Gig: Melys – Facebook Gorwelion – 24/06/2020
Gig cartref go iawn ydy’n prif ddewis o berfformiad byw dros yr wythnos ddwiethaf.
Roedd Andrea a Paul o’r grŵp gwych Melys, yn cynnal gig rhithiol dwy-ieithog ar dudalen Facebook Gorwelion nos Fercher, ac fel y byddech chi’n disgwyl, roedden nhw’n wych!
Cân: ‘Diwedd y Byd’ – Geraint Rhys
Mae Geraint Rhys wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ar label Akruna Records heddiw.
‘Diwedd (Y Byd)’ ydy enw’r trac newydd gan yr artist o Abertawe, sy’n adnabyddus am ei waith fel canwr protest a sy’n aml â negeseuon cryf yn llifo trwy ei ganeuon.
Fel nifer o draciau sy’n cael eu rhyddhau ar hyn o bryd, mae’r sengl newydd wedi’i dylanwadu’n drwm arni gan gyfnod y cloi mawr, ac fe ysgrifennodd Geraint ‘Diwedd (Y Byd)’ yn ei ystafell wely yn ystod y cyfnod yma.
“‘Mae bod dan glo wedi effeithio ar y byd mewn cymaint o ffyrdd” meddai Geraint Rhys.
“Gan fod pawb wedi’u gwahardd i weld eu teuluoedd ar hyn o bryd, mae’r trac yn adlewyrchiad o’r teimladau hynny.
“Un munud gallwn deimlo’n dda iawn a’r nesaf ddim cymaint, ac er bod y teitl ychydig yn llym, mae’r gerddoriaeth yn llawer mwy calonnogol ac egniol a mae’r gân yno i’n gwneud ni ddawnsio ac edrych ar yr amseroedd eithafol sydd ohoni.”
Bydd llawer ohonoch yn gwybod fod Geraint yn tueddu i gyhoeddi fideos pwerus i gyd-fynd â’i senglau, ac er gwaethaf y cyfyngiadau diweddar mae wedi gwneud hynny eto gyda ‘Diwedd (Y Byd)’.
“Mae’r profiad o ysgrifennu, recordio a ffilmio fideo cerddoriaeth yn fy ystafell wely wedi bod yn llawer o hwyl ac yn bendant wedi fy ngorfodi i fod yn greadigol” meddai’r cerddor.
“…ond rwy’n credu bod hon yn foment wirioneddol gadarnhaol a chwyldroadol i bob cerddor i fod yn fwy annibynnol.”
Record: Y Dydd Olaf (traciau bonws ac ail-gymysgiadau) – Gwenno
Go brin fod unrhyw un sy’n darllen hwn sydd heb glywed am albwm arwyddocaol Gwenno, Y Dydd Olaf.
Rhyddhawyd yr albwm yn wreiddiol yn 2014 ar label Peski, cyn iddo gael ei ail-ryddhau ar label enwog Heavenly Recordings y flwyddyn ganlynol, a dod yn llwyddiant ysgubol.
Cipiodd record hir gyntaf y gantores deitl y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, yn ogystal â gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2015, a heb os mae’n uchel ar restr albyms Cymraeg pwysicaf y mileniwm.
Roedd nifer o draciau bonws yn gysylltiedig â’r albwm, yn ogystal â fersiynau wedi’i hail-gymysgu o’r prif ganeuon, a’r rheiny heb eu rhyddhau’n ffurfiol yn ddigidol nes wythnos diwethaf.
Wrth i Bandcamp ddewis rhoi eu holl elw ddydd Gwener diwethaf, 19 Mehefin, i NAACP (The National Association for the Advancement of Colored People), penderfynodd Gwenno i ryddhau’r casgliad o draciau ychwanegol i nodi hynny.
