Mae’r prosiect tecno electroneg o ganolbarth Cymru, Machynlleth Sound Machine, wedi rhyddhau albwm newydd ddydd Gwener diwethaf, 29 Mai.
Machynlleth Sound Machine ydy prosiect y cerddor hynod Geraint Ffrancon sydd wedi bod yn gyfrifol am nifer o brosiectau cerddorol eraill gan gynnwys Blodyn Tatws, Stabmaster Vinyl, Seindorff a Ffrancon a ryddhaodd yr albwm cofiadwy ‘Ewropa’ llynedd.
Geraint sydd hefyd yn gyfrifol am label recordiau ‘Recordiau’, sy’n gyfrifol am ryddhau’r albwm newydd sy’n rhannu enw’r prosiect.
Mae’n debyg mai darganfyddiad ar hap fod Belleville, man geni tecno Detroit, yn efeilldref â Machynlleth, arweiniodd at greu Machynlleth Sound Machine.
Yn sianelu ysbryd gwrthryfelgar y ddau fan gwahanol iawn yma trwy gyfrwng cerddoriaeth electroneg, y canlyniad ydy cerddoriaeth tecno wedi ei drochi yn nharth cannoedd o flynyddoedd o hanes Cymru a stormydd de-orllewinol – fersiwn Cambroddyfodolaidd o un o hoelion wyth Affroddyfodoliaeth.
Bydd cyfle i ddysgu mwy am yr albwm mewn cyfweliad ar raglen BBC Radio Cymru Huw Stephens ar nos Iau 4 Mehefin Mehefin.
Mae modd gweld fideo ar gyfer un o draciau’r albwm, ‘Machynlleth/Detroit’, ar wefan AM Cymru. Mae’r fideo’n gwrthgyferbynu’r ddau leoliad tra wahanol yma, ac yn archwilio’r ysbryd gwrthryfelgar sy’n eu gludo at ei gilydd.