Pump i’r Penwythnos – 7 Awst 2020

Gig: Maes B o Bell – Yr Eira, Ani Glass, Gwilym – 7/08/20 – Radio Cymru / Cymru Fyw

Mae ambell beth bach difyr a gwahanol wedi bod yn digwydd wythnos yma fel rhan o ddarpariaeth Gŵyl AmGen, sy’n cymryd lle yr Eisteddfod Genedlaethol ddylai fod yn Nhregaron rŵan wrth gwrs.

Un o’r pethau mwyaf trawiadol oedd y gig Tŷ Gwerin a recordiwyd yng Nghanolfan Pontio, Bangor, yn gynharach yn yr wythnos, ac a ddarlledwyd ar Cymru Fyw neithiwr. Roedd hwn yn sicr yn wahanol iawn i’r holl gigs rhithiol ar Facebook Live dros y misoedd diwethaf, ac yn cynnwys perfformiadau gan Tant, Vrï a Cowbois Rhos Botwnnog. Mae’r setiau i gyd yn wych, ond mae’n sicr yn werth gwylio set Cowbois, sef perfformiad llawn o’r albwm Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn.

Mae gweithgareddau Gŵyl AmGen yn parhau heno gyda gig Maes B o Bell sy’n werth ei wylio – Yr Eira, Gwilym ac enillydd teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn, Ani Glass, sy’n perfformio. Bydd modd gwrando ar Radio Cymru, a gwylio ar Cymru Fyw am 20:00.

 

Cân:  ‘Glaw’ – Endaf a Sera

Rydan ni wedi gweld y cynhyrchydd dawnus, Endaf, yn cyd-weithio gyda nifer o artistiaid dros y misoedd diwethaf, a’r ddiweddaraf o’r rhain ydy Sera.

Mae ffrwyth llafur partneriaeth y ddau, sef y sengl newydd ‘Glaw’, allan heddiw.

A hwythau fel pawb arall wedi bod yn ymbellhau’n gymdeithasol dros y misoedd diwethaf, mae’r ddau artist wedi mynd ati i weithio ar y trac dros y gwifrau digidol.

Er bod cerddoriaeth arferol y ddau yn wahanol iawn ar wyneb, mae ganddynt gryn dipyn yn gyffredin. Yn arbennig felly’r faith bod y ddau’n dod o ardal Caernarfon, a hyd yn oed wedi bod i’r un ysgol gynradd.

Bu’r ddau hefyd yn rhan o gynllun BBC Gorwelion yn 2019, ac yn gynharach eleni rhannodd y ddau’r un llwyfan wrth berfformio yn stiwdio enwog y BBC yn Maida Vale.

Mae’r ddau wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf – Endaf yn cyd-weithio ar senglau ar y cyd ag Eädyth, Ifan Dafydd ac Ifan Pritchard ar y naill law, a Sera yn ffurfio prosiect Tapestri gyda Lowri Evans, ynghyd â rhyddhau albwm newydd ar y llall.

Dyma ‘Glaw’:

 

Record: Chawn Beanz – Pasta Hull

Mae’n dewis o record yr wythnos yma’n mynd a ni nôl union flwyddyn i ddechrau Awst 2019.

Rhyddhawyd ail albwm y grŵp gwych a gwallgof o Gaernarfon, Pasta Hull, ar 2 Awst dan yr enw Chawn Beanz.

Er bod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cicio ffwrdd yn Llanrwst erbyn hynny, cynhaliwyd lansiad yr albwm yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon ar 3 Awst gyda Papur Wal yn cefnogi – stoncar o gig.

Roedd albwm cyntaf Pasta Hull, Achw Met, yn glamp o record dda, ac yn ysgytwad i’r sin. Gellir dadlau fod Chawn Beanz hyd yn oed yn well. Fysa rhywun ddim yn deud bod mwy o sglein ar y casgliad, achos debyg na fyddai Pasta Hull yn gwerthfawrogi cael y gair ‘sglein’ yn yr un frawddeg ag enw’r grŵp (doh!) Ond yn sicr mae ‘na ddatblygiad wedi bod yn y sŵn – yr un gymysgedd o seicadelia, jazz, ffync, roc a llwyth o synnau eraill sydd yma, ond gallwch bwyntio at y record yma a datgan yn hyderus, ‘dyma sŵn Pasta Hull’.

Deuddeg o diwns sydd yma, gan gynnwys ‘Smocio yn yr Haul’, ‘Byw am y Lliw’ ac yr ardderchog ‘Boneddigion a Boneddigesau’.

 

 

Artist: Teleri

Dyma ni artists dydd wedi dod yn fwyfwy amlwg dros y misoedd diwethaf, ac wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf yn gynharach wythnos yma.

Teleri ydy’r gantores electroneg gyffrous sydd wedi rhyddhau cyfres o senglau yn barod eleni.

‘Haf’ ydy enw’r trac newydd a dyma’r bedwaredd sengl ganddi ers dechrau’r flwyddyn, yn ddilyniant i ‘Hawdd’ a ryddhawud ym mis Gorffennaf, ‘Adenydd’ ddaeth allan ym mis Ebrill ac ei sengl gyntaf, ‘Euraidd, a ymddangosodd ym mis Ionawr.

Mae’r sengl ddiweddaraf yn dynodi shifft yng nghyfeiriad cerddoriaeth Teleri, datblygiad sy’n ei gweld yn symud i gyfeiriad newydd o ddatblygu caneuon dawns minimalaidd.

Mae’r trac newydd yn cyd-fynd â’r sengl ddiwethaf, ‘Hawdd’. Dywed y gantores fod

‘Haf’ yn dilyn ‘Hawdd’ fel teyrnged i dymor cynhesaf y flwyddyn.

Dywed Teleri fod y trac newydd hefyd yn adlewyrchu haf unigryw 2020, ac yn mynegi gobaith at yr haf nesaf.

Mae pedwar rhan gwahanol i’r trac sy’n ymarfer creu naws wahanol wrth i’r amser basio.

Roedd cyfle cyntaf i glywed y sengl newydd ar wefan Y Selar dros y penwythnos, cyn iddi gael ei rhyddhau’n swyddogol ar safle Bandcamp Teleri ddydd Llun.

 

 

Un peth arall: Mirores 

Penwythnos diwethaf, cyhoeddwyd enw enillydd gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

A gwych oedd clywed mai record hir gyntaf Ani Glass, Mirores, ddaeth i’r brig ym marn y beirniaid eleni.

Rhyddhawyd Mirores ym mis Mawrth ar label Recordiau Neb, a does dim amheuaeth ei fod yn lafur cariad gwirionedd gan Ani sydd wedi bod yn gweithio’n ddyfal ar y casgliad ers amser maith. Yn anffodus, effeithiodd y cloi mawr rywfaint ar daith lansio’r albwm, ond teg dweud ei fod dal wedi llwyddo i gael cryn impact a chreu argraff.

Roedd rhaid i Ani oresgyn tipyn o gystadleuaeth am y teitl eleni gan gynnwys Joia! Gan Carwyn Ellis a Rio 18, Mai gan Georgia Ruth a Iaith y Nefoedd gan Yr Ods i enwi dim ond tri o’r albyms ardderchog eraill ar y rhestr fer.

Ffaith difyr arall ydy bod Ani yn dilyn ôl traed ei chwaer, Gwenno, wrth gipio’r wobr – Y Dydd Olaf gan Gwenno ddaeth i’r brig yn 2015.

Llongyfarchiadau mawr i Ani Glass!

Dyma sgwrs Gareth Potter gydag Ani am yr albwm nôl ym mis Gorffennaf: