Bron dair blynedd ar ôl rhoi’r gorau i berfformio fel band, mae Yws Gwynedd wedi rhyddhau sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, 22 Mai.
‘Deryn Du’ ydy enw’r trac newydd gan y cerddor poblogaidd, ac mae’n gân sydd wedi’i hysgrifennu a recordio fel ymateb i sefyllfa bresennol y cloi lawr, gyda’r holl waith cyfansoddi a recordio yn digwydd yn rhithiol dros gyfrwng Zoom.
Chwaraeodd Yws Gwynedd ei gig diwethaf ar lwyfan yng Ngŵyl Rhif 6, Portmeirion, ym mis Medi 2017 yn dilyn pedair blynedd aruthrol o lwyddiannus a’i welodd yn ennill 11 o Wobrau’r Selar rhwng 2014 a 2017.
Ers hynny mae wedi bod yn canolbwyntio ar waith gyda’i label, gan helpu grwpiau eraill i ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol ac wedi cael llwyddiant mawr wrth hyrwyddo grwpiau ifanc fel Alffa a Gwilym.
Dim diben
Bydd tipyn o gyffro felly o’i weld yn rhyddhau cerddoriaeth newydd, ac ers y cyfnod o ymbellhau cymdeithasol, mae wedi gweithio’n agos gydag aelodau ei fand wrth ysgrifennu a recordio’r trac newydd.
Un o’r aelodau hynny ydy’r drymiwr, a’r cynhyrchydd llwyddiannus Rich James Roberts. Rai dyddiau cyn y cloi lawr, fe symudodd Rich ei offer stiwdio i mewn i’r llofft sbâr yn ei dŷ ym Mhorthmadog, gan ei alluogi i ddal ati gyda’i waith.
Cafodd y band y syniad o drio ysgrifennu cân dros Zoom, ac wedi cwpl o oriau o rannu syniadau, gannwyd ‘Deryn Du’. Doedd dim diben i greu’r gân, mwy na ffeindio rhywbeth cyffrous a newydd i’w wneud, ond wrth iddi siapio, roedd hi’n glir ei bod hi’n werth rhannu’r canlyniad efo’r byd.
Mae’n debyg mai dyma’r tro cyntaf i’r band gynhyrchu rhywbeth mor sydyn, gyda’r ysgrifennu, recordio a chymysgu’n digwydd mewn wythnos ac yna’n cael ei uwch lwytho i’r dosbarthwr yn syth er mwyn rhyddhau ar y dydd Gwener cyntaf bosib.
Bu’r wythnos yn y stiwdio rithiol yn un ddiddorol, ond ddim yn rhy wahanol yn ôl Ywain Gwynedd.
“Oedd 90% o’r amser dal yn cael ei dreulio yn trafod pyramids, tumble dryers, bwyd a’n bywydau personol, ac yna 10% o’r amser yn cael ei neulltio i’r gerddoriaeth” meddai’r cerddor.
“Roedd pawb wedi sylwi fod y cyfnod dan glo yn gallu arwain at donnau o deimladau od, wnaeth creu’r gân wneud i ni gyd deimlo’n well a ‘da ni’n gobeithio fydd o’n cael yr un effaith ar unrhywun sy’n gwrando.”
Mae ‘Deryn Du’ allan nawr ar Recordiau CÔSH.
I gydfynd â rhyddhau’r sengl mae hefyd modd gwylio fideo sy’n datgelu mwy am y broses o ysgrifennu a recordio ‘Deryn Du’ – mae modd gwylio’r fideo Zoom ar sianel CÔSH ar AM nawr.
Dyma ‘Deryn Du’: