Rhyddhau albwm cyntaf Ghostlawns

Mae Ghostlawns, wedi rhyddhau eu halbwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 30 Hydref.

Motorik ydy enw’r albwm, a bu cryn edrych ymlaen at record hir cyntaf y grŵp o Gaerdydd ers iddynt ryddhau’r sengl ‘Ffoi’ fel tamaid i aros pryd ddechrau mis Medi.

Roedd ‘Ffoi’ yn ddilyniant i’r sengl Saesneg, ‘Breaking Out’, a ryddhawyd ym mis Mawrth eleni, ynghyd a’r trac hyrwyddo ‘Y Gorwel’ a ryddhawyd i’r cyfryngau.

Er mai eleni rydym yn gweld y cynnyrch cyntaf gan Ghostlawns, mae’r grŵp wedi ymddangos mewn gwyliau showcase sy’n cynnwys FOCUS Wales a gŵyl Sŵn cyn hyn, ynghyd â chyfrannu caneuon ar gyfer albyms aml-gyfrannog ‘Hope Not Hate’ a ‘Iechyd Da’ sef yr albwm deyrnged Gorky’s Zygotic Mynci.

Recordiwyd yr albwm yn stiwdio Music Box, Caerdydd, gyda’r cynhyrchydd Charlie Francis. Mae’r albwm ar gael yn ddigidol ar safle Bandcamp y grŵp, yn ogystal â nifer cyfyngedig o gopïau CD.

Mae eu traciau hyd yma wedi cael eu chwarae ar orsafoedd y BBC ledled Prydain, yn yr UDA, Canada, Ffrainc, Yr Almaen ac Yr Eidal.

Mae union aelodau Ghostlawns yn cael ei gadw’n ddirgel, ond maent i gyd yn gerddorion amlwg yng Nghymru ac wedi chwarae mewn grwpiau sy’n cynnwys Right Hand Left Hand, Gulp, The Gentle Good, Cotton Wolf, Manchuko a Damo Suzuki.

Dyma drac arall o’r albwm, ‘Y Gorwel’: