Dyma ni felly, amser i ddatgelu dwy restr fer olaf Gwobrau’r Selar eleni!
Y ddwy restr fer sydd ar ôl i’w datgelu ydy y rheiny ar gyfer categorïau’r ‘Record Hir Orau’ sy’n cael ei noddi gan gwmni diogelwch Diogel ,a hefyd yr ‘Hyrwyddwr Annibynnol Gorau’ , a noddir gan gwmni sain a goleuo Technegol.
Mae’r ddau noddwr penodol yma’n ganolog i drefniadau digwyddiad y Gwobrau dros y penwythnos, ac wedi bod ers sawl blwyddyn – criw Diogel sy’n gyfrifol am sicrhau fod pawb yn aros yn saff yn ystod y digwyddiad, a giang Technegol sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr fod y bandiau’n swnio’n wych
Dyma’r ddwy restr fer olaf felly:
Rhestr fer ‘Hyrwyddwr Annibynnol Gorau’
Clwb Ifor Bach
Sesiwn Fawr Dolgellau
Recordiau Côsh
Rhestr Fer ‘Record Hir Orau’:
Sbwriel Gwyn – Los Blancos
O Mi Awn am Dro – Fleur de Lys
Iaith y Nefoedd – Yr Ods
Bydd enillwyr y ddau gategori yma, a gweddill y 12 categori eleni yn cael eu cyhoeddi yn nigwyddiad Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth penwythnos yma, 14-15 Chwefror.
Cynhelir digwyddiad y Gwobrau yn Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth dros ddwy noson eto eleni. Ar hyn o bryd mae rhai tocynnau ar ôl a modd i chi eu harchebu ar-lein – £25 am docyn penwythnps, neu £14 yr un am y nosweithiau unigol.
Yr hyfryd Elan Evans fydd yn cyflwyno’r Gwobrau unwaith eto eleni a’r bandiau canlynol yn chwarae:
Nos Wener – Gwilym, Fleur De Lys, Lewys, Elis Derby, Dienw
Nos Sadwrn – Los Blancos, 3 Hwr Doeth, Eadyth, Papur Wal, Kim Hon
Y newyddion da pellach ydy fod y DJ gwych, DJ Sgilti, yn troelli rhwng y bandiau yn ei arddull ddi-hafal.
Felly, dyma’r rhestrau byr yn gyflawn i’ch hatgoffa:
Gwobrau’r Selar 2019 – Rhestrau Byr llawn
Cân Orau (Noddir gan PRS)
Babi Mam – Alffa
\Neidia/ – Gwilym
Dan y Tonnau – Lewys
Hyrwyddwr Annibynnol Gorau (Noddir gan Technegol)
Clwb Ifor Bach
Sesiwn Fawr Dolgellau
Recordiau Côsh
Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa)
ORIG! – Gai Toms a’r Banditos
Chawn Beanz – Pasta Hull
Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig – Alffa
Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno)
Huw Stephens
Garmon ab Ion
Tudur Owen
Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rownd a Rownd)
Elis Derby
Mared Williams
Rhys Gwynfor
Band neu Artist Newydd (Noddir gan Gorwelion)
Ynys
Spectol Haul
Kim Hon
Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg)
Diwedd y Byd – I Fight Lions
Lle yn y Byd Mae Hyn? – Papur Wal
Tafla’r Dis – Mei Gwynedd
Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C)
Dan y Tonnau – Lewys
Dyma Ni – Fleur de Lys
Gwalia – Gwilym
Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Tinopolis)
Tafwyl
Gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg – Steddfod Llanrwst
Sesh Maes Barcar
Seren y Sin
Aled Hughes
Ffarout
Yws Gwynedd
Record Hir Orau (Noddir gan Diogel)
Sbwriel Gwyn – Los Blancos
O Mi Awn am Dro – Fleur de Lys
Iaith y Nefoedd – Yr Ods
Band Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth)
Lewys
Gwilym
Fleur de Lys
Gwobr Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant)
Gruff Rhys