely heb ei newid.”
Mae Geth wedi recordio’r trac newydd ei hun, ond wedi mynd ar ofyn hen gyfaill o Ddyffryn Conwy, Llŷr Pari, er mwyn ei hail-gynhyrchu.
Ag yntau’n ddylunydd, ni fydd yn syndod mai Geth sy’n gyfrifol am y gwaith celf ar gyfer y sengl sy’n defnyddio ‘lŵp stop motion’ o angel eira’n symud, a grëwyd trwy rwygo tri deg un patrwm allan o gerdyn gwyn gyda’i ddwylo.
Un peth arall: Fideo Bandicoot
Gallai llawer o’n darllenwyr fod wedi colli’r newyddion am ryddhau sengl Gymraeg gyntaf y grŵp o Abertawe, Bandicoot, nôl yn yr haf.
‘Glaw Ail Law’ oedd enw’r sengl Gymraeg gan y pedwarawd sydd eisoes wedi creu tipyn o enw i’w hunain gyda’u cerddoriaeth Saesneg, a sydd wedi bod yn gigio’n galed ers tro byd bellach.
Roedd y grŵp yn llwyddiannus gyda chais cronfa lansio Gorwelion llynedd ar gyfer recordio eu sengl Gymraeg gyntaf, a hey presto, ‘Glaw Ail Law’ oedd ffrwyth eu llafur.
Rhag i ni anghofio am y trac, wythnos diwethaf fe ryddhaodd y grŵp fideo hyrwyddo ar ei chyfer.
Davie Morgan sy’n gyfrifol am y gwaith ffilmio a chyfarwyddo…