Gig: Seiat yn Y Selar – 01/08/19
Rydan ni am neidio nôl mewn amser ar gyfer ein dewis o gig penwythnos yma, union flwyddyn i fod yn fanwl gywir!
Mae rheswm da am hynny, gan y dylen ni fod yn paratoi am wythnos o gerddoriaeth fyw yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron. Doedd hynny ddim i fod eleni’n anffodus, ond flwyddyn yn ôl roedden ni ar drothwy’r Eisteddfod yn Llanrwst wrth gwrs, lle cafwyd wythnos o gigs gwych….wel, bron iawn!
Fe gofiwch bod y tywydd wedi amharu dipyn ar y cynlluniau yn Nyffryn Conwy, a bu’n rhaid canslo hanner gigs Maes B ac ambell beth arall…ond roedd hi dal yn wythnos gofiadwy.
Un peth aeth yn ei flaen jyst cyn i’r Steddfod ddechrau’n swyddogol oedd ‘Seiat yn Y Selar’ arbennig yn yr hen fanc ar sgwâr Llanrwst. Mi wnaethon ni gynnal y digwyddiad Facebook Live yma fel lansiad dwbl ar gyfer ail-ryddhau EP Yr Atgyfodi gan Y Cyrff, a hefyd y llyfr Llawenydd Heb Ddiwedd yn adrodd hanes y grŵp chwedlonol o Lanrwst.
Esgus perffaith i rannu’r digwyddiad rhithiol gyda chi unwaith eto:
Lansiad llyfr ac EP Y Cyrff: hel atgofion gyda Mark Roberts, Mark Kendall a Dylan Hughes o’r band, Toni Schiavone, Myrddin ap Dafydd, cerddoriaeth gan Alun Tan Lan a Y Cledrau, a mwy.Mae’r llyfr Llawenydd Heb Ddiwedd am hanes Y Cyrff ar gael nawr, yn ogystal ag EP Yr Atgyfodi sy’n cael ei ail-ryddhau ar ôl 30 mlynedd.
Posted by Y Selar on Thursday, 1 August 2019
Cân: ‘Pydru’ – Patryma
Mae’r grŵp roc amgen newydd o ardal Caernarfon, Patryma, yn rhyddhau eu hail sengl heddiw.
‘Pydru’ ydy enw sengl newydd y grŵp, ac roedd cyfle cyntaf i glywed y trac ar wefan Y Selar nos Fercher.
Mae’r sengl yn ddilyniant i’r trac cyntaf a ryddhawyd gan Patryma nôl ym mis Mawrth, sef ‘Disgyn’.
Er hynny, yn ôl y ffryntman, Siôn Foulkes, dyma’r gân gyntaf a ysgrifennwyd ganddo a’r gitarydd Daniel McGuigan cyn recriwtio’r ddau aelod arall.
“Ni’n dau wnaeth recordio’r offerynnau rhyngom ni, gyda Dan yn recordio’r gitars a’r bas, a fi’n recordio’r dryms a’r canu” meddai Siôn wrth Y Selar.
Mae’r sengl wedi’i recordio gyda Russ Hayes yn stiwdio Orange ym Mhenmaenmawr ychydig cyn i’r pandemig Covid-19 gydio.
Yn ôl Siôn, mae’r grŵp yn ysu i gael chwarae’r traciau’n fyw, a gobeithio na fydd rhaid aros yn rhy hir nes hynny.
Record: Yuke Yl Lady – Eilir Pierce
Daeth heulwen i lonni wythnos Y Selar tua bore Mercher gyda’r newyddion bod EP newydd allan gan y gwych a’r gwallgof, Eilir Pierce.
Dyma gynnyrch cyntaf y cerddor a gwneuthurwr ffilm ers yr EP, 36, ar ryddhawyd ganddo yn 2015. Roedd hwnnw’n ddilyniant i EP arall o’r enw 2012 – casgliad o draciau byw a sesiwn a ryddhawyd ganddo’n gynharach yn y flwyddyn honno.
