Pump i’r Penwythnos – 28 Chwefror 2020

Gig: Gŵyl y Pethau Bychain – Machynlleth – 28/02/20-01/03/20

A hithau’n benwythnos Gŵyl Dewi, dim syndod fod tipyn o gigs yn digwydd ar hyd a lled a wlad.

Digwyddiad bendigedig yr olwg ydy Gŵyl y Pethau Bychain sy’n digwydd dros y penwythnos ym Machynlleth. Ymysg yr amrywiaeth o artistiaid sy’n perfformio mae Lleuwen, Gwilym Bowen Rhys, Gai Toms a Meinir Gwilym, gyda llawer mwy ar yr rhestr hefyd.

Mellt ydy’r prif fand yn gig Gŵyl Dewi Llanbedr Pont Steffan, sy’n cael ei gynnal yn Neuadd Fictoria heno. Un o grwpiau ifanc y De Orllewin, Specol Haul, sy’n cefnogi a DJ Morgan yn troelli.

Mae’n brysur yn Ngheredigion heno, gydag opsiynau eraill sy’n dod a dŵr i’r dannedd yn Aberteifi ac Aberystwyth. MR sy’n parhau â’i daith ym Mar Selar, Aberteifi gyda Hyll yn cefnogi a chawl ar y fwydlen hefyd! Yna yn Aberystwyth mae taith arall yn parhau wrth i daith ‘Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn’ Cowbois Rhos Botwnnog ymweld ag Amgueddfa Ceredigion.

Mae’r Welsh Whisperer yn brysur ddydd Sadwrn gyda gigs yn Abertawe yn y prynhawn ac yna yn The Moody Cow yn Llwycelyn ger Aberaeron gyda’r hwyr.

Mae taith MR yn symud i’r gogledd nos Sadwrn, ac i CellB ym Mlaenau Ffestiniog yn benodol lle bydd enillwyr gwobr ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar, Kim Hon, yn cefnogi.

Bydd taith Cowbois Rhos Botwnnog hefyd yn parhau nos Sadwrn wrth iddyn nhw droi am Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin.

Un gig bach arall i’w grybwyll, sef ymddangosiad cyntaf Meic Stevens ers sbel, a hynny yn Snails, Caerdydd.

Hefyd, mae un digwyddiad bach gwahanol i’w grybwyll sef sesiwn Sôn am Sîn, ‘Degawd Mewn Miwsig’, sy’n rhan o weithgareddau Gŵyl Dewi Arall yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon pnawn fory. Yws Gwynedd ac Awen Schiavone sydd ar y panel sgwrsio gyda Chris a Geth o’r blog.

 

Cân: ‘Tynnu Gwaed’ – Rhodri Brooks

Rhyddhawyd sengl Gymraeg newydd y cerddor o Gaerdydd, Rhodri Brooks, ‘Tynnu Gwaed’ ar ddechrau mis Chwefror.

Nawr, mae fideo ar gyfer y trac ‘newydd, Tynnu Gwaed’, wedi’i gyhoeddi ar-lein ac un bach digon da ydy o hefyd!

Recordiau Bubblewrap sy’n gyfrifol am ryddhau cynnyrch diweddaraf y cerddor amryddawn sydd hefyd yn aelod o’r grŵp Smudges.

Rhodri ei hun sydd wedi bod yn gyfrifol am gyfarwyddo, saethu a golygu’r fideo ac mae’n serennu Molly Sinclair-Thomson fel Dr Sausage!

Yn ogystal â bod yn gerddor gwych, mae Rhodri hefyd yn ffotograffydd talentog ac mae ei luniau o Georgia Ruth yn amlwg iawn yn rhifyn diweddaraf Y Selar.

 

Record: Amen – Mr

Gyda dau gig olaf taith hyrwyddo albwm Amen gan Mr yn digwydd dros y penwythnos, mae’n gyfle i roi sylw i ail albwm prosiect diweddaraf Mark Roberts.

Rhyddhawyd ei albwm ddiwedd mis Hydref, ac mae’n ddilyniant i Oes a ryddhawyd bron union flwyddyn i’r diwrnod cyn hynny.

Mae Mark yn un o gerddorion amlycaf a mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth – yn gyn aelod o’r Cyrff, Catatonia, Y Ffyrf, Sherbet Antlers, Messrs a The Earth. Llynedd, derbyniodd wobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar ar y cyd a’i gyfaill oes, Paul Jones, sy’n aelod o fand Mr.

Yn sicr roedd rhyddhau Oes, a’r ymateb cadarnhaol a gafodd yr albwm, yn adfywiad i Mark, ac mae rhyddhau Amen flwyddyn yn ddiweddarach yn brawf fod yr alawon yn llifo o’r newydd. Un peth sy’n sicr am Mark Roberts ydy ei fod yn gwybod sut i gyfansoddi tiwn, ac mae Amen yn llawn o diwns!

‘Waeth i mi fawr Ddim’ oedd sengl gyntaf y casgliad, a honno sydd wedi bod yn fwyaf poblogaidd ar y tonfeddi ond mae traciau fel ‘Glaw Glaw Glaw’ a ‘Hapus Rŵan’ yr un mor gofiadwy.

Rhywbeth arall sydd dal y sylw ar waith unigol Mark ydy’r caneuon mwy lleddf ac mae ‘Poen Yn Bol’ a’r ardderchog ‘Ydy Adar yn Angylion’ yn esiamplau gwych ar Amen.

 

Artist: Eve a Sera

 

Rydan ni eisoes wedi rhoi rhywfaint o sylw i brosiect difyr newydd y ddwy gantores dalentog Eve Goodman a Sera.

Rhyddhawyd eu sengl gyntaf ar y cyd, ‘Gaeafgwsg’, nôl ar ddechrau mis Ionawr, ond nawr mae ail sengl allan ganddynt.

‘Rhwng y Coed’ ydy enw’r trac newydd a ryddhawyd ddydd Gwener diwethaf ac mae allan ar label CEG Records. Y sôn ydy fod EP ar y gweill gan y ddwy hefyd felly mae hynny’n sicr yn rywbeth i edrych ymlaen ato.

Mae Eve a Sera yn ddwy o artistiaid cynllun Gorwelion y BBC ar hyn o bryd, ac mae Sera hefyd wedi bod yn cydweithio gydag Endaf, sydd hefyd ar y prosiect hwnnw, yn ogystal â Lowri Evans yn ddiweddar.

Bu Eve yn brysur iawn dros y mis diwethaf gyda thaith fach o gigs hefyd.

Methu aros i glywed mwy gan y prosiect yma. Mwynhewch ‘Rhwng y Coed’:

 

Un peth arall: Map Caerdydd ‘Mirores’

Mae Ani Glass ym mhobman ar hyn o bryd wrth iddi baratoi i ryddhau ei halbwm cyntaf.

Mirores ydy enw record hir newydd y gantores o Gaerdydd, a bydd allan yn swyddogol ar label Recordiau Neb ar 6 Mawrth.

Ani oedd yn cael sylw pennod ddiweddaraf cyfres ‘Curadur’ Lŵp neithiwr, gan sôn am ei dylanwadau.

Yr hyn sydd wedi dylanwadu ar ei cherddoriaeth sy’n cael sylw’r eitem newydd gyda hi yn rhifyn newydd Y Selar hefyd.

Ac mae’n debyg mai un o’r prif ddylanwadau arni, ac yn sicr felly ar Mirores, ydy dinas Caerdydd. Yn ôl Ani, ar wahan i un, mae pob cân ar ei halbwm cyntaf yn cynrychioli man penodol yng Nghaerdydd.

Mae’n werth gwylio’r ffilm ddogfen fer yn trafod yr albwm a dylanwad y ddinas ar sianel YouTube Recordiau Neb i ddysgu mwy.