Mae’r casgliad o draciau’n cynnwys fersiynnau o ganeuon yr albwm wedi’u hail-gymysgu gan R. Seiliog, ISLET, TOY, Plyci ac Andrew Weatherall. Mae hefyd yn cynnwys y traciau bonws ‘Nefolaidd’ (cyfyr o drac Malcolm Neon), ‘Anthem y Weriniaeth Newydd’, ‘A B C CH D’ a ‘Glanyrafon’.
Mae modd lawr lwytho’r casgliad ar safle Bandcamp Gwenno nawr.
Un o’r traciau gorau heb os ydy cyfyr Gwenno o drac ‘Nefolaidd’ gan y cerddor electroneg arloesol o Aberteifi, Malcolm Neon. Bydd fersiwn Gwenno yn gyfarwydd i nifer, ond fersiwn Neon yn llai cyfarwydd. Felly dyma hi i chi:
Artist: Lisa Angharad
Mae Lisa Angharad yn enw a wyneb cyfarwydd i lawer o ddarllenwyr a hithau’n gyflwynwraig boblogaidd a pherfformwraig rheolaidd ar lwyfannau Cymru fel rhan o driawd Sorela gyda’i chwiorydd.
Wel, mae Lisa bellach wedi penderfynu mentro ar ben ei hun ac yn rhyddhau sengl unigol gyntaf heddiw.
‘Aros’ ydy enw’r trac newydd ac mae’n cael ei ryddhau ar label Recordiau Côsh.
Er ei bod hi wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu, mae’r cyfnod dan glo wedi rhoi cyfle i Lisa ganolbwyntio rhywfaint ar ei chariad cyntaf, sef ysgrifennu a pherfformio cerddoriaeth.
Mae Recordiau Côsh a Lisa wedi trafod ei gyrfa unigol ers sbel, gyda’r gantores yn mynegi ei greddf i greu cerddoriaeth piano a llais gydag enaid a groove, wedi ei ysbrydoli gan artistiaid fel Carole King.
Cafodd y sengl newydd, ‘Aros’, ei hysgrifennu a’i recordio yn ystod y cyfnod dan glo gyda’r cerddorion Twm Dylan (bas), Amane Suganami (piano) ac Osian Williams (dryms) yn recordio eu darnau gartref cyn i’r cynhyrchydd, Ifan Jones o gwmni DRWM ,orffen y trac yn stiwdio Sain.
Comisiynodd Lisa yr artist Sioned Medi (SMEI) i animeiddio fideo i’r gân a gafodd ei ddangos am y tro cyntaf ar raglen Heno S4C wythnos diwethaf. Dyma’r fid:
Un peth arall: ‘Hiraeth Ddaw’ – Jacob Elwy
Lot o senglau newydd allan heddiw, felly dyma fanteisio ar y cyfle i roi sylw i un fach arall, sef ‘Hiraeth Ddaw’ gan Jacob Elwy.
Hon fydd y drydedd mewn cyfres o senglau mae Jacob wedi rhyddhau gyda’r grŵp Trŵbz yn ystod 2020 gan ddilyn ‘Drudwy’ a ryddhawyd ddiwedd mis Ionawr ac ‘Annibyniaeth’ a ryddhawyd ym mis Ebrill.
Mae dylanwad personol iawn ar y sengl newydd fel yr eglura’r canwr.
“Ar ôl colli dad ychydig flynyddoedd yn ôl, ffindiais lyfr bach llawn penillion yr oedd o wedi sgwennu.
“Dyma o lle ddoth y geiriau ar gyfer ‘Hiraeth ddaw’. Cân fywiog, ond eithaf trist yn ei ystyr, yn cyffwrdd â thrafferthion alcoho
liaeth.”
Gallwch wrando ar ragflas fer o’r gân isod:
Mae’r trac wedi’i recordio yn stiwdio Bing yng Ngemaes ger Machynlleth, ac mae’r sengl yn cael ei rhyddhau ar label Bryn Rock.
Mae fideo ar gyfer y sengl newydd ar y gweill felly cadwch olwg am hwnnw, ond dyma fideo o fersiwn acwstig o’r trac ar gyfer Ochr 1 yn 2016: