Rhodri Davies yn mynd i’r afael a’r Delyn Rawn

Mae’r telynor arbrofol uchel ei barch, Rhodri Davies, wedi rhyddhau ei albwm diweddaraf ar 17 Gorffennaf ar label AMGEN.

Telyn Rawn ydy enw’r record hir newydd, ac mae’n arwyddocaol gan fod Rhodri wedi troi at yr offeryn sy’n dwyn yr un enw ar gyfer recordio’r casgliad.

Mae’r delyn rawn yn delyn sydd â thannau wedi eu creu o wallt ceffyl, ac a ymddangosodd yn gynharach mewn hanes na’r delyn lifer driphlyg a’r delyn bedal.

Mae modd canfod y cyfeiriadau cynharaf tuag at yr offeryn yng Nghyfreithiau Hywel Dda ar ddechrau’r drydedd ganrif ar ddeg.

Er hynny, mae’r delyn yn un sy’n anghyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd cyfoes.

Mae’r cyfeiriad diweddaraf at y delyn rawn yn cael ei chreu yng Nghymru’n dyddio rhyw 200 mlynedd yn ôl.

Yn 2016 bu Davies yn ymchwilio i’r offeryn ac i farddoniaeth Gymraeg gynnar, ac aeth ati i gomisiynnu creu telyn rawn newydd.

Pwyso a mesur gwaddol y delyn

“Mae’r gerddoriaeth ar yr albwm i gyd yn fyrfyfyr” meddai Davies.

“Dwi wedi cynllunio ac adeiladu offeryn sydd wedi ei anghofio ers amser maith, arbrofi gyda thannau o wallt ceffyl wedi eu plethu, mynd i’r afael â thestun a barddoniaeth, dysgu technegau a cherddoriaeth o lawysgrif Robert ap Huw ac ymchwilio i bwysigrwydd y ceffyl a chwltiau ceffyl yn niwylliant Cymru.

“Mae holl ymyrraeth gen i wedi’i wneud er mwyn dyfeisio cerddoriaeth wedi’i ddylanwadu arno’n hanesyddol, ac yn pwyso a mesur gwaddol y delyn yng Nghymru o’r newydd, ond yn y bôn fel man cychwyn ar gyfer creu posibiliadau newydd.”

Daw Rhodri Davies yn wreiddiol o Aberystwyth ac mae wedi mwynhau gyrfa gerddorol lwyddiannus yn arbrofi gyda cherddoriaeth gyfoes a chlasurol.

Mae’n chwarae’r delyn mewn sawl ffurf ac wedi rhyddhau 5 albwm unigol.

Mae hefyd yn aelod o’r grwpiau HEN OGLEDD, Common Objects a’r ddeuawd gyda JohnmButcher. Mae hefyd wedi gweithio gyda’r artistiaid David Sylvian, Jenny Hval, Derek Bailey, Laura Cannell, Lina Lapelyte, Sachiko M, Bill Orcutt, Jim O’Rourke, Christian Marclay a David Toop.

Mae ‘Telyn Rawn’ ar gael i’w brynu’n ddigidol ac ar CD ar ei safle Bandcamp.

 

Lluniau: Daryl Feehely