Rhyddhau albyms Endaf Emlyn yn ddigidol am y tro cyntaf

Bydd Recordiau Sain yn rhyddhau tri o albyms y cerddor chwedlonnol, Endaf Emlyn, ar lwyfannau digidol am y tro cyntaf ddydd Gwener nesaf, 12 Mehefin.

Y tair record dan sylw ydy ‘Salem’, ‘Syrffio Mewn Cariad’ a ‘Dawnsionara’.

Dechreuodd Endaf Emlyn ei yrfa gerddorol trwy ryddhau ambell record yn Saesneg yn y chwedegau, a hynny ar label enwog Parlaphone, cyn troi at y Gymraeg. Ei albwm Cymraeg cyntaf oedd Hiraeth, a ryddhawyd ym 1973 ar label Recordiau Dryw.

Er hynny, mae’n siŵr mai ei ail albwm, Salem, a ryddhawyd ym 1974 ar Recordiau Sain ydy’r enwocaf. Mae hynny’n rhannol oherwydd y clawr eiconig sy’n cynnwys llun enwog yr artist Sydney Curnow Vosper, ond hefyd gan mai albwm cysyniadol oedd Salem –  yn wir, mae’n cael ei chydnabod fel y record gysyniadol gyntaf yn y Gymraeg.

‘Syrffio Mewn Cariad’, a ryddhawyd ym 1976 oedd ei drydydd albwm unigol yn y Gymraeg ac fe ryddhaodd ‘Dawnsionara’ i gwblhau triawd o albyms ar label Sain ym 1981.

Roedd Endaf hefyd yn aelod o’r grwpiau Yr Eiddoch yn Gywir, Injaroc a Jîp dros y blynyddoedd ac mae hefyd yn adnabyddus am ei waith cyfansoddi ar gyfer ffilm a theledu – efallai mai ei gyfansoddiad enwocaf ar gyfer teledu ydy alaw thema cyfres Pobol y Cwm. Mae hefyd wedi gwneud enw i’w hun fel cyfarwyddwr ffilm a theledu llwyddiannus.

Rhyddhawyd casgliad o gynnyrch Endaf Emlyn gan Sain dan yr enw ‘Dilyn y Graen’ yn 2001, ac yn 2009 fe ryddhaodd albwm gwreiddiol arall o’r enw ‘Deuwedd’.

Bydd cyfle i glywed Endaf Emlyn yn sgwrsio gyda Elan Evans fel rhan o weithgareddau Eisteddfod Amgen bnawn fory (Mercher 10 Mehefin) am 5:30 ar dudalen Facebook yr Eisteddfod.