Fel mae’r enw’n awgrymu, mae’r casgliad byr diweddaraf, sydd mewn gwirionedd yn naw trac felly’n nes ar gryno albwm nag EP er tegwch, yn gweld Eilir yn troi at yr iwcalele fel prif offeryn. Roedd ei EP diwethaf wedi’i recordio ar hen recordiwr pedwar trac, ond mae’r casgliad newydd yn ddigidol, er bod Eilir yn pwysleisio mai pedwar trac sydd ganddo ar y peiriant recordio unwaith eto.
“Y syniad o gyfyngu fy hun i recordio caneuon llif yr ymennydd gyda ukulele a llais yn unig” eglura Eilir am y casgliad newydd.
“Fel arfer dim ond y take cyntaf sy’n cael ei ddefnyddio, y take lle ma’r gân yn cal ei chyfansoddi yw hwnnw.
“Dwi’n licio elfen byrfyfyr y peth, wastad wedi. Mae’n od neud o ar ben fy hun, ond fel hyn oeddwn i’n recordio 25 mlynedd yn ôl ac yn teimlo’n llai self concious.”
Mae’r EP newydd yn cael ei ryddhau’n annibynnol ar safle Bandcamp Eilir – dyma ‘Nes i ffindio ti ar lawr’ i roi blas i chi.
Artist: Mared
Artist sydd wedi bod yn fywiog iawn yn ystod cyfnod y cloi mawr ydy Mared.
Bydd Mared yn gyfarwydd i lawer fel aelod o’r grŵp o Ddyffryn Clwyd, Trŵbz. Mae hefyd yn prysur greu enw i’w hyn ym myd y sioeau cerdd – yn wir, roedd y gantores o Lanefydd yn rhan o gast sioe West End ‘Les Mis’ yn y Theatr Sondheim, Llundain ddechrau’r flwyddyn eleni.
Fel pob adloniant byw arall, mae’r West End wedi dod i stop, ac mae’n bur debyg bod hynny wedi rhoi cyfle i Mared droi nôl ar ei cherddoriaeth ei hun. Mae eisoes wedi rhyddhau tair sengl ar label I KA CHING, sef ‘Y Reddf’, ‘Dal ar y Teimlad’ ac y ddiweddaraf, ‘Over Again’ ym mis Mehefin eleni.
Heddiw, mae sengl arall allan ganddi sef ‘Pontydd’. Tamaid pellach i aros pryd ydy’r sengl ddiweddaraf, gydag albwm newydd ar y gweill a chyhoeddiad wythnos yma mai 21 Awst fydd dyddiad rhyddhau Y Drefn – edrych mlaen yn fawr.
Dyma fideo ‘Pontydd’ i ddod a dŵr i’r dannedd:
Un peth arall: Archif luniau Gwobrau’r Selar – nôl i 2015
Wrth wneud rhywfaint o dacluso digidol, rydan ni wedi dod ar draws ambell beth bach diddorol o’r gorffennol – rhai pethau sydd heb weld golau dydd o’r blaen hyd yn oed.
Pa amser gwell felly i rannu’r cynnwys yma o’r gorffennol, a’i rannu gyda dilynwyr ffyddlon Y Selar
Neithiwr fe wnaethon ni gyhoeddi’r cyntaf o’r cynnwys difyr yma, sef oriel luniau Gwobrau’r Selar o fis Chwefror 2015. Roedd hwn yn gyfnod oes aur go iawn Gwobrau’r Selar, ac mae’r lluniau’n adlewyrchu hynny – cymrwch gip i ysgogi’r atgofion…a rhag ofn y gwelwch eich hun yn y dorf!
Gallwn ddatgelu hefyd ein bod wedi darganfod ambell recordiad o Wobrau’r Selar y flwyddyn honno, felly cadwch olwg am rhain dros y dyddiau nesaf.
Lluniau o’r Archif – Galeri Gwobrau’r Selar, Chwefror 2015 (Rhan 1)
Lluniau o’r Archif – Galeri Gwobrau’r Selar, Chwefror 2015 (Rhan 2)