Set rhithiol: Candelas, I Fight Lions – Lŵp, S4C – 14/10/20
Rydan ni wedi bod yn edrych nôl ar setiau rhithiol sydd eisoes wedi digwydd yn ddiweddar, ond yr wythnos yma rydan ni am edrych ymlaen at gig byw sy’n cael ei ffrydio gan Lŵp, S4C, nos Fercher nesaf, 14 Hydref.
Candelas ac I Fight Lions fydd yn perfformio yn y gig ‘Stafell Fyw’ cyntaf, a hynny o Neuadd Ogwen. Yn wahanol i’r mwyafrif o setiau byw sydd wedi bod yn cael ei gwe-ddarlledu dros y misoedd diwethaf, un cyfle’n unig fydd i weld y gig yma ar-lein a hynny’n fyw, am 19:30 nos Fercher.
Mae angen i chi gofrestru ar wefan Stafell Fyw am y cyfle i wneud hynny, felly ewch amdani!
UN NOSON YN UNIG: Lŵp yn cyflwyno @Candelasband + @ifightlions yn y #StafellFyw yn fyw o @NeuaddOgwen ! Rho dy ebost i dderbyn rhagor o fanylion 👇 https://t.co/vXtT4is2st
— Lŵp (@LwpS4C) October 6, 2020
Cân: ‘Ti Werth y Byd’ – Betsan
‘Ti Werth y Byd’ ydy enw sengl newydd y gantores lliwgar, Betsan.
Rhyddhawyd y trac yn swyddogol ddydd Gwener diwethaf, 2 Hydref, a dyma ydy trydydd sengl Bets yn dilyn ‘Eleri’ a ‘Cofia’.
Betsan ydy Betsan Haf Evans sy’n gyfarwydd fel aelod o’r grwpiau Alcatraz, Y Panics, Dan Lloyd a Mr Pinc, Genod Droog, Kookamunga, Gwdihŵs a Pwdin Reis. Mae hefyd yn aelod o’r grŵp newydd, Cwtsh, sydd wedi rhyddhau cwpl o senglau yn ystod y cyfnod clo.
Daeth Betsan i’r amlwg fel artist unigol gyntaf yn 2016 wrth iddi gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cân i Gymru gyda’r sengl ‘Eleri’ a ryddhawyd fel sengl yn ddiweddarach.
Rhyddhaodd ein hail sengl, ‘Cofia’, ar label Recordiau Sienco yn Rhagfyr 2018, ac mae’n rhyddhau’r sengl newydd ar yr un label.
Bydd unrhyw un sydd wedi gweld Betsan yn perfformio’n gwybod bod beltar o lais ganddi, ac mae hynny i’w weld yn glir iawn ar ‘Ti Werth y Byd’.
Mae ‘na thema amlwg, ac amserol iawn i’r trac newydd sef y modd mae rhywun yn gallu mynd yn gaeth i’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae ‘ hi’n chwilio am y ffics nesaf o dopamine trwy’r sgrin, ond mewn gwirionedd, ar ben mynydd yn yr awyr iach yn rhoi’r byd yn ei le ydy’r lle mae’r dopamine go iawn.
Llinell fwyaf cofiadwy’r gân mae’n siŵr ydy – “wedi blino ar y becso, pwy sy’n clico ar y lico?” – anfarwol!
Record: Beth Nawr? – Static Inc
Mi wnaethon ni ddarganfod y grŵp newydd o Gaerdydd, Static Inc, rhyw fis yn ôl gan roi sylw i’w sengl gyntaf ‘Tangelo’ ar y pryd.
Bryd hynny roedden nhw’n addo mwy o gynnyrch yn fuan, a fis yn ddiweddarach maent wedi cadw at eu gair wrth ryddhau eu cryno albwm cyntaf ddydd Gwener diwethaf.
Beth Nawr? ydy enw’r casgliad newydd sy’n cynnwys ‘Tangelo’ a phum trac arall.
Grŵp roc tri aelod o Gaerdydd ydy Static Inc ac maent wedi’u dylanwadu arnynt gan grwpiau fel Cocteau Twins, Talking Heads a Santana.
Mae amgylchedd y brifddinas yn ddylanwad mawr ar sŵn y grŵp, sydd, i ddefnyddio ei disgrifiad hwy yn “concrete jungle” sy’n symud o heddwch i ‘hectic’ yn sydyn, fel bywyd yn y ddinas.
Un peth sy’n drawiadol, ac yn reit unigryw i fand ifanc mewn gwirionedd, ydy hyd y caneuon – mae tair o ganeuon y casgliad yn bron i 8 munud o hyd, ac un arall yn dros 9 munud! Epig i ddeud y lleiaf, ond hefyd yn dangos hyder y grŵp yn eu sŵn.
Mae’r Beth Nawr? ar gael trwy Spotify, Apple Music a safle Bandcamp Static Inc.
Artist: She’s Got Spies
Bach o sylw i She’s Got Spies yr wythnos hon gyda’r newyddion am sengl, ac albwm, newydd sydd allan yn fuan.
She’s Got Spies ydy prosiect y gantores Laura Nunez, sydd wedi bod yn perfformio dan yr enw hwnnw ers 2005.
Daw Laura’n wreiddiol o Lundain, ond dysgodd Gymraeg ar ôl symud i Gaerdydd a chael ei hysbrydoli gan grwpiau fel Gorky’s Zygotic Mynci, Super Furry Animals a Melys ymysg eraill.
Mae Laura bellach yn rhannu ei hamser rhwng prif ddinasoedd Cymru a Lloegr ac yn gallu canu yn y Gymraeg, Saesneg a Rwsieg.
Enw ei sengl newydd , fydd allan ar 23 Hydref, ydy ‘Super Sniffer Dogs’ ac mae’n damaid i aros pryd nes rhyddhau ail albwm She’s Got Spies, sef Isle of Dogs, fydd yn cael ei ryddhau ar 6 Tachwedd.
Mae’r record hir newydd yn dilyn albwm cyntaf y grŵp, Wedi, a ryddhawyd yn 2018 ac mae’n dwyn dylanwad gan ardal Isle of Dogs yn Llundain, ynghyd â sefyllfa gythryblus ynys Prydain ar hyn o bryd.
Mae un sengl o’r albwm newydd wedi ymddangos eisoes, sef ‘Wedi Blino’, a ryddhawyd llynedd ynghyd â’r fideo a ffilmiwyd gan Laura yn Antartica pan enillodd daith yno yn 2018.
Dyma’r fideo:
Un peth arall: Ffansin Merched yn Gwneud Miwsic
Mae’r ail rifyn o ffansin Merched yn Gwneud Miwsig wedi’i gyhoeddi’n ddigidol.
Merched yn Gwneud Miwsig ydy’r prosiect sy’n cael ei redeg gan Maes B sy’n ceisio annog mwy o ferched i ymwneud â’r diwydiant cerddoriaeth mewn amryw ffyrdd. Yn y gorffennol rydan ni wedi bod yn gweld gweithdai amrywiol yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ac yn Aberystwyth
Mae’r zine newydd wedi’i guradu gan Heledd Watkins o’r grŵp HMS Morris ac yn rhoi sylw i lwyth o artistiaid gwych ar ffurf llun a thestun.
Gwerth darlleniad yn sicr: