Bydd casgliad o’r caneuon gorau a ryddhawyd gan y label o’r 1980au, Recordiau Anhrefn, yn cael ei ryddhau’n ddigidol ar 2 Hydref.
Basydd y grŵp Anhrefn, a’r hyrwyddwr, Rhys Mwyn, oedd yn gyfrifol am sefydlu label Recordiau Anhrefn yng nghanol y 1980au.
Rhyddhawyd record gyntaf y label ym 1984 ar ffurf y record feinyl 7” lliw gwyrdd. Hon hefyd oedd sengl gyntaf y grŵp Anhrefn, sef ‘Dim Heddwch / Priodas Hapus’, ac roedd yn gam arwyddocaol i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes ar y pryd.
Mae’n debyg mai cynnyrch mwyaf arwyddocaol Recordiau Anhrefn oedd y ddau gasgliad aml-gyfrannog dylanwadol, ‘Cam o’r Tywyllwch’ a ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’, ond cafwyd hefyd cyfres o senglau ac EPs arwyddocaol gan grwpiau fel Y Cyrff, Datblygu, Tynal Tywyll, Llwybr Llaethog, Elfyn Presli, Heb Gariad a llawer mwy.
Llwyddodd y label i ddenu sylw ar donfeddi Radio 1 ac ar dudalennau cylchgrawn yr NME, ac mae’n deg dweud bod dylanwad oes byrhoedlog y label yn dal i gael ei deimlo hyd heddiw.
“Casgliad rhyfeddol o gymeriadau creadigol rhyfeddol i gyd yn canu ar un pryd yng Nghymru yng nghanol y 1980au” ydy disgrifiad Rhys Mwyn o gyfnod y label.
Ar 2 Hydref bydd Recordiau Anhrefn yn dechrau rhyddhau eu catalog i’w ffrydio ar lwyfannau digidol am y tro cyntaf gyda chasgliad ‘Recordiau Anhrefn Vol 1’.
Yn ôl y label mae’r casgliad yn un o ‘ganeuon pop perffaith’. Mae’r traciau ar y casgliad cyntaf yn cynnwys rhai cynnar gan Y Cyrff, Tynal Tywyll a Datblygu ynghyd â llwyth o fandiau arwyddocaol eraill.
I gyd-fynd â rhyddhau’r casgliad bydd darllediad cyntaf o ddigwyddiad cofiadwy mewn dwy ran ar wefan AM.
Ym mis Awst 1986 trefnodd Recordiau Anhrefn, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a’r Mudiad Gwrth Apartheid gig o’r enw ‘Fy Nhethau yn Ffrwydro Gyda Mwynhad’ yng Ngwsty’r Marine yn Aberystwyth.
Mae’r gig yn rhan o chwedloniaeth pop Cymraeg ond dogfennwyd y cyfan ar y pryd gan y cyfarwyddwr Pete Telfer (Culture Colony) a bydd cyfle i weld y cyfan am y tro cyntaf erioed ar wefan AM ar brynhawn 29 Medi a nos 1 Hydref.
Mae’r perfformiadau’n cynnwys rhai gan Anhrefn, Y Cyrff, Datblygu, Elfyn Presli, Igam Ogam, Camelod Fflat a Davyth Hicks ynghyd â chyfweliadau gyda’r artistiaid a’r trefnwyr.
Dyma Elfyn Presli: