Rhyddhau Albwm Mared

Mae Mared wedi rhyddhau ei halbwm newydd ddydd Gwener diwethaf, 21 Awst.

‘Y Drefn’ ydy enw record hir gyntaf y gantores dalentog o Lanfairtalhaiarn ger Abergele ac mae cryn edrych ymlaen at y casgliad yn dilyn rhyddhau cyfres o senglau fel tameidiau i aros pryd.

Cyhoeddwyd y ddiweddaraf o’r senglau hyn, ‘Pontydd’, ddiwedd mis Gorffennaf ond cyn hynny fe welwyd ‘Dal ar y Teimlad’ (Mehefin 2019), ‘Y Reddf’ (Gorffennaf 2019) ac ‘Over Again’ ym mis Mehefin eleni i roi blas o’r hyn i ddod.

Bydd Mared yn gyfarwydd i lawer fel aelod o’r grŵp o Ddyffryn Clwyd, Trŵbz. Mae hefyd yn prysur greu enw i’w hyn ym myd y sioeau cerdd – yn wir, roedd i fod yn rhan o gast sioe West End ‘Les Mis’ yn y Theatr Sondheim, Llundain ddechrau’r flwyddyn eleni.

Cafodd senglau cyntaf Mared dderbyniad arbennig ar raglenni Janice Long, Adam Walton a Bethan Elfyn ar BBC Radio Wales, yn ogystal â dennu sesiynau byw a chyfweliadau ar sioeau Georgia Ruth a Huw Stephens ar BBC Radio Cymru.

Ym mis Tachwedd, gwahoddwyd Mared i berfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC mewn cyngerdd a ddarlledwyd yn fyw i ddathlu 50 mlynedd ers dechrau label Sain.

Roedd modd gwylio gig lansio rhithiol yr albwm ar wefan AM ddydd Gwener diwethaf, gyda’r gantores yn perfformio’r casgliad yn llawn o Stiwdio Sain yn Llandwrog.

Label recordiau I KA CHING sydd wedi rhyddhau’r albwm, ac i gyd-fynd â’r record roedd nifer cyfyngedig o ‘fwndeli’ arbennig albwm Mared ar gael oedd yn cynnwys print o lun wedi’i greu gan Mared ei hun.

Dyma fideo’r sengl ‘Pontydd’ sydd wedi’ gyfarwyddo gan Griff Lynch: