Gig: Dafydd Hedd – Lansiad Albwm Hunanladdiad Atlas – Facebook @dafyddheddmusic – 6pm, Sadwrn 4 Ebrill
Gan nad oes unrhyw gigs traddodiadol ar hyn o bryd, rydan ni wedi sôn lot am gigs digidol dros y cwpl o wythnosau diwethaf gan annog artistiaid i fynd ati i’w cynnal er mwyn lleddfu ar ein colled.
Ddydd Sul diwethaf wrth gwrs oedd dyddiad yr ŵyl gerddoriaeth Gymraeg ‘rithiol’ gyntaf wedi’i churadu gan Y Selar – Gŵyl Ynysu. Roedd yn ddiwrnod cofiadwy hefyd – mwy am hyn isod.
Ers hynny mae nifer o gigs digidol eraill wedi bod yn ymddangos gan gynnwys ffrydiau byw gan ein cyfeillion yn Gorwelion dros y nosweithiau diwethaf. Roedd Eve Goodman yn perfformio neithiwr, ac mae Sera am 14:00 ddydd Sul yma. Yn wir, mae cyfres o sesiynau byw ar y gweill gan Sera gyda’i label, CEG.
Mae Recordiau Libertino hefyd wedi bod yn brysur yn cyhoeddi fideos ‘Lightbulb Sessions’ ar eu cyfryngau, a Maes B hefyd gyda chyfle i weld Gwilym yn gwneud sesiwn ‘Maes B o bell’ nos Sadwrn yma.
Artist arall sydd wedi gorfod newid ei gynlluniau ydy Dafydd Hedd, sy’n rhyddhau ei albwm newydd, Hunanladdiad Atlas, fory. Bydd yn gwneud set byw ar Facebook ac Instagram fel lansiad.
Band arall sydd wedi gorfod bod yn greadigol ar ôl canslo eu gig lansio ydy Bwncath. Roedd eu halbwm newydd, Bwncath II, allan wythnos diwethaf ac yn hytrach na digalonni am fethu cynnal y lansiad oedd wedi’i gynllunio, dyma fideo gwych o un o’r traciau maen nhw wedi cyhoeddi:
Cân: ‘Cwyr’ – SYBS
Mae’r grŵp ôl-bync o Gaerdydd, SYBS, wedi rhyddhau eu hail sengl heddiw.
‘Cwyr’ ydy enw’r trac sy’n ddilyniant i’w sengl gyntaf, ‘Paid Gofyn Pam’ a ryddhawyd fis Ebrill diwethaf. Fe sefydlodd honno’i hun fel un o anthemau’r haf llynedd wrth i’r grŵp ifanc wneud y rownds yn y gwyliau Cymreig a gigs eraill.
Mae albwm ar y gweill gan y pedwarawd hefyd, ac maent eisoes wedi treulio deuddydd dwys yn recordio hanner traciau’r record hir gyda’r cynhyrchydd amlwg Steffan Pringle. Rhan o ffrwyth llafur y dyddiau hynny ydy’r sengl newydd sydd wedi’i hysbrydoli’n rhannol gan gyflwr meddwl ffryntman y grŵp, Osian Llŷr. “Cân am osgoi gwaith a’r rôl y mae anwybodaeth yn ei gymryd mewn cymdeithas, sut mae cyfalafiaeth yn portreadu prynwriaeth fel gwrthgyffur i broblemau pobl yn hytrach na rhoi atebion a datrysiad i faterion sy’n poeni pobl” meddai Osian.
“Mae’r gân hefyd am yr ymateb greddfol o roi pen yn y tywod wrth wynebu tasgau a heriau mawr mewn bywyd. Er bod y geiriau, yn wreiddiol, wedi’u hysbrydoli gan fy mhrofiadau personol i o iechyd meddwl, roeddwn yn awyddus i bobl ddehongli’r geiriau eu hun.
“Dwi wrth fy modd yn ychwanegu elfennau swreal a seicadelic i’r geiriau personol, dwi’n hoffi hefyd gadael i’r gwrandäwr ddehongli’r gân yn ei ffordd ei hun. Er bod y gân yn trafod teimladau cyffredinol, dwi’n gobeithio y gallai’r bobl uniaethu â’r teimlad gan ychwanegu eu stori i’r gân.”
Dyma fideo newydd y sengl o sianel Lŵp:
Record: Swish – Omaloma
Mae albwm cyntaf y grŵp o Ddyffryn Conwy, Omaloma, yn cael ei ryddhau heddiw, 3 Ebrill.
‘Swish’ ydy enw record hir y grŵp seicadelig sy’n cael ei arwain gan George Amor, a label recordiau Cae Gwyn sy’n rhyddhau.
Rhyddhaodd Omaloma sengl ‘Walk The Dog’ fel tamaid i aros pryd ddiwedd mis Tachwedd gan ddilyn cyfres o senglau eraill ganddynt ers 2015. Teg dweud bod tipyn o edrych mlaen wedi bod at record hir gyntaf y grŵp a gobeithio bydd cyfle i’w gweld yn chwarae’r caneuon yn fyw dros yr haf – ond, os mai styc gartref fyddwn ni am fisoedd eto, wel, mae’r sŵn yn gweddu’n berffaith ar gyfer dyddiau diog yn mwynhau’r haul yn yr ardd.
Aelod amlwg arall o’r grŵp, Llŷr Pari sydd wedi recordio a chynhyrchu’r albwm yn Stiwdio Glan Llyn, Melin y Coed. Aelodau erail y grŵp ydy Daf Owain (Bas), Alex Morrison (synths) a Gruff ab Arwel (gitar).
Dyma un o ganeuon newydd yr albwm, ‘Super Melys’:
Artist: Bwca
Doedd hi ddim yn annisgwyl i glywed y newyddion am ohirio’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron fore Llun diwethaf.
Roedd y newyddion braidd yn eironig i’r grŵp o’r Canolbarth, Bwca, wrth iddyn nhw baratoi i ryddhau eu cân deyrged i dref leiaf Ceredigion heddiw.
‘Tregaron’ ydy enw’r trac newydd gan y grŵp hwyliog sy’n cael ei arwain gan Steff Rees o Aberystwyth, a’i label yntau, Recordiau Bwca, sy’n rhyddhau.
Perfformiwyd y gân yn ddiweddar ar raglen Noson Lawen, S4C, ac fe’i ysgrifennwyd gan Steff rai blynyddoedd yn ôl yn dilyn ‘sbin randym’ yn y car i Dregaron ar ddiwrnod braf – taith a gododd ei galon fel petai’n rhyw fath o werddon i’w enaid, yn ôl y cerddor.
Cân ganu gwlad cyfoes ei naws ydy ‘Tregaron’ ac yn perfformio ar y trac mae Steff Rees (gitârs a llais), Rhydian Meilir (drymiau), Nick Davalan (gitâr fas), Kristian Jones (gitâr), Ffion Evans (llais), Dilwyn Roberts Young (organ geg) ac Iwan Hughes (offer taro).
Recordiwyd, cynhyrchwyd a mastrwyd y gân gan Ifan Jones ac Osian Williams o gwmni Drwm yn Stiwdio Sain.
Y newyddion gwych pellach ydy fod albwm cyntaf Bwca ar y gweill, ac mae Tregaron yn flas o’r hyn sydd i ddod. Er na fydd y Steddfod yn Nhregaron fis Awst, bydd yno yn Awst 2021 ac mae’n debygol iawn bydd ‘Tregaron’ yn rhan amlwg o’r trac sain bryd hynny.
Dyma berfformiad diweddar Bwca o’r sengl newydd a Noson Lawen:
Un peth arall: Gŵyl Ynysu – gwylio nôl
Oedd, teg dweud bod Gŵyl Ynysu wedi bod yn hit mawr ddydd Sul diwethaf gyda miloedd o bobl yn gwylio’r perfformiadau byw naill ai ar y pryd neu’n ddiweddarach.
Os nad oeddech chi’n ddigon ffodus i ddal yr 13 artist ddydd Sul, na phoener achos mae modd gwylio pob perfformiad yn eich hamdden. A gan ein bod ni’n bobl hynod o glên, rydan ni wedi casglu’r cyfan mewn un man cyfleus i chi allu dewis a dethol.
I roi blas i chi, dyma berfformiad cyntaf y dydd gan Jo o’r Cledrau
Posted by Y Cledrau on Sunday, 29 March 2020