Rhyddhau EP cyntaf Eilir Pierce ers pum mlynedd

Mae’r cerddor amgen, arbrofol, gwych…ac ychydig bach yn wallgof, Eilir Pierce, wedi rhyddhau ei EP newydd ers dydd Iau 30 Gorffennaf.

Dyma gynnyrch cyntaf y cerddor a gwneuthurwr ffilm ers yr EP o’r enw 36, a ryddhawyd ganddo yn 2015.

Roedd hwnnw’n ddilyniant i EP arall o’r enw 2012, sef casgliad o draciau byw a sesiwn, a ryddhawyd ganddo’n gynharach yn y flwyddyn honno.

“Cyfrifiaduron yn gwylltio fi”

Fel mae’r enw’n awgrymu, mae’r casgliad byr diweddaraf yn gweld Eilir yn troi at yr ukulele fel prif offeryn ar gyfer y naw trac sydd ar y casgliad.

Roedd ei EP diwethaf wedi’i recordio ar hen beiriant recordio pedwar trac, ond mae’r casgliad newydd yn ddigidol, er bod Eilir yn pwysleisio mai pedwar trac sydd ganddo ar y peiriant recordio unwaith eto.

“Ma hwn yn hollol advanced i gymharu [â 36] gan ei fod o’n ddigidol ond dal dim ond pedwar trac sydd genna’i ar y peiriant recordio” meddai Eilir.

“Dwi wedi osgoi dod â chyfrifiadur i mewn i’r broses achos ma cyfrifiaduron yn gwylltio fi.”

“Y syniad o gyfyngu fy hun i recordio caneuon llif yr ymennydd gyda ukulele a llais yn unig. Fel arfer dim ond y take cyntaf sy’n cael ei ddefnyddio, y take lle ma’r gân yn cael ei chyfansoddi yw hwnnw.”

“Dwi’n licio elfen byrfyfyr y peth, wastad wedi. Mae’n od neud o ar ben fy hun, ond fel hyn oeddwn i’n recordio 25 mlynedd yn ôl ac yn teimlo’n llai self concious.”

Albwm yn ormod

Casgliad o faledi ar yr ukulele sydd ar yr EP, ac mae natur syml y caneuon yn golygu nad oedd angen llawer o gymorth gan y dechnoleg i recordio.

“Dwi wedi rili godro’r peiriant pedwar trac, gan mai dim ond un trac mae’r ukulele yn cymryd, sy’n gadael tri trac i fi chwarae o gwmpas efo’r lleisiau…felly ma lleisiau yr harmoni fel rhyw gymeriadau eraill.”

Er mai dyma gynnyrch cyntaf Eilir ers pum mlynedd, mae’r cerddor yn pwysleisio nad yw’r casgliad wedi cymryd pum mlynedd i’w greu. Fe gymerodd yn nes ar bum niwrnod mewn gwirionedd, .

“Dio defnitely heb gymryd pum mlynedd i greu, mwy fel pum diwrnod gan gynnwys y cymysgu ag y clawr.

“Dwi’n meddwl mai yr hira oedd yr amser yn mynd o ohirio gwneud miwsig, y mwyaf ofnus oedd o i wneud rhywbeth, felly roedd hwn yn ffordd dda o roi her i fy hun a chreu EP mewn llai nag wythnos” meddai Eilir.

“Ma galw fo’n EP, gan ei fod o’n llai na 25 munud, yn helpu hefyd… fyse ukulele album yn ormod!”

Mae’r EP newydd yn cael ei ryddhau’n annibynnol ar safle Bandcamp Eilir.