‘Reducing Valve’ – sengl newydd R. Seiliog

Mae’r cerddor electronig o Ddinbych, R. Seiliog, wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener 18 Medi.

‘Reducing Valve’ ydy enw trac diweddaraf R. Seiliog ac mae’n cael ei ryddhau ar label Imprint.

Cynhyrchwyd y trac newydd yn stiwdio Twelfth Vault, a hon ydy’r ail sengl mewn cyfres o draciau tecno arallfydol wedi’u cerfio o rwyg kosmische mewn i dirwedd cerddoriaeth electronig gyfoes.

Mae ‘Reducing Valve’ yn dilyn sengl ddiwethaf R. Seiliog, ‘Polar Hex’, a ryddhawyd ar 14 Awst. Dyma oedd ei gynnyrch cyntaf ers rhyddhau’r EP ‘Folds’ ym mis Tachwedd 2019. Cafodd y sengl honno gefnogaeth gan Gideon Coe ar ei raglen BBC 6Music.

Mae ‘Reducing Valve’ allan ar y llwyfannau digidol diweddaraf ers 18 Medi.