‘Rhedeg’ gan Eädyth

Bydd Eädyth,yn rhyddhau ei sengl newydd ddydd Gwener yma, 7 Chwefror.

‘Rhedeg’ ydy enw’r trac newydd sy’n ymddangos ar label Udishido, ac yn ôl y label mae’r gân yn ein cyflwyno i lais pwerus a soulful Eädyth ynghyd â thechnegau cynhyrchu arloesol sy’n gweddu’n berffaith i’w geiriau grymusol.

Ac yn ôl y gantores 22 oed, gallwn ddisgwyl tipyn o newid yn ei sŵn gyda’r sengl a chynnyrch pellach sydd ar y gweill ganddi.

“Mae ‘Rhedeg’ yn gân ysgrifennais am amser, dilyniant a newidiadau yn y byd heddiw” meddai Eädyth.

“Daw newidiadau yn flynyddol ac mae’n rhaid addasu iddynt. Mae’r drwm a bas tywyll ond ethereal yn rhoi naws ddiwydiannol unigryw, gyfoethog i ‘Rhedeg’ sy’n cydblethu â thonau llyfn fy llais. Cefais ysbrydoliaeth gan rai o fy hoff artistiaid gan gynnwys Kate Bush, Massive Attack a Disclosure.

“Bûm yn gweithio’n galed ar fy steil drwm a bas newydd dros y misoedd dwetha felly rydw i’n gyffrous i ryddhau yr ochr newydd i Eädyth o’r diwedd. Dwi wir yn gobeithio eich bod chi’n ei hoffi!”

Yn sicr mae Eädyth yn datblygu ac yn tyfu’n gyson fel cerddor. Mae wedi mwynhau llawer o gyfleoedd cyffrous dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda’i cherddoriaeth yn derbyn croeso a chefnogaeth gan BBC Radio Wales, Radio Cymru a Kiss FM.

Eleni mae Eädyth yn rhan o’r Forté 10, prosiect sydd wedi’i gynllunio i gefnogi artistiaid newydd yn Ne Cymru.

Bydd Eädyth yn brysur iawn dros y misoedd nesaf yn perfformio yng Ngwobrau’r Selar ar 15 Chwefror, Forté Project Showcase a Gŵyl Croeso yn Abertawe.

Dyma hi’n perfformio yng Ngŵyl Lleisiau Eraill yn Aberteifi fis Tachwedd