Rhyddhau EP Plyci

Mae’r artist electronig Plyci wedi rhyddhau EP newydd ar drothwy’r Nadolig

‘Summit’ ydy enw’r casgliad byr newydd a ryddhawyd ar 24 Rhagfyr, ac mae’n cynnwys pedwar trac sef ‘Purplenoise’, ‘Milkfloat Catastrophe’, ‘Summit’ a ‘Jannerkone’.

Plyci ydy prosiect y cerddor Gerallt Ruggiero, a ddaw’n wreiddiol o‘r Rhyl, ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Nottingham.

‘Summit’ ydy ei ail EP o’r flwyddyn yn dilyn casgliad byr arall o’r enw ‘Tannau’ a ryddhawyd ym mis Mai 2019. Roedd yr EP hwnnw’n cynnwys pedwar trac hefyd sef  ‘Natur’, ‘SPR30’, ‘Tannau’ a ‘Ni All Gannwyll Ddiffodd Yng Ngofal y Ddraig’.

“Jyst casgliad bychan o draciau dwi wedi gorffen dros yr haf” meddai Gerallt wrth drafod yr EP newydd.

“Fel y rhan helaeth o fy ngwaith diweddaraf i, casgliad o berfformiadau byw ar synths modular ydy’r traciau i gyd.”

Mae’r traciau i gyd wedi eu recordio gan Gerallt ei hun, a’r newyddion da pellach ydy bod Plyci ar fin dechrau gweithio ar record hir newydd.