Mae’r artist ifanc o Fethesda, Dafydd Hedd, wedi rhyddhau albwm newydd ddydd Sadwrn diwethaf, 4 Ebrill.
Hunanladdiad Atlas ydy enw ail albwm y gŵr ifanc, ac mae’n dilyn ‘Y Cyhuddiadau’ a ryddhawyd ganddo yn 2019.
Cyrhaeddodd yr albwm hwnnw restr ’10 Uchaf Albyms 2019’ cylchgrawn Y Selar – rhestr sy’n cael ei ddewis trwy bleidlais gyhoeddus fel rhan o broses Gwobrau’r Selar.
Bu i Dafydd roi blas o’r albwm newydd yn ddiweddar i ni trwy gyhoeddi’r trac ‘Fflamdy’ ar ffurf fideo ar-lein.
Mae’r fideo wedi ei gyfarwyddo gan Hedydd Ioan, gwneuthwr ffilm ifanc o Dyffryn Nantlle sydd wedi cael ei enwi yn un o sêr y dyfodol yng ngwobrau Into Film 2020.
Roedd Dafydd Hedd yn un o’r artistiaid a berfformiodd fel rhan o ŵyl rithiol arbennig ‘Gŵyl Ynysu’ wythnos diwethathaf (Sul 29 Mawrth) – gŵyl oedd yn cael ei chynnal yn gyfan gwbl ar-lein trwy berfformiadau Facebook Live gan yr holl artistiaid.
Diolch i bawb am wylio fy gig ffrydio heno! Gwyl Ynysu gan Y Selar di bod yn class hyd yn hyn!Mi rydw i hefyd yn casglu pres at banciau bwyd ym Methesda oherwydd amser anodd mae rhai yn cael gyda COVID-19! Dyma’r lincwww.buymeacoffee.com/DafydHedd
Posted by Dafydd Hedd on Sunday, 29 March 2020
Penderfynodd y cerddor ifanc droi at lwyfannau ar-lein ar gyfer lansio’r albwm newydd nos Wener (3 Ebrill) wrth iddo gynnal gig digidol ar ei Facebook Live ac Instagram Live.
Mae’r Dafydd wedi rhyddhau’r albwm yn annibynnol, ac mae modd ffrydio a lawr lwytho o’r mannau digidol arferol.
Dyma’r lansiad swyddogol ar Facebook Live wythnos diwethaf:
Gig lawnsio albwm Hunanladdiad Atlas:link i brynu/gwrando ar yr albwm: www.album.link/5g6WQ3xnhw68xdonation link: www.buymeacoffee.com/DafyddHedd
Posted by Dafydd Hedd on Saturday, 4 April 2020