Rhyddhau albwm aml-gyfrannog Cofi 19

Mae label Recordiau Noddfa wedi rhyddhau’r albwm aml-gyfrannog, ‘COFI 19’, yn ddigidol ar eu safle Bandcamp.

Rhyddhawyd sengl gan Papur Wal a Pasta Hull, ‘dennis bergkamp till i die’, bythefnos yn ôl fel tamaid i aros pryd, gydag addewid y byddai’r albwm llawn yn gweld golau dydd cyn diwedd mis Gorffennaf.

Gwireddwyd yr addewid hwnnw wrth i’r albwm ymddangos ar safle Bandcamp Noddfa ar ddydd Gwener 24 Gorffennaf.

Casgliad o draciau wedi eu curadu gan Pasta Hull yn ystod cyfnod y cloi mawr ydy ‘COFI 19’.

Mae’n cynnwys 22 o draciau i gyd gan lwyth o artistiaid sy’n cynnwys Kim Hon, Pys Melyn, Pasta Hull, Cefn Du, Rhys Trimble, 3 Hwr Doeth a Twmffat i enwi dim ond rhai.