Set rhithiol: Gwilym Bowen Rhys – Dydd Glyndŵr
Roedd cyfle i weld Gwilym Bowen Rhys yn perfformio set rhithiol ar Ddydd Owain Glyndŵr, sef dydd Mercher 16 Medi…ac mae’n ymddangos bod nifer fawr iawn o bobl wedi manteisio ar y cyfle i wneud hynny!
Llwyfannwyd y perfformiad arbennig ar dudalen Facebook Menter Iaith Bangor, ac er gwaetha’r ffaith pobl ar y cyfan wedi diflasu ar setiau rhithiol erbyn hyn, llwyddodd Gwil i bycio’r trend a denu cynulleidfa sylweddol.
Roedd dros 6000 o bobl wedi gwylio’r perfformiad o fewn 24 awr o’i ddarlledu, ac erbyn hyn mae’r ffigwr ymhell dros 7500. Boi poblogaidd yn amlwg, ond un a fydd heb amheuaeth yn edrych ymlaen at gael perfformio yn y cnawd eto’n fuan.
O ran pethau ar y gweill, cadwch olwg am raglen digwyddiad rhithiol ‘Out of Focus’ sy’n cael ei gynnal gan FOCUS Wales dros y penwythnos. Lot o sgyrsiau a setiau da ar yr amserlen gan gynnwys 9Bach, Eädyth, Adwaith, Cynefin, Endaf, Eve Goodman, Melys, Sera, Tapestri a The Gentle Good i enwi dim ond rhai.
Cân: ‘Bregus’ – Mr
Newyddion ardderchog sydd wedi torri wythnos diwethaf ydy y gallwn ni ddisgwyl albwm newydd sbon gan Mr yn fuan.
Mr wrth gwrs ydy prosiect diweddaraf cyn aelod Y Cyrff, Catatonia , Y Ffyrc a sawl grŵp arall, Mark Roberts.
Wythnos diwethaf fe ollyngodd Mark drac cyntaf ei albwm newydd ar-lein gan roi blas i ni o’i drydedd record hir gyda Mr.
‘Bregus’ ydy enw’r trac sydd wedi ymddangos ar safle Soundcloud Mr, ac mae’n faled swynol a hyfryd sy’n gweddu’n berffaith i enw’r gân. Mae ‘na adlais o rai o draciau gorau ei ddau albwm blaenorol – os oeddech chi’n hoffi ‘Y Pwysau’ ac ‘Oesoedd’ o’i albwm cyntaf yna byddwch chi’n sicr yn hoffi hon.
Fel y byddech chi’n disgwyl, mae ‘na dinc o hiwmor unigryw Mark hefyd gydag ambell gyfeiriad cynnil ar y clo mawr.
Does dim manylion am union ddyddiad rhyddhau’r albwm newydd eto, ond mae Mr wedi rhyddhau ei ddau albwm diwethaf ar benwythnos olaf mis Hydref 2018 a Hydref 2019, felly mae’n bur debyg mai dilyn yr un drefn fydd y cynllun eleni!
Mae wedi datgelu hefyd mai ‘FEIRAL’ fydd enw ei drydydd albwm.
Dyma ‘Bregus’:
Record: Nos Da – Gildas
Rydan ni am dyrchu nôl yn yr archif ar gyfer ein dewis o record yr wythnos hon, a neidio nôl bron union ddeng mlynedd.
Ym mis Awst 2010, rhyddhawyd albwm cyntaf Gildas sef prosiect Arwel Lloyd, oedd yn fwyaf cyfarwydd fel gitarydd a sidekick Al Lewis ar y pryd. Erbyn hyn, gellid dadlau bod Gildas bron mor amlwg ag Al Lewis ei hun, ac yn sicr mae’r prosiect, a’r cerddor, yn uchel iawn ei barch.
Roedd croeso cynnes i Nos Da ar y pryd, gyda thraciau fel ‘Dal Fi Fyny’, y trac teitl, a’r hyfryd ‘Ysgwyddau Gwan’ yn sefyll allan.
Gildas oedd ar glawr rhifyn Awst 2010 o’r Selar, ac roedd cyfweliad difyr sy’n werth bwrw golwg nôl arno rhwng y cloriau – neb llai na chyn Fardd Plant Cymru, Casia Wiliam, oedd yn ei holi ar ran Y Selar.
Rhyddhawyd ail albwm Gildas, Sgwennu Stori, yn 2013 ac yna Paid a Deud yn 2015. Mae Arwel hefyd wedi cydweithio gyda nifer o gerddorion eraill, gan gynnwys y chwiorydd Greta a Miriam Isaac, ac ei brosiect diweddaraf ydy Priøn, sy’n ei weld yn partneru â Celyn Llwyd Cartwright.
Dyma ‘Ysgwyddau Gwan’:
Artist: R. Seiloiog
Mae’r cerddor electronig o Ddinbych, R. Seiliog, wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener 18 Medi.
‘Reducing Valve’ ydy enw trac diweddaraf R. Seiliog ac mae’n cael ei ryddhau ar label Imprint.
Cynhyrchwyd y trac newydd yn stiwdio Twelfth Vault, a hon ydy’r ail sengl mewn cyfres o draciau tecno arallfydol ganddo.
Mae ‘Reducing Valve’ yn dilyn sengl ddiwethaf R. Seiliog, ‘Polar Hex’, a ryddhawyd ar 14 Awst. Dyma oedd ei gynnyrch cyntaf ers rhyddhau’r EP ‘Folds’ ym mis Tachwedd 2019. Cafodd y sengl honno gefnogaeth gan Gideon Coe ar ei raglen BBC 6Music.
Mae ‘Reducing Valve’ allan ar y llwyfannau digidol diweddaraf ers 18 Medi.
Un peth arall: Fideos hunan-ynysu Bwncath
A hwythau wedi rhyddhau eu halbwm newydd reit ar ddechrau’r cyfnod clo, un band sydd wedi parhau’n brysur dros y misoedd diwethaf ydy Bwncath.
Yn anffodus bu’n rhaid gohirio gig lansio Bwncath II yng Nghlwb Rygni Caernarfon ar 27 Mawrth, a’r gigs hyrwyddo roedden nhw wedi trefnu ar gyfer yr haf.
Ond yn hytrach na digalonni am hynny, mae’r pedwarawd wedi mynd ati i gofleidio’r cyfryngau newydd a recordio cyfres o fideos ynysu ar gyfer caneuon yr albwm, ac eu halbwm cyntaf.
Maen nhw bellach wedi cyhoeddi’r pedwar fideo diweddaraf ar gyfer y caneuon ‘Curiad y Dydd’ ‘Fel Hyn ‘Da Ni Fod’, ‘Hollti’r Maen’ a ‘Caeau’ ar eu sianel YouTube.
Dyma ‘Curiad y Dydd’ i roi blas: