Rhyddhau ail albwm Bwncath

Mae’r grŵp gwerin poblogaidd, Bwncath, wedi rhyddhau eu halbwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 27 Mawrth.

Dyma ail record hir Bwncath yn dilyn y gyntaf, sy’n rhannu enw’r grŵp, a ryddhawyd yn 2017. Enw addas iawn yr albwm newydd ydy ‘Bwncath II’.

Ers rhyddhau’r albwm gyntaf nôl yn 2017, mae Bwncath wedi dod yn un o’r bandiau prysuraf yng Nghymru.

Bu iddynt ryddhau dwy sengl yn ystod 2019, sef Clywed Dy Lais’, a’r gân fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, ‘Fel Hyn ‘Da Ni Fod’.

Yn ogystal â hyn, rhyddhawyd fideo arbennig (wedi’i animeiddio gan Lleucu Non) i’r gân ‘Dos Yn Dy Flaen’ i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2020, ac mae’r dair cân wedi cyrraedd rhestr ‘Clwb Can Mil’, sef y rhestr o ganeuon Cymraeg sydd wedi eu ffrydio dros 100,000 o weithiau ar ar Spotify.

Pedwarawd

Recordiwyd yr albwm ‘II’ yn Stiwdio Sain gan aelodau Bwncath sef Elidyr Glyn (prif lais a gitâr acwstig), Robin Llwyd (gitâr drydan a llais cefndir), Alun Williams (gitâr fas a llais cefndir) a Twm Ellis (drymiau a llais cefndir).

Bellach, mae’r 4 aelod yn gigio’n rheolaidd gyda’i gilydd ers dros flwyddyn.

“Mae hi wedi bod yn braf iawn recordio’r albwm fel pedwarawd am y tro cyntaf” meddai’r band.

“Mae’n sicr yn teimlo fel cyfanwaith rhwng y pedwar ohonom ni ac yn driw i’n perfformiadau byw.” 

“Rydym yn edrych ymlaen i bawb gael clywed y caneuon newydd, ac yn arbennig y gwesteion gwych sydd wedi cyfoethogi rhai o’r traciau.”

Cynhyrchwyd ‘II’ gan Robin Llwyd a dyluniwyd y gwaith celf gan y ffryntman ei hun,  Elidyr Glyn.

Yn dilyn canllawiau diweddar y llywodraeth o ganlyniad i’r argyfwng Coronavirus, bu’n rhaid gohirio gig lansio’r albwm yng Nghlwb Rygbi Caernarfon ar y 27 Mawrth fel rhan o Nosweithiau Pedwar a Chwech.

Mae’r band yn gobeithio gallu teithio’r albwm dros yr Haf, fel rhan o daith sydd wedi’i chefnogi gan gronfa nawdd Eos.