Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau’r 11 o recordiau hir Cymraeg sydd wedi eu cynnwys ar restr fel ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’ yr Eisteddfod eleni.
Mae’r wobr yn cael ei dyfarnu’n flynyddol ers 2014, er na ddyfarwyd hi llynnedd. Mae’r enillwyr blaenorol yn cynnwys Y Bardd Anfawrol gan The Gentle Good (2014), Y Dydd Olaf gan Gwenno (2015), Sŵnami gan Sŵnami (2016), Bendith gan Bendith (2017) a Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc gan Mellt yn 2018.
Bwriad y wobr ydy dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei ryddhau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae cymysgedd eclectig o gynnyrch ac artistiaid wedi cyrraedd y rhestr fer eleni. Y cyfnod dan sylw y tro hwn oedd 31 Mai 2019 hyd at ddiwedd Mai 2020.
Panel o feirniaid sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth sy’n gyfrifol am ddewis a dethol eu hoff gynnyrch, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.
Y beirniaid eleni oedd Elan Evans, Siân Eleri Evans, Huw Foulkes, Gwenan Gibbard, Dyl Mei, Siân Meinir, Gwyn Owen a Neal Thompson.
Gyda’r Eisteddfod yng Ngheredigion wedi’i gohirio diolch i argyfwng COVID-19, mae’r trefnwyr yn cydweithio gyda Gŵyl AmGen BBC Radio Cymru, a chyhoeddir enillydd y wobr yn ystod yr ŵyl a gynhelir o 30 Gorffennaf – 2 Awst.
Yr 11 albwm sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni ydy:
- 3 Hwr Doeth – Hip Hip Hwre
- Ani Glass – Mirores
- Carwyn Ellis & Rio 18 – Joia!
- Cynefin – Dilyn Afon
- Georgia Ruth – Mai
- Gruff Rhys – PANG!
- Gwilym Bowen Rhys – Arenig
- Los Blancos – Sbwriel Gwyn
- Llio Rhydderch – Sir Fôn Bach
- Mr – Amen
- Yr Ods – Iaith y Nefoedd
Roedd blog Sôn am Sîn yn cynnal sgwrs yn ystod Gŵyl Tafwyl Digidol dros y penwythnos i drafod y rhestr fer yn benodol – gwyliwch isod.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Sadwrn 1 Awst, a chyhoeddir rhagor o fanylion am y Wobr maes o law dros yr wythnosau nesaf.