Rhyddhau EP Bronwen Lewis

Mae’r gantores Bronwen Lewis wedi rhyddhau EP newdd o’r enw ‘Simple Things’ ers dydd Gwener diwethaf, 4 Rhagfyr.

Mae Bronwen wedi cadw’n brysur yn ystod 2020 gan gynnal perfformiadau rheolaidd ar ei thudalen Facebook, gan gyrraedd cynulleidfa o dros 500,000 o bobl yn ystod cyfnod y pandemig.

Fel mae’r enw’n awgrymu, mae’r EP newydd yn trafod y pethau syml – y pethau ry’n ni mor ddiolchgar amdanynt yn ystod cyfnod y Nadolig – bod yn agos i’r bobl rydyn ni’n eu caru.