Dyma ni, amser i ni gyhoeddi dwy restr fer arall ar gyfer Gwobrau’r Selar eleni!
Y ddwy restr fermddiweddaraf i’w datgelu ydy rheiny ar gyfer categorïau’r ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ sy’n cael ei noddi gan Gorwelion a hefyd y ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’, a noddir gan S4C.
Dyma nhw:
Rhestr fer ‘Band neu Artist Newydd Gorau’:
Ynys
Sbectol Haul
Kim Hon
Rhestr Fer ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’:
Dan y Tonnau – Lewys
Dyma Ni – Fleur de Lys
Gwalia – Gwilym
Dim ond 4 categori sydd ar ôl i’w cyhoeddi bellach, a bydd rheiny’n ymddangos dros bythefnos nesaf wrth i ni agosau at benwythnos Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth ar 14-15 Chwefror.
Bryd hynny byddwn ni’n datgelu enillwyr y 12 categori, a bydd cyfle i chi fwynhau llwyth o fandiau gorau Cymru ar hyn o bryd. Cynhelir digwyddiad yn Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth ac mae tocynnau’n gwerthu’n cyflym felly peidiwch colli’r cyfle – archebwch nawr.