Mae albwm eiconig cyntaf Endaf Emlyn, ‘Hiraeth’ wedi’i ryddhau’n ddigidol am y tro cyntaf ddydd Gwener diwethaf, 17 Gorffennaf.
Fis yn ôl fe ryddhawyd tri o’i albyms diweddarach yn ddigidol am y tro cyntaf gan Recordiau Sain, sef Salem, Syrffio Mewn Cariad a Dawnsionara.
Nawr mae Sain wedi rhyddhau’r albwm cyntaf a ryddhawyd ganddo yn y Gymraeg ar label Recordiau Dryw ym 1972.
Roedd Endaf eisoes wedi cael profiad o recordio senglau cyn 1972, a hynny’n stiwdio enwog Abbey Road ac ar label Parlaphone. Roedd y cerddor ifanc yn awyddus i greu record hir o ganeuon yn y Gymraeg wedi hynny.
“O’n i’n hiraethus iawn bryd hynny, am Ben Llyn a thre Pwllheli” meddai Endaf Emlyn.
“a dyna, os rhywbeth, sy’n cysylltu’r caneuon: hiraeth am adra, a hiraeth a fu.
Mae’r hiraeth hwnnw i’w weld trwy’r albwm mewn caneuon fel ei fersiwn Gymraeg o gân Randy Newman ‘Living Without Tou’, ‘Glaw’ a’r faled enwog ‘Madryn’.
Mae’r dylanwad Americanaidd ar yr albwm yn amlwg, ond hefyd y gwreiddiau Cymreig a’r delweddau glan y môr sy’n gymysg ag arddull delynegol a gallu Endaf i gymysgu genre’s cerddorol.
Recordiwyd yr albwm yn hen stiwdio’r BBC yn Abertwe yn rhannol, a rhai traciau yn stiwdio Rockfield ym Mynwy gyda Mike Parker yn cyd-gynhyrchu gydag Endaf.
Trac ychwanegol
Yn ogystal ag ail-ryddhau’r albwm gwreiddiol yn llawn yn ddigidol am y tro cyntaf, mae Sain hefyd wedi rhyddhau un gân bonws sydd heb ei chlywed erioed o’r blaen, sef ‘Merlyn’. Roedd y trac yn cuddio ar y master gwreiddiol ar gyfer yr albwm.
Hefyd, fel bonws ychwanegol arall mae Sain wedi rhyddhau ail-gymysgiadau o rai o draciau mwyaf poblogaidd Endaf Emlyn gan y cynhyrchydd electronig ifanc o Gaernarfon, ENDAF.
Wedi eu paratoi’n arbennig ar gyfer sesiwn ar raglen BBC Radio Cymru Huw Stehens, mae Endaf wedi dewis trac o bob un o dri albwm cyntaf Endaf Emlyn ar label Sain, sef ‘Nôl i’r Fro’ oddi ar Dawnsionara, ‘Broc Môr’ oddi-ar Syrffio Mewn Cariad, a ‘Laura’ oddi-ar Salem.
Mi wnaeth Y Selar gyhoeddi cyfweliad arbennig gydag Endaf Emlyn nôl yn 2008 wrth iddo ddychwelyd i’r llwyfan am y tro cyntaf ers chwarter canrif yn Sesiwn Fawr Dolgellau y flwyddyn honno. Mae’n gyfweliad bach difyr ac yn werth ei ddarllen eto.