Gig: Adwaith, Eitha Da, Chroma, Worldcub, Melin Melyn, Meilir – Tŷ Pawb, Wrecsam – 8/02/20
Lot fawr mlaen penwythnos yma, yn rhannol oherwydd Dydd Miwsig Cymru heddiw mae’n debyg. Gormod i’w rhestru i’w gyd, gan gynnwys ambell gig pop-up a chudd nad oes unrhyw fanylion amdanyn nhw…(dwi’n gwbod!)
Ta waeth, dyma rai pigion:
Gwener
Fleur de Lys, Brodyr Magee, Aerobig, Y Newyddion – Cartio Môn
I Fight Lions, Gwenno Fôn – Neuadd Bentref Llanystumdwy
Bryn Fôn a’r Band – Gwesty’r Bae Aberafan
HMS Morris, Cotton Wolf, Rhodri Brooks – Cinema & Co, Abertawe
Sadwrn
Tapestri (Lowri Evans a Sera) – Theatr Twm o’r Nant, Dinbych
Adwaith, Eitha Da, Chroma, Worldcub, Melin Melyn, Meilir – Tŷ Pawb, Wrecsam
Rhestr lawn o gigs y penwythnos, a’r wythnosau i ddod ar galendr gigs Y Selar.
Cân: ‘Lan y Môr’ – Adwaith
Mae sengl ddiweddaraf Adwaith, ‘Lan y Môr’ allan heddiw ar label ardderchog Libertino.
Ac mae’r trac yn brawf pellach, petai angen un, o ddawn cyfansoddi Hollie, Heledd a Gwenllian sydd wedi datblygu’n helaeth dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf.
Mae’r sengl yn gam hyderus ymlaen gan enillwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019, ac yn manteisio ar eiriau’r hen gân draddodiadol gyfarwydd.
Er y peryglon amlwg ynghlwm â hynny, does dim yn naff am y trac yma o gwbl ac allwch chi ddim peidio nodio’ch pen a thapio’ch troed o’r nodyn cyntaf. Ac wrth i dempo’r gân gynyddu’n raddol mae’n debygol iawn y byddwch ar eich traed yn bownsio o gwmpas yr ystafell cyn diwedd tair munud y trac.
“Daeth yr ysbrydoliaeth ar ôl i mi gyfansoddi riff roc syrff” eglura’r gitarydd a phrif ganwr Hollie Singer.
“Defnyddion ni eiriau ‘Ar Lan y Môr’ oherwydd roedden ni’n teimlo bod geiriau’r gân yn addas i deimlad y trac. Roeddwn i’n awyddus iawn i gal cover o gân arall yn rhan o’r set, cafon ni lawer o hwyl yn addasu’r trac yma.”
Record: Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch
– Super Furry Animals
Newyddion cyffrous am brosiect newydd sbon 4 o 5 aelod y Super Furry Animals wythnos diwethaf.
Mae Cian Ciaran, Dafydd Ieuan, Guto Pryce a Huw Bunford…felly pawb ond Gruff Rhys sydd yn brysur yn hyrwyddo ei albwm unigol diweddaraf ac yn ennill gwobrau cyfraniad arbennig wrth gwrs…wedi ffurfio grŵp newydd.
Das Koolies ydy enw band newydd yr hogia ac fe ryddhawyd eu sengl gyntaf, ‘It’s All About The Dolphins’ ar label Strangetown Records wythnos diwethaf (29 Ionawr).
I nodi’r achlysur roedden ni’n meddwl ei bod yn gyfle i ni fwrw golwg nôl ar record gyntaf SFA, sef yr EP Cymraeg, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch. Roedd y Furry’s yn adnabyddus am eu stynts denu sylw, ac roedd hynny’n amlwg o’r dyddiau cynnar gyda’r EP yma. Enillodd y record le yn y Guiness Book of Records am yr EP gyda’r enw hiraf!
Pedwar trac sydd ar y record fer, sef ‘Organ yn Dy Geg’, ‘Fix Idris’, ‘Crys T’ a ‘Blerwytirhwng?’
Dyma’r trac cyntaf sydd heb os yn adlais o sŵn grŵp blaenorol gwych Gruff a Daf, Ffa Coffi Pawb:
Artist: Eädyth
Tydi un sengl newydd ddim yn ddigon i’r gantores electroneg o Ferthyr penwythnos yma mae’n ymddangos!
Mae ei henw ar ddwy sengl newydd sbon danlli sy’n cael eu rhyddhau heddiw.
Yn gyntaf, mae ei sengl unigol ddiweddaraf sef ‘Rhedeg’ sydd allan ar label Udishido. Mae sŵn ei sengl newydd bach yn wahanol i’w gwaith blaenorol, fel yr eglura Eady:
“Bûm yn gweithio’n galed ar fy steil drwm a bas newydd dros y misoedd dwetha felly rydw i’n gyffrous i ryddhau’r ochr newydd i Eädyth o’r diwedd.”
Ond ar ben hyn, mae Eädyth yn rhan o bartneriaeth electroneg gyffrous gydag Ifan Dafydd ac Endaf, sydd hefyd yn rhyddhau sengl heddiw.
‘Disgwyl’ ydy enw sengl gyntaf y triawd, ac mae allan ar label High Grade Grooves.
Cofiwch fod cyfle i weld Eädyth yn perfformio’n fyw yng Ngwobrau’r Selar nos Sadwrn nesaf.
Mae Eädyth yn barod iawn i gyd-weithio gydag artistiaid eraill, a dyma un o ganeuon ei phartneriaeth gyda’r cynhyrchydd Shamoniks llynedd.
Un peth arall: Apêl am hen bosteri gigs
Er mai dathlu’r presennol a’r cyfoes ydy ein blaenoriaeth, mae bob amser yn bwysig cofio a nodi’r gorffennol, a hanes cerddoriaeth Gymraeg.
Yn hynny o beth, mae’n werth tynnu sylw at apêl arbennig gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru am bosteri gigs Cymraeg y gorffennol.
Heddiw mae’r Llyfrgell wedi lansio ymgyrch newydd er mwyn casglu posteri gigs, cyngherddau a gwyliau Cymreig o’r degawdau a fu.
Maen nhw’n fodlon derbyn y posteri ar ffurf print neu’n ddigidol, felly os ydach chi wedi dylunio, argraffu neu fachu unrhyw boster oddi-ar wal yn rhywle, gyrrwch gopi. Mae mwy o fanylion ar y prosiect ar wefan y Llyfrgell.
Ydych chi’n erioed wedi dylunio, creu neu gasglu posteri gigs, cyngherddau neu wyliau Cymreig? ?⭐️??????? Os ydych – fedrwch chi ein helpu!? Heddiw, rydym yn lansio ymgyrch #poster2020 gyda'r nod o greu casgliad gwych o bosteri!https://t.co/aL3yhbj3NL pic.twitter.com/dhJvZ30RRo
— Llyfrgell Gen Cymru (@LLGCymru) February 7, 2020