Yn dilyn rhyddhau’r rhai cyntaf wythnos diwethaf, mae Y Selar yn falch iawn i gyhoeddi dwy restr fer arall ar gyfer y gwobrau cerddoriaeth blynyddol, Gwobrau’r Selar.
Y ddwy restr fer ddiweddaraf i’w datgelu ydy y rheiny ar gyfer categorïau’r ‘Gwaith Celf Gorau’ sy’n cael ei noddi gan wasg Y Lolfa, a hefyd y Digwyddiad Byw Gorau, a noddir gan PRS For Music.
Rhestr fer ‘Gwaith Celf Gorau’:
ORIG! – Gai Toms a’r Banditos
Chawn Beanz – Pasta Hull
Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig – Alffa
Rhestr Fer ‘Cân Orau’:
Babi Mam – Alffa
\Neidia/ – Gwilym
Dan y Tonnau – Lewys
Llongyfarchiadau mawr i’r enwau sydd wedi cyrraedd y rhestrau byr diweddaraf – mwy i ddod wythnos nesaf!
Cofiwch fod y tocynnau ar gyfer digwyddiad Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth ar 14-15 Chwefror ar werth nawr, gyda’r lein-yp llawn wedi’i gyhoeddi wythnos diwethaf. Mae’r tocynnau wedi bod yn gwerthu’n gyflym ers cyhoeddi’r lein-yp, felly peidiwch oedi cyn archebu!