Amser i ni gyhoeddi dwy restr fer arall ar gyfer Gwobrau’r Selar eleni – yr wythnos hon, ‘Artist Unigol Gorau’, a ‘Seren y Sin’ ydy’r ddau gategori dan sylw.
Diolch yn fawr iawn i noddwyr y ddau gategori cystadleuol yma – Rownd a Rownd sy’n noddi ‘Artist Unigol Gorau’ a Lŵp ar S4C sy’n noddi ‘Seren y Sin’.
Dyma’r rhestrau byr:
Rhestr fer ‘Artist Unigol Gorau’ (noddir gan Rownd a Rownd):
Elis Derby
Mared Williams
Rhys Gwynfor
Rhestr Fer ‘Seren y Sin’ (noddir gan Lŵp):
Aled Hughes
Ffarout
Yws Gwynedd
Mae 2 gategori ar ôl i’w cyhoeddi bellach, sef ‘Hyrwyddwr Gorau’ a ‘Record Hir Orau’ a bydd rheiny’n ymddangos wythnos nesaf gan arwain at benwythnos cyflwyno’r gwobrau. Caeodd y bleidlais gyhoeddus ar gyfer Gwobrau’r Selar am hanner nos ar Nos Calan.
Bydd enillwyr y 12 categori yn cael eu cyhoeddi ar benwythnos Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth, sef 14-15 Chwefror.
Prynwch docynnau Gwobrau’r Selar.