Pump i’r Penwythnos – 30 Hydref 2020

Set rhithiol: Dafydd Hedd – Facebook / Instagram – 29/10/20

Da ni’n hoffi Dafydd Hedd achos mae o’n gerddor ifanc sydd jyst yn gwneud stwff. Dim malu cachu, jyst mynd amdani.

Rydan ni wedi gweld hyn yn gynharach yn y flwyddyn wrth iddo ryddhau ei ail albwm, Hunanladdiad Atlas, yn annibynnol.

Mae o hefyd wedi bod yn barod iawn i berfformio setiau rhithiol yn ystod y cyfnod clo hefyd, gan gynnwys yng Ngŵyl Ynysu Y Selar reit ar ddechrau’r cyfnod. Ac nid jyst sticio rhyw ambell gân ar Facebook mae o wrth gynnal gig rhithiol, ond chwarae set lawn, dim nonsens.

Roedd ei set rhithiol diweddaraf ar Facebook ac Instagram neithiwr, a dyma hi:

 

Cân:  ‘Y Tywysog a’r Teigr’ – Y Dail

 Rydan ni wedi rhoi cryn dipyn o sylw i brosiect newydd Y Dail dros y cwpl o wythnosau diwethaf, ac mae rheswm da iawn am hynny…maen nhw’n swnio’n grêt.

Y Dail ydy’r prosiect cerddorol newydd o Bentre’r Eglwys ger Pontypridd sy’n cael ei arwain gan y cerddor 17 oed, Huw Griffiths.

Huw sy’n cyfansoddi’r caneuon, chwarae’r gitâr, yr allweddellau ac yn canu ac er ei fod wedi ffurfio’r  band yn wreiddiol yn 2018, mae eu sengl gyntaf allan heddiw.

Roedd Y Selar yn falch iawn i gynnig y cyfle cyntaf i chi weld y fideo ar gyfer ‘Y Tywysog a’r Teigr’ ddechrau’r wythnos, ac mae’r ymateb wedi bod yn hynod o gadarnhaol felly mae’n amlwg mai nid dim ond ni sydd wedi cyffroi ynglŷn ag addewid Y Dail!

Mae’n debyg bod lein-yp Y Dail yn amrywio gan ddibynnu ar argaeledd offerynwyr, ond yr un aelod parhaol arall yn y grŵp ydy chwaer Huw, Elen, sy’n chwarae’r gitâr fas…

Y newyddion da ydy fod Huw yn y broses o recordio cyfres o senglau gyda’r cynhyrchydd amlwg Kris Jenkins, a’r bwriad hirdymor ydy rhyddhau albwm cyntaf hydref nesaf.

Dyma’r fideo ar gyfer ‘Y Tywysog a’r Teigr’ sydd wedi’i ffilmio gyda ffrind ysgol i Huw ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd

Record: Motorik – Ghostlawns

Mae cryn edrych mlaen wedi bod at ryddhau albwm cyntaf Ghostlawns, a do, fe ddaeth y diwrnod o’r diwrdd heddiw ac mae Motorik allan ar label Sub Records.

Rhyddhawyd eu sengl ‘Ffoi’ fel tamaid i arod pryd fis Medi, ac roedd honno’n dilyn ‘Breaking Out’, a ryddhawyd nôl ym mis Mawrth.

Er mai eleni rydym yn gweld y cynnyrch cyntaf gan Ghostlawns, mae’r grŵp wedi ymddangos mewn gwyliau showcase sy’n cynnwys FOCUS Wales a gŵyl Sŵn cyn hyn, ynghyd â chyfrannu caneuon ar gyfer albyms aml-gyfrannog ‘Hope Not Hate’ a ‘Iechyd Da’ sef yr albwm deyrnged Gorky’s Zygotic Mynci.

Recordiwyd Motorik yn stiwdio Music Box, Caerdydd, gyda’r cynhyrchydd Charle Francis.

Mae union aelodau’r grŵp yn cael ei gadw’n ddirgel, ond maent i gyd yn gerddorion amlwg yng Nghymru ac wedi chwarae mewn grwpiau sy’n cynnwys Right Hand Left Hand, Gulp, The Gentle Good, Cotton Wolf, Manchuko a Damo Suzuki.

Dyma’r trac promo ar gyfer yr albwm sydd wedi ei chwarae ar orsafoedd mewn sawl rhan o’r byd, ‘Y Gorwel’:

Artist: Eädyth ac Izzy Rabey

Grêt i weld dwy gantores hynod o dalentog yn cyd-weithio ar yn rhyddhau EP newydd heddiw.

