Mae Ghostlawns, wedi rhyddhau eu hail sengl ar Bandcamp a llwyfannau ffrydio digidol eraill ers dydd Gwener diwethaf, 4 Medi.
‘Ffoi’ ydy enw’r trac newydd gan grŵp dirgel o Gaerdydd, ac mae’n ddilyniant i’r sengl Saesneg, ‘Breaking Out’, a ryddhawyd ym mis Mawrth eleni.
Mae’r ddau drac yn dameidiau i aros pryd nes rhyddhau eu halbwm cyntaf, ‘Motorik’, fydd allan ar 30 Hydref eleni.
Mae ‘Ffoi’ yn cynnwys riffts gitâr cryf, synths a llais amgylchynol, ynghyd â drymiau byw gan gynnig sain sy’n cyferbynnu â’r sengl gyntaf.
Roedd cyfle cyntaf i glywed ‘Ffoi’ ar wefan Y Selar bythefnos yn ôl.
Dirgel ond dawnus
Er mai eleni rydym yn gweld y cynnyrch cyntaf gan Ghostlawns, mae’r grŵp wedi ymddangos mewn gwyliau showcase sy’n cynnwys FOCUS Wales a gŵyl Sŵn cyn hyn, ynghyd â chyfrannu caneuon ar gyfer albyms aml-gyfrannog ‘Hope Not Hate’ a ‘Iechyd Da’ sef yr albwm deyrnged Gorky’s Zygotic Mynci.
Mae Ghostlawns wedi gorffen recordio eu halbwm cyntaf, ‘Motorik’, yn stiwdio Music Box, Caerdydd, gyda’r cynhyrchydd Charle Francis.
Cafodd eu sengl gyntaf, ‘Breaking Out’, ynghyd â’r trac arall i roi blas o’r albwm, ‘Y Gorwel’, ei chwarae ar orsafoedd y BBC ledled Prydain, yn yr UDA, Canada, Ffrainc, Yr Almaen ac Yr Eidal.
Mae union aelodau’r grŵp yn cael ei gadw’n ddirgel, ond maent i gyd yn gerddorion amlwg yng Nghymru ac wedi chwarae mewn grwpiau sy’n cynnwys Right Hand Left Hand, Gulp, The Gentle Good, Cotton Wolf, Manchuko a Damo Suzuki.