Set rithiol: Set Carcharorion – Gwobrau’r Selar, Chwefror 2015
Dim lot i’w weld yn digwydd o ran gigs rhithiol wythnos yma, OND, dyma trît bach arbennig iawn i chi – set byw llawn Carcharorion o Wobrau’r Selar yn Chwefror 2015:
Cân: ‘Gola’ – Teleri
Rydan ni wedi bod yn dilyn gyrfa’r gantores electroneg addawol, Teleri, eleni ac mae wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ddydd Mawrth.
‘Gola’ ydy enw’r trac newydd gan Teleri, ac roedd cyfle cyntaf i’w chlywed ar wefan Y Selar nos Iau diwethaf, 27 Awst.
Dyma’r ddiweddaraf mewn cyfres o senglau gan y gantores a ddaeth i’r amlwg gyntaf ar ddechrau’r flwyddyn. Rhyddhawyd ‘Euraidd’ ganddi ym mis Ionawr cyn dilyn hynny gyda’r traciau ‘Adenydd’ ddiwedd mis Ebrill, ‘Hawdd’ ym mis Gorffennaf a ‘Haf’ ar ddechrau mis Awst.
Mae Gola wedi ei ysbrydoli gan gerddoriaeth felodig deep house Lane 8, ei naws lleddfol a’i alawon hypnotig.
Trwy ddarganfod Lane 8, mae Teleri wedi dechrau dod i adnabod y byd dawns finimalaidd, gan ddatblygu traciau sy’n perthyn i’r genre.
Yn ôl Teleri mae’r arddull yn benthyg ei hun at greu teimlad gwrthrychol ac aruchel sy’n codi’r ysbryd.
Gan fod cerddoriaeth yn gallu chware rhan mor bwysig i wella lles, mae Teleri yn gobeithio creu profiadau sy’n bositif ac sy’n dathlu hapusrwydd a rhyddid.
Mae’r sengl wedi’i rhyddhau ar safle Bandcamp Teleri.
Record: Cwm Gwagle – Datblygu
Mae’r grŵp chwedlonol, Datblygu, wedi rhyddhau fersiwn feinyl o’u halbwm newydd Cwm Gwagle ddydd Gwener diwethaf, 28 Awst.
Mae fersiwn feinyl nifer cyfyngedig o’r record hir newydd ar gael mewn siopau annibynnol bellach, cyn i’r caneuon ymddangos yn ddiweddarach ar y llwyfannau digidol ar 11 Medi.
Ac os nad ydy fersiwn feinyl hyfryd yn ddigon, mae’r record 12” hefyd yn cynnwys deunydd bonws.
Go brin fod angen cyflwyniad ar Datblygu sydd yn un o fandiau mwyaf arloesol Cymru ers dechrau’r 1980au. Mae David R. Edwards a Pat Morgan wedi rhoi bywyd newydd i’r grŵp dros y blynyddoedd diwethaf, ond dyma eu record hir gyntaf ers Porwr Trallod yn 2015.
Recordiwyd ‘Cwm Gwagle’ dros benwythnos yng Nghaerdydd jyst cyn y cloi mawr, dan ofal y cynhyrchydd Frank Naughton ac fe ryddhawyd y sengl ddwbl ‘Cymryd y Cyfan / Y Purdeb Noeth’ ar 7 Awst fel tamaid i aros pryd nes yr albwm.
Yn ôl y label mae’r albwm yn wahoddiad i fentro i mewn i fyd arbennig iawn. Mae’r caneuon yn gweithio fel arwyddbyst ar ein taith trwy ddyffryn sydd ymhell o fod yn un gwyrdd a dymunol.
Mae rhai o’r straeon yn ddoniol, mewn modd tywyll, rhai fel ‘Cariad Ceredigion’ yn atgofion personol, ac eraill fel ‘Ffon Bagal Dyffryn Cwnin’ yn fabula pur.
Mae rhai traciau, fel un hanner y sengl ddwbl, ‘Cymryd y Cyfan’, yn egnïol ac yn llawn agwedd. Mae eraill yn olrhain breuddwydion coll sydd yng ngeiriau Dave ei hun, yn brwydro’r ‘Emynau Hyll o San Ffag-end’ – ac weithiau’r cyfan sydd gennym i gydio ynddo yw llais un dyn yn cwffio i gael ei glywed dros sirens sy’n wylo yn y stryd.
Dyma’r sengl ddwbl:
Artist: Ystyr
Enw newydd, ond cerddor cyfarwydd sy’n gyfrifol am y gerddoriaeth hyfryd dan sylw.
Ystyr ydy prosiect newydd un o aelodau’r grŵp gwallgof a gwych, Plant Duw. Rhys Martin oedd gitarydd y grŵp ddaeth i’r amlwg tua 2005 – 2006, ac mae’n wych gweld fod y cerddor talentog yn ôl gyda phrosiect newydd.
Mae cwpl o draciau wedi eu cyhoeddi ar-lein gan Ystyr eleni ac mae modd clywed rhain ar Soundcloud a Bandcamp. Rhyddhawyd trac newydd, ‘Deffro’, wythnos diwethaf ac mae’n dipyn o diwn.
Un peth arall: Ffilm ddogfen Arenig
Ffilm ddogfen fach fer ond ddifyr iawn i chi wythnos yma diolch i gyfres Lŵp, S4C.
Mae’r ffilm yn gip tu ôl i’r llenni wrth i Gwilym Bowen Rhys recordio ei albwm diweddaraf, Arenig.
Rhyddhawyd yr albwm ym mis Mehefin llynedd, ac mae Gwil, fel y byddech chi’n disgwyl, wedi bod yn gigio llwyth ers hynny’n hyrwyddo.
Yn y ffilm mae Gwilym yn trafod y broses o recordio’r albwm yn Stiwdio Sain, Llandwrog. Rydym yn clywed hefyd gan y cerddorion sy’n chwarae ar yr albwm sef Marit Fält, Patrick Rimes a Gwen Màiri.
Mae’n ddifyr hefyd clywed gan gynhyrchydd yr albwm, Aled Wyn Hughes, sy’n sôn rhywfaint am sut beth ydy gweithio gyda Gwilym yn y stiwdio.
Prif lun: Carcharorion @ Gwobrau’r Selar, Chwefror 2015 (gan Celf Calon)