Pump i’r Penwythnos – 27 Tachwedd 2020

Set rhithiol: Calan, Gwilym Bowen Rhys – Gig Stafell Fyw, Yr Egin, Caerfyrddin – 02/12/20

Ar ôl rhai wythnosau o edrych nôl ar gigs rhithiol, mae’n braf iawn gallu edrych ymlaen at gig wythnos yma.

Bydd sawl un mae’n siŵr yn cofio’r gig Stafell Fyw a ddarlledwyd ar lwyfannau digidol Lŵp ar 14 Hydref. Candelas ac I Fight Lions oedd yn perfformio bryd hynny a Neuadd Ogwen ym Methesda oedd y lleoliad.

Wel, gallwn ni nawr edrych ymlaen at gyfres o dri gig Stafell Fyw arall dros yr wythnosau nesaf.

Bydd y cyntaf o’r rhain yn digwydd nos Fercher yma, 2 Rhagfyr gyda Calan a Gwilym Bowen Rhys yn perfformio yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Bydd yr ail gig bythefnos yn ddiweddarach ac yn cynnwys Adwaith a Pys Melyn yn perfformio yn un o leoliadau gigs amlycaf Cymru, Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd.

Y Galeri yng Nghaernarfon fydd lleoliad yr olaf o’r gigs ar 6 Ionawr pan fydd y grwpiau Gwilym ac Alffa yn camu i’r llwyfan.

Ffion Emyr oedd yn cyflwyno’r gig Stafell Fyw cyntaf ym mis Hydref, a hi fydd wrth y llyw eto ar gyfer y gyfres yma o dri. Bydd Sbin Selar yn ôl hefyd rhwng y perfformiadau gan roi sylw i draciau newydd.

Bydd cyfle i gymryd rhan yn yr hwyl drwy holi cwestiynau i’r artistiaid neu roi barn ar y setiau yn ystod y digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy gofrestru ar wefan y Stafell Fyw – https://stafellfyw.cymru.

Gyda llaw, mae modd i chi brynu setiau Candelas ac I Fight Lions o’r gig diwethaf rŵan hefyd.

 

Cân:  ‘Esgidiau Newydd (Frank Naughton Remix)’ – Yr Eira

Mae Yr Eira wedi rhyddhau fersiwn newydd wedi’i hail-gymysgu o’r gân ‘Esgidiau Newydd’ ers wythnos diwethaf.

Ymddangosodd y trac  yn wreiddiol ar albwm diweddaraf y grŵp, Map Meddwl a ryddhawyd ar 15 Mai eleni, ond mae’r fersiwn newydd yn ganlyniad gwaith ail-gymysgu’r cynhyrchydd dawnus Frank Naughton.

Wrth fynd ati i ymdrin â’r gân mae Naughton wedi dewis trywydd dawns gan chwarae gydag ambell elfen o’r gân wreiddiol yn unig. Yn benodol felly y llinell “llusgo, llusgo, er fy mod i’n gwisgo, gwisgo”, y llinell fas a’r middle 8.

Mae ei benderfyniad i ganolbwyntio ar yr elfennau hyn yn tynnu sylw’n fwyfwy at thema’r gân sef bod esgidiau newydd yn rhyw fath o symbol o’r daith y mae rhywun yn ei ddilyn trwy fywyd.

“Mae o’n gynhyrchydd hen ffasiwn sy’n gweithio mewn modd hollol wahanol” meddai Lewys Wyn o’r Eira am driniaeth Naughton o’r gân.

“O’n i’n gwbod fysa fo’n rhoi stamp hollol unigryw ar y gân felly fo oedd y boi amdani.”

 

Record: Tiwns – Mr  Phormula 

Record newydd sydd wedi cael llwyth o sylw dros yr wythnos ddiwethaf ydy albwm diweddaraf Mr Phormula, Tiwns.

Mr Phormula ydy prosiect cerddorol unigol y rapiwr a bîtbocsiwr amryddawn Ed Holden wrth gwrs – y boi sydd wedi cario hip-hip Cymraeg ar ei ysgwyddau cydnerth dros y ddau ddegawd diwethaf i bob pwrpas.

Dyma record hir gyntaf Mr Phormula ers yr anhygoel Llais a ryddhawyd yn 2017. Yn y cyfamser mae hefyd wedi rhyddhau’r EP Stranger ym mis Ionawr llynedd.

Mae sgwrs gyda’r Selar a gyhoeddwyd ddechrau’r wythnos, fe ddatgelodd Ed nad oedd ganddo unrhyw fwriad i ryddhau albwm eleni, ond yn hytrach mai’r cynllun oedd i ganolbwyntio ar y band Bardd.

Wrth gwrs, fe newidiodd pethau’n reit handi wrth i Covid-19 gyrraedd a’r clo mawr ddechrau. Yn ffodus iawn, mae gan Ed stiwdio yn ei gartref, oedd newydd ei adnewyddu jyst cyn y clo…felly penderfynodd y cerddor a chynhyrchydd fynd ati i weithio ar albwm i’r diawl!

“A dyna lle gychwynnodd y daith gerddorol ma – nyts! Ma’r holl beth ‘di cymryd rhyw chwech mis solid” meddai Ed wrth Y Selar.

Yn ôl y cerddor, dyma’i record mwyaf uchelgeisiol hyd yma…sy’n ddweud mawr gan mai ei lais oedd yr unig offeryn a ddefnyddiwyd ar ei albwm diwethaf!

Mae’r albwm wedi bod yn denu canmoliaeth o bob cyfeiriad ers ei ryddhau, ac un o’r traciau mwyaf poblogaidd heb os ydy ei ddeuawd gyda Lleuwen, ‘Normal Newydd’:

 

 

Artist: Ritual Cloak

Dyma chi fand diddorol iawn sydd wedi rhyddhau sengl newydd ers dydd Mercher, 25 Tachwedd.

Cyn hyn mae Ritual Cloak wedi rhyddhau cerddoriaeth yn Saesneg, gan gynnwys yr albwm sy’n rhannu enw’r grŵp yn 2019.

Ond, trac Cymraeg ydy eu sengl ddiweddaraf, sef ‘I Lawr Ymhlith y Tywyllwch’ sydd allan ar label Bubblewrap Records.

Grŵp dau aelod o Gaerdydd ydy Ritual Cloak  sef Daniel Barnett, gynt o’r grŵp Samoans, a’r drymiwr a chynhyrchydd Andrew Saunders. Cyfarfu’r ddau yn 2013 ar ôl i Daniel ateb hysbyseb oedd yn chwilio am gitarydd i ymuno â band y gantores Jemma Roper. Daeth y ddau’n ffrindiau’n syth pan daeth i’r amlwg eu bod yn rhannu’r un cariad tuag at arbrofi gyda cherddoriaeth electronig.

Pan chwalodd Samoans yn 2018, dechreuodd y ddau arbrofi gyda haenau offerynnol a soundscapes piano, a datblygodd hynny i’r albwm llwyddiannus sy’n rhannu enw’r grŵp a ryddhawyd yn 2019.

Cyfansoddwyd y gân newydd yma’n wreiddiol ar gyfer y prosiect cymunedol, ‘The Girl Who Wouldn’t Give Up’, ac mae’r argyfwng hinsawdd a’r risg i fyd natur yn themâu craidd i’r gân.

Mae’r gân yn adlewyrchu chwedl hynafol Afanc, creadur sy’n boddi a dinistrio’r tir. Neges y gân ydy pwysleisio’r ffaith ei bod yn hollbwysig i gymunedau dynnu ynghyd i rwystro’r dirywiad amgylcheddol sy’n digwydd ar hyn o bryd.

 

 Un Peth Arall: Podlediad Merched yn Gwneud Miwsig

Mae prosiect Merched yn Gwneud Miwsig, sy’n cael ei redeg gan Maes B, wedi lansio podlediad sy’n rhoi sylw gerddorion benywaidd o Gymru.

Elan Evans sy’n cyflwyno’r podlediad gan holi menywod blaenllaw y sin.

Cyhoeddwyd y podlediad cyntaf wythnos diwethaf, ac mae’n talu sylw i’r grŵp o Gaerdydd o’r 1990au cynnar, Y Gwefrau.

Ers hynny mae dau bennod arall wedi eu cyhoeddi sy’n cynnwys sgyrsiau gyda Kizzy Crawford a Hana Lily.

Bydd penodau newydd yn cael eu cyhoeddi ar ddyddiau Llun a Mercher wythnos nesaf hefyd i gwblhau’r gyfres.

Mae’r podlediad bellach ar lwyfannau Spotify, Apple ac Android felly dylech chi allu cael gafael ar y penodau lle bynnag rydach chi’n arfer cael eich podlediadau.