Rhyddhau EP Hap a Damwain

Mae’r grŵp Hap a Damwain wedi rhyddhau EP newydd ar eu safle Bandcamp.

Ynysig #1 ydy enw’r casgliad byr newydd o ganeuon, ac mae’n cynnwys pedwar trac – mae dau o’r rhain, sef ‘Methodist’ a ‘Tŷ Baw’ eisoes wedi’u rhyddhau fel senglau, ond mae’r ddau drac arall, ‘Tybio’ a ‘Tagsville UK’ yn gweld golau dydd am y tro cyntaf.

Wynebau cyfarwydd

Mae Hap a Damwain yn grŵp newydd sy’n cynnwys wynebau cyfarwydd i’r sin gerddoriaeth Gymraeg – mae’r ddau aelod yn gyn-aelodau o’r grŵp Boff Frank Bough, sef grŵp o Ddyffryn Conwy a Dyffryn Clwyd oedd yn amlwg yn y 1980au.

Ail-ffurfiodd y grŵp i berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst llynedd ac ers hynny mae dau o’r aelodau wedi mynd ati i ddechrau’r prosiect newydd.

Aelodau Hap a Damwain ydy’r canwr Aled Roberts, sydd hefyd yn chwarae’r organ, a Simon Beech ar y gitâr a phopeth arall. Mae Aled Roberts hefyd yn aelod o’r grŵp Dau Cefn.

Er mai dim ond ers rhai misoedd maen nhw’n bodoli, ‘Ynysig #1’ ydy ail EP Hap a Damwain – rhyddhawyd EP o’r enw ‘Bws 10’ ganddynt yn ddigidol ar ddechrau mis Chwefror.

Mae’r EP hwnnw ar gael ar safle Bandcamp y grŵp yn ogystal ag ar y llwyfannau digidol arferol eraill.

Mae Aled a Simon wedi bod yn gynhyrchiol iawn yn ystod y cyfnod yma o Ynysu.

Yn ogystal â’r senglau ac EP maent hefyd wedi cyhoeddi fideos ar gyfer y traciau ‘Methodist’ a ‘Tŷ Baw’.

Dyma ‘Methodist’: