Mae cynnyrch cerddorol cynharaf Swci Boscawen ar gael i’w lawr lwytho a ffrydio’n ddigidol ar y llwyfannau arferol am y tro cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 4 Medi.
Swci Boscawen oedd prosiect eiconig y gantores Mared Lenny o Gaerfyrddin a ffrwydrodd i amlygrwydd tua 2005, a chreu impact mawr dros y blynyddoedd a ddilynodd.
Roedd Mared eisoes wedi gwneud enw i’w hun ar y sin gerddorol ers sawl blwyddyn cyn hynny fel prif ganwr y grŵp pync o Gaerfyrddin, Doli, ers yn ferch ifanc 12 oed.
Rhyddhawyd dwy sengl, sef ‘Swci Boscawen’ (2005) a ‘Min Nos Monterey’ (2006) ar is-label Fflach, sef Rasp, ynghyd â’r albwm ‘Couture C’Ching’ yn 2007. Cyn hyn, ddim ond ar ffurf CD roedd rhain ar gael.
Bu iddi hefyd ryddhau’r senglau pellach ‘Eira Gwyn’ (2008) a ‘Super’ (2010) yn annibynnol.
Yn anffodus cafodd Mared ei tharo’n sâl yn 2010 gan orfod rhoi’r gorau i’w gyrfa gerddorol. Er hynny mae wedi ail-ddyfeisio ei hun wrth droi ei sylw at gelf gweledol a chael llwyddiant aruthrol gyda’i gweithiau celf unigryw dan yr enw Swci Delic.
Dyma’r anthem ‘Adar y Nefoedd’ oedd ar y sengl ‘Min Nos Monterey’: