Rhyddhau ‘Haf’ gan Teleri

Mae’r gantores electroneg, Teleri, yn rhyddhau ei sengl ddiweddaraf heddiw, 3 Awst.

‘Haf’ ydy enw’r trac newydd a dyma’r bedwaredd mewn cyfres o senglau gan y gantores sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod misoedd cyntaf 2020.

Mae ‘Haf’ yn dilyn ‘Hawdd’ a ryddhawyd ym mis Gorffennaf, ‘Adenydd’ ddiwedd mis Ebrill ac ‘Euraidd’ ar ddechrau’r flwyddyn.

Teyrnged i dymor yr haf

Mae’r sengl ddiweddaraf yn dynodi bach o shifft yng nghyfeiriad cerddoriaeth Telern sy’n ei gweld yn symud i gyfeiriad newydd o ddatblygu caneuon dawns minimalaidd.

Mae’r trac newydd yn cyd-fynd â’r sengl ddiwethaf, ‘Hawdd’. Dywed y gantores fod ‘Haf’ yn dilyn ‘Hawdd’ fel teyrnged i dymor cynhesaf y flwyddyn. 

Dywed Teleri fod y trac newydd hefyd yn adlewyrchu haf unigryw 2020, ac yn mynegi gobaith at yr haf nesaf.

Mae pedwar darn gwahanol i’r trac sy’n ymarfer creu naws wahanol wrth i’r amser basio.

Roedd cyfle cyntaf i glywed y sengl newydd ar wefan Y Selar dros y penwythnos, cyn iddi gael ei rhyddhau’n swyddogol ar safle Bandcamp Teleri ddydd Llun.