Mae fersiwn cyfyr Nadoligaidd Mared Williams a Rhys Gwynfor o gân wreiddiol Celt, ‘Rhwng Bethlehem a’r Groes’ wedi’i rhyddhau’n swyddogol gan Recordiau Côsh.
Recordiwyd y gân llynedd ar gais criw rhaglen Tudur Owen ar BBC Radio Cymru – dyma oedd yr ail waith i dîm y rhaglen ofyn i artist roi naws Nadoligaidd ar hen glasur ar ôl i Ffion Emyr recordio fersiwn o ‘Tri Mis a Diwrnod’ gan Vanta y flwyddyn flaenorol.
Nawr mae Côsh wedi penderfynu rhyddhau’r trac yn swyddogol. Ifan Davies a Rich Roberts sy’n gyfrifol am yr addasiad o ‘Rhwng Bethlehem a’r Groes’ ac mae’r canwr opera lled-enwog, Bryn Terfel, yn gwneud ymddangosiad cameo ar y fersiwn newydd.
Crëwyd fideo ar gyfer y gân o ddeunydd archif BBC llynedd, a dyma fo: