Gig: 3 o’r Tŷ: HMS Morris – Sianel YouTube Lŵp – 1 Mai 2020
Fel rydach chi’n gwybod, mae’r calendr gigs yn weddol wag ar hyn o bryd, felly yn hytrach nag edrych ymlaen at gigs y penwythnos rydan ni wedi troi at edrych yn ôl ar rai o’r gigs ar-lein sydd wedi digwydd dros wythnos a fu.
Ar frig y rhestr wythnos yma mae set fer HMS Morris o’u cartref a gyhoeddwyd ar sianel YouTube Lŵp penwythnos diwethaf. Dyma Heledd a Sam yn eu llawn wychder arferol:
Wythnos diwethaf hefyd cyhoeddwyd sesiwn ‘Maes B O Bell’ Chroma ar wefan AM.
Bydd Dienw yn gwneud set Maes B O Bell arall nos Sadwrn yma gyda llaw.
Rhowch wybod am unrhyw gigs digidol eraill ar y gweill!
Cân: ‘Aros am Byth’ – Ynys
A ninnau dal yn y cyfnod ynysu, mae’n briodol iawn fod trac diweddaraf y grŵp Ynys wedi gollwng ar-lein wythnos yma.
Ynys ydy prosiect diweddaraf Dylan Huws, gynt o Radio Luxebourg a Race Horses, ac enw ei sengl ddiweddaraf ydy ‘Aros am Byth’.
Mae ‘Aros am Byth’ yn gyfuniad o synths disgo Eidalaidd y 1970au a harmonïau pop y 1990au, ac mae’n ddilyniant hyfryd i senglau blaenorol Ynys, ‘Caneuon’ a ‘Mae’n Hawdd’.
Cafodd y trac ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Radio Cymru Lisa Gwilym wythnos yma.
“Y naws oeddwn i eisiau oedd Jeff Lynne yn cymryd drosodd stiwdio ar ôl bod mewn parti gwrando ar Tame Impala” meddai Dylan am y trac newydd.
Mae’r teimlad fymryn yn wahanol ar hon i draciau blaenorol Ynys, ond mae’n siŵr o fod yr un mor boblogaidd wrth i’r grŵp addawol yma ddechrau adeiladu set gwirioneddol drawiadol.
A gyda llaw, rhag ofn i chi ddrysu, mae’n wahanol iawn o ‘Fel hyn am Byth’ gan Yr Ods #LOL
Record: Ti – Carwyn Ellis
Mae Carwyn Ellis wedi bod yn gwneud tipyn o waith i gefnogi elusen Tarian Cymru dros yr wythnosau diwethaf, a’i gyfraniad diweddaraf ydy rhyddhau EP newydd i helpu codi arian tuag at brynu offer gwarchodol personol i weithwyr iechyd yng Nghymru
Bythefnos yn ôl, rhyddhaodd y cerddor sengl o’r enw ‘Cherry Blossom Promenade’ ar ei safle Bandcamp fel rhan o’r ymgyrch.
Nawr mae wedi mynd gam ymhellach trwy ryddhau EP tri thrac o’r enw ‘Ti’ sydd ar gael i’w lawr lwytho ar ei safle Bandcamp yn unig.
Mae’r dair trac newydd yn rai Cymraeg ac wedi’u recordio’n wreiddiol ar gyfer rhaglen BBC Radio Cymru Lisa Gwilym. Roedd y traciau hefyd yn ran o sesiwn recordio albwm ‘Joia’ Carwyn Ellis a Rio 18 a ryddhawyd llynedd, ond ddim cweit yn ffitio i’r casgliad terfynol yn ôl Carwyn.
Fel y sengl ‘Cherry Blossom Promenade’, mae arian holl werthiant yr EP newydd yn mynd at elusen Tarian Cymru sy’n gwneud gwaith ardderchog o godi arian at brynu offer PPE i weithwyr iechyd a gofal rheng flaen yma yng Nghymru.
Achos gwerth chweil, cefnogwch os oes modd a chael gafael ar y traciau gwych yma yn y fargen.
Artist: Crawia
Mae Crawia wedi rhyddhau sengl ddwbl newydd ddydd Gwener diwethaf, 1 Mai.
Crawia ydy prosiect diweddaraf y cerddor Sion Richards o Fethesda sydd wedi bod yn aelod o nifer o grwpiau yn y gorffennol gan gynnwys Wyrligigs a Jen Jeniro.
Mae’n disgrifio cerddoriaeth ei brosiect diweddaraf fel Americana acwstig, a dywed fod y ddwy sengl yn rhoi blas o’i albwm cyntaf fydd allan ddiwedd yr haf.
Mae ‘Dawnsio i’r Un Curiad’ yn drac hwyliog sy’n dathlu sŵn ’sax’ Americana y 1970au, tra fod ‘Cân Am Gariad’, yn gân acwstig sy’n cynnig ennydau tyner a chytgan gref.
Nid dyma gynnyrch cyntaf Crawia cofiwch – rhyddhawyd y sengl ‘Bradwr’ yn 2018 gan ddenu ymateb arbennig o dda ar y pryd, ac ers hynny mae Sion a’i grŵp wedi bod yn brysur yn ysgrifennu, recordio a gigio cymaint â phosib.
Ynghyd â Sion, aelodau eraill Crawia ydy Sion Bailey Hughes, Sion Williams ac Edwin Humphries, ac maen nhw eisoes wedi cael cyfle i berfformio ar rai o brif lwyfannau Cymru gan gefnogi enwau amlwg.
Prif ddylanwadau Crawia ydy artistiaid Americana megis Tom Petty a Bruce Springsteen ar un llaw, a grwpiau Cymreig fel Steve Eaves ac Iwcs a Doyle ar y llall – hogia Pesda ynde, da.
Bydd Crawia yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ar ddiwedd yr haf gyda’r senglau ‘Dawnsio i’r Un Curiad’ a ‘Cân am Gariad’ yn damaid i aros pryd.
Dyma ‘Cân am Gariad’:
Un peth arall: Cyfyrs cloi lawr
Mae artistiaid Cymru wedi bod yn ffeindio ffyrdd amrywiol o ddiddori eu hunain yn ystod y cyfnod y cloi lawr, a nifer ohonyn nhw wedi cael hwyl ar recordio cyfyrs o ganeuon gan artistiaid eraill.
Mae Marged Gwenllian o’r Cledrau wedi bod yn cael hwyl arni dros yr wythnos ddiwethaf, gan gynnwys y fersiwn fer hyfryd yma o intro ‘Tracsiwt Gwyrdd’ gan Jarman:
Tracsuit Gwyrdd
Ni chaniateir gwisgo jîns yn ystod y cyfnod hwn pic.twitter.com/YQ4h2glIe3
— Marged Gwenllian (@MargedGwenllian) April 29, 2020
Un arall sydd wedi troi ei law at cyfyr fach ydy Al, basydd Achlysorol, sydd wedi gwneud y fersiwn yma o ‘Meddwl am Hi’ gan Papur Wal:
Mi fydd ein sengl newydd allan yn fuan, yn y cyfamser dyma cover o 'Meddwl am Hi' gan Papur Wal, ar y bass gan Al!
Posted by Achlysurol on Tuesday, 5 May 2020
Ac un fach arall i chi, dyma fersiwn Nesdi Jones o ‘Pam Fod Eira’n Wyn’ gan Dafydd Iwan: