Gig: Math Llwyd – Facebook – 04/06/20
Rydan ni wedi gweld lot o setiau ‘un dyn/dynes a’i gitâr’ yn ystod y cloi mawr ac mae hynny wedi bod yn grêt, ond mae’n neis gweld ambell beth bach yn wahanol hefyd.
Neithiwr, roedd set hollol wahanol gan Math Llwyd ar Facebook. Mae Math yn aelod o Y Reu, ac yn bennaf gyfrifol am yr elfen electronig o gerddoriaeth y grŵp gwych hwnnw. Dim syndod ei bod hi’n bangar o set electronig ganddo fo neithiwr felly:
Posted by Mathonwy Llwyd on Thursday, 4 June 2020
Cân: ‘Enfys’ – Elin Fflur
Mae Elin Fflur yn rhyddhau ei sengl newydd, ‘Enfys’ heddiw a hynny er budd elusen Tarian Cymru.
Dyma gynnyrch cerddorol cyntaf Elin ers peth amser, a’r nod ydy cefnogi’r elusen sy’n darparu offer PPE i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru.
Yng nghanol y cyfnod ansicr mae pawb wedi bod yn byw ynddo ers misoedd bellach, mae ‘Enfys’ yn gân gobeithiol sy’n llawn lliw, curiadau pop a llais cyfarwydd pwerus Elin yn llifo trwyddi.
“Mewn cyfnod lle da ni gyd wedi arafu ges i gyfle i fynd nôl at y piano” meddai Elin.
“Ddim yn rhywbeth dwi’n cael llawer o amser i’w wneud yn arferol. Nes i ysgrifennu rhyw dair cân yn yr wythnos gyntaf o’r lockdown, ond hon wnaeth gydio go iawn.
“Do, mi ges i fy ysbrydoli gan y cyfnod rhyfedd yma ond yn fwy gan y plant sydd wedi gosod enfys yn eu ffenestri, symbol o obaith, yn codi calon ac yn cynnig cysur.”
Mae’r trac, fel y thema, yn sicr yn lliwgar ac yn un sy’n codi calon, ac yn ôl y gantores boblogaidd roedd yn fwriad ganddi dalu teyrnged i staff hanfodol y gwasanaeth iechyd.
“Gwir amdani dim ots pa mor ddu ag anobeithiol mae’n ymddangos, mae’r plant, y genhedlaeth nesaf yn ddigon o reswm i ni gyd frwydro ymlaen at ddyddiau gwell a dal yn y gobaith hwnnw.
“Mae hefyd yn deyrnged i’r gweithwyr iechyd sy’n wynebu’r cyfnod yma heb gŵyn, dim ond parhau gyda’i dyletswyddau. Nid yw ysgrifennu cân yn ddigon o ddiolch yn amlwg ond mae’n rhywbeth yn y gobaith y g’neith godi gwên. Diolch anferth i Mei Gwynedd a Sion Llwyd am ychwanegu eu hud iddi. Gobeithio bydd pawb yn mwynhau Enfys! ”
Bydd yr holl arian sy’n cael ei godi gan werthiant y trac yn mynd yn syth tuag at brynu offer gwarchodol i weithwyr iechyd a gofal ledled Cymru.
Roedd cyfle i weld fideo ar gyfer y sengl newydd ar raglen Heno, S4C nos Fercher – dyma’r fid:
Record: Salem – Endaf Emlyn
Pwt o newyddion difyr yr wythnos yma ydy fod Recordiau Sain i ryddhau tri o albyms ardderchog Endaf Emlyn ar lwyfannau digidol am y tro cyntaf ddydd Gwener nesaf, 12 Mehefin.
Y dair record dan sylw ydy Salem, Syrffio Mewn Cariad a Dawnsionara.
Rhyddhaodd Endaf Emlyn ambell record yn Saesneg yn y chwedegau, a hynny ar label enwog Parlaphone, cyn troi at y Gymraeg. Ei albwm Cymraeg cyntaf oedd Hiraeth, a ryddhawyd ym 1973 ar label Recordiau Dryw. Dyma un o’r LPs cyfoes go iawn cyntaf yn y Gymraeg, ac mae’n record wych a phrin iawn erbyn hyn.
Er hynny, mae’n siŵr mai ei ail albwm, Salem, a ryddhawyd ym 1974 ar Recordiau Sain ydy’r enwocaf. Mae hynny’n rhannol oherwydd y clawr eiconig sy’n cynnwys llun enwog yr artist Sydney Curnow Vosper, ond hefyd gan mai albwm cysyniadol oedd Salem – yn wir, mae’n cael ei chydnabod fel record gysyniadol gyntaf yn y Gymraeg.
Mae’r cysyniad yn cylchdroi o gwmpas llun Vosper a’r prif gymeriad yn y llun, Siân Owen Ty’n-y-Fawnog. Ymysg caneuon amlycaf yr albwm mae ‘Salem yn y Wlad’, ‘Aderyn Du’ a ‘Sian Owen Ty’n y Fawnog’
Mae’n job cael gafael ar draciau Endaf ar-lein ar hyn o bryd, felly dyma rywbeth bach gwahanol sef cyfyr o ‘Salem yn y Wlad’ gan y cerddor hynod dalentog, Aeddan:
Artist: Cwtsh
Rhyddhaodd grŵp newydd sbon o’r enw Cwtsh eu sengl gyntaf wythnos diwethaf.
‘Gyda Thi’ ydy enw’r sengl newydd, ac mae ar gael ar safle Bandcamp y grŵp
Er yn brosiect newydd, mae‘n deg dweud bod Cwtsh yn bach o siwpyr grŵp sy’n cynnwys tri aelod profiadol iawn.
Mae’r triawd yn cynnwys Alys Llywelyn-Hughes, sydd hefyd yn perfformio dan yr enw Lunar Glass; Siôn Lewis, fu’n aelod o nifer o grwpiau fel Edrych am Jiwlia, Y Gwefrau ac Y Profiad yn y gorffennol; a Betsan Haf Evans sydd wedi bod mewn llwyth o fandiau gan gynnwys Y Panics, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Genod Droog, Kookamunga, Gwdihŵs a Pwdin Reis.
Dechreuodd y prosiect yn dilyn sgwrs rhwng Alys a Sion mewn gig yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst llynedd, ac mae Betsan wedi ymuno’n fwy diweddar.
“Rydym yn adnabod ein gilydd trwy ffrindiau….ac roeddwn i’n gwybod fod Sion yn gerddor arbennig, a phan welis i o yn noson Mark Cyrff, yn Eisteddfod Llanrwst y llynedd, penderfynon ni ddechrau prosiect gyda’n gilydd” eglura Alys.
“Es i i Lanrwst gyda’r awydd i ddechre prosiect cerddorol newydd, a digwydd taro ar draws Alys yn y gig” ychwanega Sion.
“roeddwn i wedi gweld ar Facebook ei bod hi wedi dechre rhyddhau caneuon dawns-electroneg dan yr enw Lunar Glass, ond doeddwn i ddim wedi eu clywed nhw eto. Wedodd hi fod awydd gyda hi i wneud rhywbeth yn y Gymraeg hefyd, ac wedyn dechreuon ni gydweithio dros y we, yn danfon syniadau nôl a mlaen o bellter.”
Yn dilyn hyn aeth y ddau ati i gyfansoddi a recordio, ac mae chwech neu saith trac wedi bod ar y gweill ganddynt – ‘Gyda Thi’ ydy’r cyntaf o’r rhain i weld golau dydd.
Dywed Alys mai ei phrif ddylanwadau ydy cerddorion pop a dawns gan restru Florence and The Machine a Billy Eillish ymysg y prif ddylanwadau – mae’n hoff o gerddoriaeth “sy’n creu drama”.
Nawr fod Betsan wedi ymuno â’r grŵp fel drymiwr, mae’n rhoi sgôp ychwanegol i’r hyn maen nhw’n gwneud yn ôl Alys.
Gallwn ddisgwyl mwy gan Cwtsh yn fuan iawn mae’n ymddangos, ac yn ôl Alys bydd y trac nesa’n cymryd mantais llawn o sgiliau offerynnol yr aelod diweddaraf, ac yn “llawer mwy bywiog”.=
“Dwi wastad yn awyddus i gymryd cyfeiriadau newydd mewn cerddoriaeth ac fy mreuddwyd yw i berfformio ein deunydd newydd gyda cherddorfa” meddai Alys.
Am y tro, mwynhewch yr hyfryd ‘Gyda Thi’:
Un peth arall: Tafwyl Digidol
Cafwyd cyhoeddiad heddiw y gallwn ni ddisgwyl gweld un o wyliau cerddoriaeth mwyaf Cymru’n digwydd yn ddigidol eleni.
Bydd Tafwyl 2020 yn digwydd yn ddigidol ar 20 Mehefin, gyda swp o artistiaid cerddorol yn perfformio, ynghyd â gweithgareddau amrywiol eraill.
Bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio’n fwy trwy’r dydd ar safle AM, a’r artistiaid sy’n perfformio ydy Al Lewis, Adwaith, HMS Morris, Casi, Alun Gaffey, Mellt, Hana, Mei Gwynedd, Gareth Bonello a Rhys Gwynfor.
Yr hyn sy’n gwneud yr ŵyl bach yn wahanol i’r gigs rhithiol eraill rydan ni wedi gweld yn ystod y cloi mawr ydy bod y perfformiadau i gyd yn cael eu darlledu’n fyw o’r un safle, sef cartref Tafwyl yng Nghastell Caerdydd. Yn ôl y trefnwyr, dyma un o wyliau cyntaf y DU i ffrydio o leoliad yr ŵyl.