Pump i’r Penwythnos – 31 Ionawr 2020

Gig: MR – Clwb Ifor Bach, Caerdydd – 31/01/20

Anodd edrych tu hwnt i heno am ein dewis o brif gig yr wythnos hon wrth i MR gamu nôl i’r llwyfan am y tro cyntaf ers Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst.

Bryd hynny, fe wnaeth Mark Roberts gloi wythnos yr Eisteddfod yn ei dref enedigol yn gig nos Sadwrn Cymdeithas yr Iaith.

Er mai Llanrwst fydd ei ‘adra’ am byth debyg iawn, fe ellid dadlau mai Clwb Ifor Bach ydy ei gartref ysbrydol ag yntau wedi treulio sawl nos Sadwrn yn sipian ar ei beint yn Stryd y Fuwch Goch. Dogfennwyd ei gig yno llynedd gan ein ffotograffydd Betsan @ Celf Calon ac mae yn ôl yna heno gyda chefnogaeth gan SYBS a Surreal Kinnock. Tocynnau i gyd wedi hen werthu cofiwch!

Mae’n benwythnos gwerinol iawn ei naws mewn mannau eraill, gan ddechrau heno gyda sesiwn werin yn Nhafarn yr Half Moon ym Mhont Tyweli.

Mae’r naws gwerinol yn parhau nos fory wrth i Bwncath berfformio yn Nhafarn Tu Hwnt i’r Afon yn Rhydyclafdy.

Bydd Eve Goodman yn parhau â’i thaith fer gartrefol nos fory gyda gig yn Sprout Health Foods, Cei Newydd, Cernyw tra bod yr hyfryd Lleuwen yn chwarae yn y Seler, Aberteifi.

 

Cân: ‘Symud ‘Mlaen’ – Al Lewis

Mae cryn edrych mlaen ers peth amser at ryddhau albwm newydd Al Lewis, Te yn y Grug, sydd allan ar 21 Chwefror.

Rydan ni eisoes wedi cael blas o’r albwm diolch i’r sengl Nadoligaidd, ‘Cân Begw’ a gafodd ei rhyddhau fis Rhagfyr.

Yna, ddechrau mis Ionawr mae’r ail sengl o’r record hir newydd wedi ymddangos ar ffurf ‘Symud ‘Mlaen’.

A gan ddilyn esiampl ‘Cân Begw’, mae Al wedi creu fideo i gyd-fynd â’i sengl ddiweddaraf hefyd.

Ffilmiwyd y fideo newydd yn Stiwdio Urchin, ac fe’i cyfarwyddwyd gan Ben A. Williams.

 

Record: Films – Sen Segur

Tydi hi ddim yn anarferol i ni ddewis albwm o’r gorffennol yn y categori yma, ac mae rheswm da am wneud hynny eto’r wythnos hon.

Rhyddhawyd albwm cyntaf, ac unig record hir y grŵp gwych o Ddyffryn Conwy, Sen Segur, yn 2015 yn wreiddiol.

Bryd hynny, rhyddhawyd yr albwm yn ddigidol yn unig, ond ddim ond ar safle Bandcamp Sen Segur trwy Recordiau Cae Gwyn. Roedd gweld yr albwm yn ymddangos yn esgor ar deimladau cymysg hefyd gan i’r grŵp chwalu yn fuan iawn wedyn – eu record hir gyntaf oedd eu hanrheg ffarwel 

Nawr, ers wythnos diwethaf, mae’r albwm hefyd ar gael ar yr holl lwyfannau digidol poblogaidd arferol, felly gallwch ffrydio neu lawr lwytho ar ba bynnag un o’r rheiny rydach chi’n ffafrio!

Tybed a ydy hyn hefyd yn arwydd o fwy i ddod gan Sen Segur hefyd – fe wnaethon nhw ail-ymddangos ar lwyfan dros dro yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst fis Awst a chael ymateb ardderchog. Tybed yn wir….gallwn ni ond gobeithio!

Gwrandewch ar yr albwm llawn isod

Artist: Gruff Rhys

Mae penwythnos Gwobrau’r Selar yn agosáu, a newyddion mawr y gwobrau wythnos diwethaf oedd hwnnw mai Gruff Rhys fyddai’n ennill ein gwobr Cyfraniad Arbennig eleni.

Go brin fod angen egluro rhyw lawer ynglŷn â pham fod Gruff yn deilwng o’r wobr – ers dechrau’r 1980au mae wedi bod yn aelod blaenllaw o rai o grwpiau pwysicaf Cymru gan gynnwys Ffa Coffi Pawb a Super Furry Animals.

Ers pymtheg mlynedd union bron, mae hefyd wedi parhau i arloesi’n gerddorol fel artist unigol gan ryddhau ei albwm cyntaf, Yr Atal Genhedlaeth, ar 24 Ionawr 2005.

Y syniad gyda’r wobr yma ydy dathlu hirhoedledd, ac roedd y ffaith i Gruff ryddhau ei albwm Cymraeg diweddaraf yn ystod 2019, ‘Pang!’ yn gyfle rhy dda i’w golli er mwyn talu teyrnged iddo.

Bydd gig arbennig i ddathlu cyfraniad Gruff dan ofal Huw Stephens ar nos Iau 13 Chwefror – dim ond nifer cyfyngedig iawn o docynnau sydd i’r gig felly bachwch nhw’n gyflym.

Dyma Gruff yn perfformio trac teitl yr albwm yn fyw o ŵyl Lleisiau Eraill diolch i griw Lŵp:

Un peth arall: Podlediad #17 Y Sôn

Da rŵan, podlediad newydd gan griw blog Sôn am Sîn.

Chwarae teg iddyn nhw, fe wnaethon nhw gadw at eu haddewid llynedd a chyhoeddi’r podlediad yn fisol, ac roedd pob un yn werth gwrando arnyn nhw.

Ar ddechrau blwyddyn mae Chris a Geth yn rhoi sylw i’r llwyth o gerddoriaeth maen nhw wedi bod yn gwrando arno’n ddiweddar. Yn cael sylw arbennig ar dop y podlediad mae albwm, neu’n hytrach ‘prosiect’, diweddaraf Yr Ods, Iaith y Nefoedd sydd wrth gwrs yn record gysyniadol ar y cyd â nofel fer gan Llwyd Owen o’r un enw.

Maen nhw hefyd yn bwrw golwg nôl ar gig mawr cyntaf y flwyddyn yn y Gogledd, sef Gŵyl Neithiwr, a gynhaliwyd yng nghanolfan Pontio, Bangor yn ddiweddar.

Ramblo deallus a difyr gan y ddau yn ôl yr arfer: