Rhyddhau EP ‘A i Z’ Datblygu

Bydd record fer newydd gan Datblygu yn cael ei ryddhau ddydd Gwener nesaf, 18 Rhagfyr.

‘A i Z’ ydy enw’r EP sydd allan ar label Ankstmusik, ac mae’n dilyn yr albwm, ‘Cwm Gwagle’ a ryddhawyd ym mis Awst.

Roedd prif drac yr EP newydd, sy’n rhannu enw’r record, hefyd ar yr albwm. Trac a ddisgrifiwyd gan y cylchgrawn cerddoriaeth amlwg, The Quietus fel ‘a fizzy noise trip through spaghetti western electro’, wrth i’r albwm gael ei ddewis ymysg albyms y flwyddyn y cylchgrawn.

Mae’r EP hefyd yn cynnwys un arall o draciau mwyaf poblogaidd yr albwm, ‘Bwrlwm Bro’, ynghyd â phum trac byw a recordiwyd yng ngŵyl ‘Psylence’ ym Mangor nôl yn 2017. Ymysg y traciau byw hynny mae fersiwn o ‘Problem yw Bywyd’ sef y gân gyntaf erioed â gyfansoddwyd gan y grŵp ar ddechrau’r 1980au.

Bydd yr EP ‘A i Z’ allan yn ddigidol ar ddydd Gwener 18 Rhagfyr.