Mas o Ma ydy enw’r record fer newydd sy’n gweld Eädyth ac Izzy Rabey yn dod ynghyd i greu cerddoriaeth neo-soul a hip hop.

Mae Eädyth wedi hen sefydlu ei hun fel cerddor electronig o bwys dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan gyd-weithio â nifer o artistiaid eraill wrth wneud hynny.

Efallai bydd  Izzy Rabey ar y llaw arall yn enw bach llai cyfarwydd.

Rapiwr dwy-ieithog newydd a ddaw’n wreiddiol o Fachynlleth ydy Izzy, ac yn debyg i Eädyth caiff ei hysbrydoli gan fynyddoedd hyfryd Machynlleth.

Mae Izzy hefyd yn gyfarwyddwr theatr ac ymarferwraig theatr syn rhannu ei hamser rhwng Caerdydd a Llundain.

Mae wrthi’n hyfforddi i fod yn gyfarwyddwr yn The Royal Court ac wedi cyfarwyddo gyda National Theatre Wales.  Mae hefyd yn gyfarwyddwr artistig i Run Amok Theatre Company a’r ŵyl/cwmni theatr Under the Sun / Dan yr Haul.

Izzy hefyd ydy un hanner y ddeuawd pync / gwerin / RnB amgen, The Mermerings.

Bu’r ddwy artist yn cyd-weithio ers mis Chwefror 2020 ar ôl gweithio gyda’i gilydd ar gynhyrchiad theatr Elinor Cook ‘Microwave’ a gafodd ei gyfarwyddo gan Izzy. Eädyth oedd yn gyfrifol am y dyluniad sain ar gyfer y cynhyrchiad.

Wedi’u hysbrydoli gan artistiaid fel Haitus Kaiyote, Lauryn Hill ac Erykah Badu, mae Eädyth ac Izzy wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd ar ‘Mas o Ma’ yn ystod cyfnod y Cloi Mawr eleni. Mae’r EP yn un neo-soul a hip-hop sy’n cynnwys geiriau dwys a theimladwy, a chynhyrchiad esmwyth ffynci a llawn curiad.

“I fi, roedd ysgrifennu’r EP yma yn gyfle i mi siarad yn onest am iechyd meddwl, perthnasau a’r hyn mae’n golygu i fod yn ddynes queer yng Nghymru” meddal Izzy.

“Rydw i wedi fy ysbrydoli gan hip hop old school fel De La Soul, The Roots, Bahamadia a The Fugees yn ogystal â bandiau Cymraeg fel Pep Le Pew. Fy hoff fand yw Hiatus Kaiyote ac rydw i wedi fy ysbrydoli gan artistiaid fel Erykah Baduand Sumer Walker, felly mae wastad dylanwadau neo-soul yn fy hoff gerddoriaeth.”

Mae’r sengl ‘Dyma Ni’ yn rhoi blas da i chi o’r record fer, ac mae hi’n diiiiwn…

Un Peth Arall: Rhest Fer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig

Mae trefnwyr gwobr flynyddol Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig wedi cyhoeddi manylion rhestr fer y wobr eleni ac mae cynrychiolaeth gref o ran artistiaid Cymraeg ar y rhestr.

A hwythau’n nodi cyflwyno’r wobr am y degfed tro, mae’r trefnwyr wedi penderfynu cynyddu’r nifer o albyms sydd ar y rhestr hir i 15 eleni.

Y grŵp o Gaerfyrddin, Adwaith, oedd enillwyr y wobr llynedd am eu halbwm Melyn, ac mae recordiau Cymraeg eraill wedi ennill yn y gorffennol gan gynnwys Y Dydd Olaf gan Gwenno yn 2015 ac Adfeilion gan The Gentle Good yn 2017.

Ymysg yr enwau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni mae Ani Glass a’i halbwm gyntaf, Mirores; Cotton Wolf a’r albwm Ofni; Georgia Ruth a Mai; Gruff Rhys a’i albwm diweddaraf Pang!; Los Blancos a’u halbwm cyntaf Sbwriel Gwyn; ac Yr Ods gyda’r record gysyniadol Iaith y Nefoedd.

Bydd enillydd y wobr eleni’n cael ei gyhoeddi ar ddydd Iau 19 Tachwedd – mae penderfyniad anodd ar ddwylo’r panel beirniaid glei.

Fyddai hi ddim yn deg i ni ddangos ffafriaeth at un o’r albyms sydd ar y rhestr fer eleni, felly dyma ‘Newid’ o’r record fuddugol llynedd, sef Melyn gan Adwaith: