Rhyddhau albwm newydd hippies vs ghosts

Mae hippies vs ghosts wedi rhyddhau albwm newydd i’w lawr lwytho ar Bandcamp dros y penwythnos.

‘intervention’ ydy enw’r casgliad 13 trac  newydd, ac mae ar gael yn rhad ac am ddim.

hippies vs ghosts ydy prosiect y cerddor Owain Ginsberg  sydd wedi bod yn aelod o sawl band yn y gorffennol gan gynnwys Gogz, The Heights a We Are Animal.

Mae’r rhan fwyaf o gerddoriaeth hippies vs ghosts yn offerynol, er bod llais i’w glywed ar rai traciau. Mae’n debyg y gellir disgrifio’r sŵn fel indie-roc arbrofol.

Ymddangosodd hippies vs ghosts yn wreiddiol yn 2014 gyda’r albwm ‘Mother Tongue’ cyn dilyn yn fuan gydag albwm arall yn 2015, sef ‘DROOGS’. Roedd ei ail albwm yn llwyddiannus iawn, a cafodd ei gynnwys ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig y flwyddyn honno.

Rhyddhaodd ei drydydd albwm, ‘No left no right’ yn 2018, ac ym mis Ionawr eleni ymddangosodd y cynnyrch diweddaraf ers hynny ar ffurf y sengl ‘Tarw’.

Amodau rhyfedd

Mae’r casgliad newydd wedi’i recordio yn stiwdio Owain ei hun, ac yn wreiddiol doedd dim bwriad ganddo ryddhau’r caneuon fel albwm mae’n debyg.

“Do’n i heb benderfynu rhyddhau’r caneuon yma’n wreiddiol” meddai’r cerddor.

“Nes i ryddhau’r caneuon fyddai fel arall heb weld golau dydd oherwydd yr amodau rhyfedd ‘da ni’n profi ar y funud.

“Os ydy’r albwm yn ddigon o roi gwên ar wyneb o leia’ un person yna ma’n job i wedi’i wneud!”

Sketches

Yn ôl Owain, roedd y rhan fwyaf o draciau’r albwm yn rai bras oedd ganddo ar y gweill ac yr aeth ati i’w datblygu rhywfaint cyn rhyddhau.

“Mae ‘na lot o sketches ar y record yma lle mae cymysgedd o syniadau oddi ar y prif gyfrifiadur yn y stiwdio – dwi’n licio cymysgu y synau i fyny” eglura.

Y newyddion da pellach ydy fod albwm arall ar y gweill gan hippies vs ghosts, ac mae Owain yn gobeithio rhyddhau erbyn mis Awst eleni.

“Bydd yr albwm yma’n hollol wahanol oherwydd jyst caneuon fydd ar y record yn lle sketches – dwi’n edrych ymlaen at ryddhau hwna.