Rhoi Ystyr i’r byd

Yn gyffredinol, mae’n siŵr y byddai’r mwyafrif o’r diwydiant cerddoriaeth yn dweud bod digwyddiadau 2020 wedi bod yn ergyd.

Mae cyfyngiadau Covid wedi golygu dileu mwy neu lai pob gig o’r calendr, yn ogystal â’i gwneud yn anos o fandiau ddod ynghyd i ymarfer a recordio.

Er hynny, does dim amheuaeth bod nifer o artistiaid wedi gweld y sefyllfa unigryw fel cyfle, ac wedi manteisio ar hynny i lansio neu ddatblygu eu prosiectau. Rydan ni eisoes wedi tynnu sylw at hyn gydag esiamplau artistiaid fel Parisa Fouladi, Teleri a Hap a Damwain fel prosiectau newydd, ac mae artistiaid fel Eädyth, Sera ac Endaf yn sicr wedi cadw’n brysur a pharhau i ryddhau cerddoriaeth yn rheolaidd eleni.

Ond gellir dadlau mae’r prosiect cerddorol prysura’ nad ydach chi (efallai) wedi clywed amdanyn nhw yn 2020 ydy Ystyr.

O ddarganfod eu caneuon newydd ar hap, fel ‘Deffro’ a ymddangosodd ddiwedd mis Awst, rydan ni wedi rhoi rhywfaint o sylw i’r prosiect ar wefan Y Selar dros y misoedd diwethaf, ond heb wir wybod rhyw lawer amdanyn nhw. Ond yr un peth sydd wedi bod yn hysbys iawn i ni ydy bod eu caneuon nhw’n arbennig o dda, a’n bod ni eisiau dysgu, a chlywed mwy.

Dysgu mwy am Ystyr

Gwaith Celf 'Y Clô' - Ystyr (Peter Cass/Paperdog Studio)
Gwaith Celf ‘Y Clô’ – Ystyr (Peter Cass/Paperdog Studio)

Un ffaith arall oedden ni’n gwybod am Ystyr oedd bod gitarydd Plant Duw, Rhys Martin, yn rhan o’r prosiect ac wrth dyrchu ychydig yn ddyfnach mae wedi dod i’r amlwg bod dau gerddor arall yn y botes sef cefnder Rhys, Owain Brady, a Rhodri Owen.

Owain ydy prif lefarydd Ystyr, a bu’n siarad gyda’r Selar am hanes difyr ffurfio’r prosiect.

“Ddois i nôl i nôl i fyw yn Ynys Môn blwyddyn diwethaf ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn gweithio fel pysgotwr yn Iwerddon” eglura Owain.

“Roedd Rhys a minnau bob tro wedi bod yn cyd-weithio ar ganeuon bach electro ers i ni’n dau brynu peiriannau pedwar trac pan oeddan ni’n ifanc, ac yn hwyrach ymlaen, defnyddio technoleg recordio syml ar ein cyfrifiaduron.

“Roedda ni’n dau mewn i miwsig hip-hop erioed, ond yn cadw dylanwadau mwy gwerin fel Bert Jansch ac Alun Tan Lan, ac yn cyfuno nhw gyda cherddoriaeth electro, ychydig fel Radiohead.

“Mae ‘na ddylanwad cryf gan artistiaid fel DJ Shadow, Aphex Twin a Four Tet ynghyd â cherddoriaeth ambient, clasurol fel Yann Tiersen.”

Tipyn o amrywiaeth dylanwadau ar y ddau gefnder felly, ac yn ôl Owain mae’r caneuon maen nhw’n rhyddhau ar hyn o bryd wedi eu seilio ar bytiau a syniadau sy’n bymtheg mlwydd oed neu fwy. Gan ystyried hynny, efallai mai angen un cynhwysyn, neu gogydd yn hytrach, ychwanegol oedd ar y gymysgedd gerddorol ddifyr yma,  a daeth hwnnw ar ffurf trydydd aelod y prosiect, Rhodri Owen.

“Nes i ddigwydd cyfarfod Rhodri yn y dafarn blwyddyn dwytha’, a do’n i ddim ar ddallt faint o waith oedd o wedi’i wneud yn y sin Gymraeg tan i ni siarad am ei gefndir cerddorol” eglura Owain.

“Nes i gynnig anfon demos Rhys a minnau ato ac roedd o’n eiddgar iawn i weithio arnynt.

Bydd enw Rhodri’n gyfarwydd i rai fel cyn aelod o’r grŵp Yucatan, ond efallai’n fwy felly am ei brosiect electronig ardderchog, Cyrion, a ryddhaodd gwpl o recordiau rhwng tua 2008 a 2011.

Sengl gyntaf Ystyr, ‘Y Clô’

Ac roedd dyfodiad y pandemig a’r clo mawr yn sbardun sicr i Ystyr yn ôl Owain, wrth iddo fynd ymlaen i egluro sut mae’r broses yn gweithio i’r grŵp newydd.

“Roedd mwy o amser i adlewyrchu ar y byd, i greu ac i gynhyrchu. Yn syml, mae Rhys yn dod i fyny gyda drafft o gân, fel arfer yn ei gyfanrwydd. Fydda’i wedyn yn treulio amser yn gweithio allan y naws, ac yn ychwanegu’r canu. Ella bydd ‘na ychydig o symud o gwmpas y trefniant yn y cyfnod yma hefyd.

“Yna ‘da ni’n anfon y cwbl lot at Rhodri ac mae o’n ychwanegu offeryniaeth ychwanegol fel piano a llinynnau, ond hyd yn oed yn bwysicach, mae’n cynhyrchu’r gân i safon llawer gwell na fysa Rhys a minnau’n gallu gwneud.

“Mae hyn yn rhoi andros o lot o hyder i ni’n dau wedyn ddod i fyny gyda syniadau sy’n fwyfwy cymhleth, ac i arbrofi gyda dulliau gwahanol o chwarae a chanu. Felly mae ‘na gryfderau gwahanol ym mhob aelod.”

Faith sy’n tanlinellu rhyfeddod 2020, ydy dysgu nad ydy Rhys a Rhodri erioed wedi cyfarfod…er eu bod wedi rhyddhau 6 trac fel aelod o’r un band bellach!

Celf ag ati

Er mai rhyddhau’n ddigidol yn unig mae Ystyr wedi’i wneud hyd yma, maen nhw’n rhoi tipyn o bwyslais ar waith celf i gyd-fynd â’r gerddoriaeth, ac mae’n amlwg fod hynny’n rhan hanfodol o’r weledigaeth.

Gwaith Celf 'Breuddwyd Gwyliau' - Ystyr ((Peter Cass/Paperdog Studio)
Gwaith Celf ‘Breuddwyd Gwyliau’ – Ystyr (Peter Cass/Paperdog Studio)

“Roedd yn bwysig i gael gwaith celf ar gyfer y gerddoriaeth yma i weddu’r caneuon” meddai Owain wrth Y Selar.

“Mae’n anodd disgrifio’r genre ond mae’n deg dweud fod yna sail drydanol i bopeth ‘da ni’n gwneud. Felly, nes i gofio am artist o Essex, Pete Cass, nes i ddigwydd cyfarfod yn Cape Town yn Ne Affrica gwpl o flynyddoedd yn ôl ac oedd wedi gaddo gwneud gwaith i mi petawn i byth yn cael prosiect cerddorol i fynd.

Roedd gen i’r syniad o gael un artist penodol, fel mae Stanley Donwood yn gwneud i Radiohead, i gyfleu’r syniadau sy’n y caneuon ar ffurf weledol. I fy syndod fe gytunodd yn syth!”

Eglura Owain ei fod yn anfon y gân a’r geiriau i Pete a’i fod yna’n creu delwedd digidol, graffig, i gyd-fynd â’r darn cerddorol. Yn sicr mae’r gwaith celf yn lliwgar, yn drawiadol ac yn rhoi personoliaeth arbennig i’r caneuon.

Y sengl ddiweddaraf i’w rhyddhau gan Ystyr ydy ‘Teimlad Hydrefol’ a ryddhawyd ar eu safle Bandcamp ddydd Gwener diwethaf, 13 Tachwedd. Heb os mae enw’r trac yn cyfleu sŵn y gerddoriaeth i’r dim, ac yn arddangos yr hyn mae pob aelod yn cynnig i’r prosiect.

Gwaith Celf 'Disgwyl am yr Haf' - Ystyr (Peter Cass/Paperdog Studio)
Gwaith Celf ‘Disgwyl am yr Haf’ – Ystyr (Peter Cass/Paperdog Studio)

“Yn amlwg mae ‘na wreiddiau dwfn mewn cerddoriaeth werin Gymraeg” meddai Owain am y trac newydd.

“Gyda llinynnau atmosfferig, mwy fel byset yn disgwyl ei glywed mewn soundtrack ffilm, gyda churiadau trydanol caled yn ei danseilio.

“Mae’r geiriau yn ceisio cyfleu’r profiad o weld blwyddyn yn sgubo ymlaen drwy’r hydref yng nghyfystyr yr amser ansicr hwn, gyda’r newid mewn tywydd, golau, lliw y dail ac i ryw raddau ein hysbrydion ein hunain.”

Cân amserol iawn o safbwynt y tymor rydym ynddo, ond hefyd y flwyddyn ar ei hyd eleni gellir dadlau. Mae’n ategu’r hyn mae rhywun eisoes wedi’i deimlo wrth glywed caneuon blaenorol Ystyr – dyma i chi fand newydd sy’n cynnig sŵn gwahanol, a digon cyffrous i’r hyn sy’n cael ei greu yn y Gymraeg ar hyn o bryd. Ychydig yn retro, ond yn gyfredol iawn ar yr un pryd.

A hwythau, yn dawel bach ac ar eu telerau ru hun, eisoes wedi gosod seiliau cerddorol cadarn, y newyddio da ydy y gallwn ddisgwyl llawer mwyn gan Ystyr yn y dyfodol agos, a hyd yn oed gobaith o albwm yn ystod 2021.

“Da ni am symud ymlaen yn y flwyddyn newydd gyda ‘chydig o gerddoriaeth sy’n gweithio gyda samplau, a hefyd i gyd-weithio gydag artistiaid cyffrous fel Ed Holden” datgela Owain.

“Os ‘di popeth yn mynd yn ei flaen fel mae o rŵan, dylai fod albwm allan blwyddyn nesaf.”

Am y tro, mae digon i’w fwynhau yn y sengl newydd,  a’r rhai blaenorol.

Lluniau – Peter Cass/Paperdog Studio
Geiriau – Owain Schiavone