Rhyddhau cryno albwm Static Inc

Fis ar ôl rhyddhau eu sengl gyntaf, mae’r grŵp ifanc o Gaerdydd, Static Inc, wedi rhyddhau eu cryno albwm cyntaf ddydd Gwener diwethaf, 2 Hydref.

Rhyddhawyd y sengl ‘Tangelo’ ganddynt reit ar ddiwedd mis Awst, ac fe gafodd y trac ymateb da iawn dros yr wythnosau ar ôl hynny.

Er mai hon oedd eu sengl gyntaf, datgelodd y grŵp ar y pryd ei bod ar y gweill ganddynt ers 2018 mewn gwirionedd.

Wrth ryddhau’r sengl gyntaf, fe addawodd Static Inc y byddai mwy o gerddoriaeth yn dilyn yn fuan, ac maent wedi cadw at yr addewid hwnnw trwy ryddhau’r cryno albwm chwe thrac yn ddigidol.

Beth Nawr?

Enw’r casgliad o ganeuon, sy’n cynnwys ‘Tangelo’ a pum trac arall ydy ‘Beth Nawr?’.

Grŵp roc tri aelod o Gaerdydd ydy Static Inc ac maent wedi’i ddylanwadu arno gan grwpiau fel Cocteau Twins, Talking Heads a Santana.

Mae amgylchedd y brifddinas yn ddylanwad mawr ar sŵn y grŵp, sydd, i ddefnyddio disgrifiad y grŵp yn “concrete jungle” sy’n symud o heddwch i ‘hectic’ yn sydyn, fel bywyd yn y ddinas.

Er bod y grŵp yn enw newydd, ac mai dyma ydy eu sengl gyntaf, mae’n ymddangos fod y trac ar y gweill ers peth amser, fel yr eglura Dan o’r band.

“Penderfynom ni ein bod ni eisiau ysgrifennu cerddoriaeth gyda themâu metropolitaidd, gan nad oedden ni’n teimlo bod digon o safbwyntiau Cymraeg ar y cysyniad yna” eglura Dan o’r grŵp.

Mae’r casgliad newydd yn parhau i drafod themâu’r ddinas o safbwynt Cymreig yn ôl Dan

“….gyda threfniadau gwasgarog a hectic, ynghyd â cherddoroldeb ‘chaotic’ ond dyrys.”

Cynhyrchwyd y gân gan Dan ei hun, a dywed ei fod wedi anelu at awyrgylch ‘lived-in’ trwy ddefnyddio offerynnau a chyfarpar sydd ddim yn rhy ddrud, a thechnegau recordio syml ond anarferol.

Mae’r cryno albwm ar gael trwy Spotify, Apple Music a safle Bandcamp Static Inc.