Pump i’r Penwythnos – 27 Mawrth 2020

Gig: Gŵyl Ynysu Y Selar – Ffrwd Facebook Y Selar – Dydd Sul 29 Mawrth 2020

 

Wythnos diwethaf roedden ni’n sôn am yr holl gigs oedd wedi’u gohirio, ac erbyn yr wythnos hon mae’r rheolau gadael y tŷ hyd yn oed yn llymach, felly does wybod pryd fydd cyfle i ni brofi awyrgylch gig byw nesaf.

 

Wythnos yn ôl hefyd roedden ni’n sôn am ambell gig digidol oedd yn dechrau ymddangos trwy Facebook ac Instagram, a da gweld fod hynny wedi ehangu dros yr wythnos ddiwethaf. Neithiwr er enghraifft roedd Mellt yn perfformio ar Instagram Maes B, a Lleuwen yn ffrydio ei ail gig o’r atig ar Facebook.

 

Ar ôl i ni fod yn anog ein cerddorion i fynd ati i gynnal gigs digidol, fe gawsom ni’r syniad gwallgof o gynnal gŵyl rhithiol…a bydd Gŵyl Ynysu Y Selar yn digwydd ddydd Sul yma! Mae’r cyfan yn dechrau am 11:00, gyda cherddoriaeth fyw ar Facebook Live trwy gydol y dydd – artist newydd ar yr awr, bob awr.

 

Ymysg y perfformwyr mae Al Lewis, Gwen Màiri, Dienw, Elis Derby a Sera. Gallwch wylio eu perfformiadau ar dudalen Facebook yr artistiaid unigol, neu gadw golwg ar ffrwd Facebook Y Selar lle byddwn yn eu rhannu. Bydd cyfle hefyd i chi wneud cyfraniad ariannol bach i’r artistiaid yn yr amser heriol yma lle does dim cyfle iddynt gigio.

 

 

Cân: ‘Pob Nos’ – Yr Eira

 

Mae sengl ddiweddaraf Yr Eira allan ers pythefnos bellach, ac mae’n bosib eich bod wedi gweld y fideo gwych sydd wedi’i gyfarwyddo gan Griff Lynch.

 

Deuawd ydy’r sengl newydd rhwng prif ganwr Yr Eira, Lewys Wyn, a’i gyfaill Gwyn Rosser, sy’n gyfarwydd fel canwr a gitarydd Los Blancos. Mae’r ddau yn fêts ers eu dyddiau coleg yn Aberystwyth, ac wedi treulio sawl noson hwyr yn cyfansoddi tiwns gyda’i gilydd yn eu hystafelloedd gwely.

 

Roedd y ddau gyda’i gilydd mewn llofft unwaith eto wythnos diwethaf wrth ynysu, ac fe wnaethon nhw berfformio fersiwn acwstig arbennig o ‘Pob Nos’ sydd wedi’i roi ar YouTube (nodwch boster un o gigs ‘Selar 10’, sef taith ddathlu 10 mlwyddiant Y Selar, ar y wal tu ôl i Lewys gyda llaw – un o gigs cynnar Yr Eira).

 

Mwynhewch:

 

 

Record: Mirores – Ani Glass

 

Ydy, mae albwm cyntaf Ani Glass allan ers cwpl o wythnosau bellach, ond yng nghanol yr holl helynt yn y byd o’n cwmpas ni ar hyn o bryd tydi’r record ddim wedi cael sylw haeddiannol yn ein tyb ni.

 

Mae modd gwrando ar yr albwm i gyd ar YouTube erbyn hyn, a ffrydio ar yr holl lwyfannau arferol wrth gwrs.

 

Gallwch ddysgu mwy am y casgliad trwy ddarllen ein sgwrs gydag Ani yn rhifyn cyfredol cylchgrawn Y Selar, neu gallwch wrando arni’n trafod y casgliad mewn ffilm ddogfen fer a wnaed yn fuan iawn ar ôl iddi orffen y gwaith recordio.

 

Dyma fideo’r trac teitl gwych:

 

 

Artist: Mari Mathias

 

Mae’r gantores werin Mari Mathias yn rhyddhau ei EP newydd, ‘Ysbryd y Tŷ’ heddiw, 27 Mawrth.

Canwr-gyfansoddwraig indi-gwerin ifanc ydy Mari Mathias, sy’n dod yn wreiddiol o’r Gorllewin, a sy’n llais a wyneb cyfarwydd ar lwyfannau gwyliau a gigs amrywiol ers tro byd.

Er dal yn ifanc, mae’n perfformio ar lwyfannau Gorllewin Cymru’n enwedig ers sawl blwyddyn bellach – fel artist unigol, ond hefyd fel aelod o’r band Raffdam.

Cafodd ei geni a’i magu yng Ngorllewin Cymru ac mae wedi datblygu ei steil gerddorol wrth berfformio trwy gydol ei harddegau, gan ennill dipyn o ddilyniant yn y broses.

Bellach, wedi symud i Gaerdydd, mae Mari wedi bod yn brysur yn cydweithio gydag amryw  gerddorion ar ddeunydd newydd gan gipio teitl Brwydr y Bandiau, Maes B, Eisteddfod Genedlaethol 2019.

Yn dilyn rhyddhau ei EP cyntaf ‘Ysbryd y Tŷ’ ar 27 Mawrth, mae Mari’n gobeithio datblygu ymhellach fel artist a’i gyrfa yn y diwydiant cerddorol.

Dyma Mari’n perfformio ‘Helo’ ar gyfer cyfres Lŵp yn ddiweddar:

 

 

 

Un peth arall: Fideos Geth ac Elis

 

Dau foi sydd wedi bod yn brysur wrth ynysu ydy Gethin Griffiths (Sôn am Sîn + bandiau gwerin amrywiol) ac Elis Derby.

 

Mae’r ddau wedi bod yn cyd-weithio i greu fideos bach Twitter o ganeuon amlwg o hirbell, ac maen nhw’n wych – cymrwch olwg ar ffrwd Elis – @ElisDerby.

 

Dyma’r fersiwn wych o ‘More Than Words’ gan Extreme i roi blas i chi: