Mae’r grŵp ôl-bync o Gaerdydd, SYBS, wedi rhyddhau eu hail sengl ddydd Gwener diwethaf, 3 Ebrill.
‘Cwyr’ ydy enw’r trac newydd sy’n ddilyniant i’w sengl gyntaf, ‘Paid Gofyn Pam’ a ryddhawyd fis Ebrill diwethaf. Fe sefydlodd honno’i hun fel un o anthemau’r haf llynedd wrth i’r grŵp ifanc wneud y rownds yn y gwyliau Cymreig a gigs eraill oedd yn cynnwys Gŵyl SUNS yn Yr Eidal.
Mae albwm ar y gweill gan y pedwarawd hefyd, ac maent eisoes wedi treulio deuddydd dwys yn recordio hanner traciau’r record hir gyda’r cynhyrchydd amlwg Steffan Pringle. Rhan o ffrwyth llafur y dyddiau hynny ydy’r sengl newydd sydd wedi’i hysbrydoli’n rhannol gan gyflwr meddwl ffryntman y grŵp, Osian Llŷr.
“Cân am osgoi gwaith a’r rôl y mae anwybodaeth yn ei gymryd mewn cymdeithas, sut mae cyfalafiaeth yn portreadu prynwriaeth fel gwrthgyffur i broblemau pobl yn hytrach na rhoi atebion a datrysiad i faterion sy’n poeni pobl” meddai Osian.
“Mae’r gân hefyd am yr ymateb greddfol o roi pen yn y tywod wrth wynebu tasgau a heriau mawr mewn bywyd. Er bod y geiriau, yn wreiddiol, wedi’u hysbrydoli gan fy mhrofiadau personol i o iechyd meddwl, roeddwn yn awyddus i bobl ddehongli’r geiriau eu hun.
“Dwi wrth fy modd yn ychwanegu elfennau swreal a seicadelic i’r geiriau personol, dwi’n hoffi hefyd gadael i’r gwrandäwr ddehongli’r gân yn ei ffordd ei hun. Er bod y gân yn trafod teimladau cyffredinol, dwi’n gobeithio y gallai’r bobl uniaethu â’r teimlad gan ychwanegu eu stori i’r gân.”
Bydd SYBS yn perfformio’r sengl newydd yn y diweddaraf o ddarllediadau ‘Maes B o bell’ ar Instagram Maes B nos Iau yma.
I gyd-fynd â rhyddhau’r sengl, mae cyfres Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y trac at eu llwyfannau digidol.